Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

es

es

Y diwrnod cyntaf yr es i i'r chwarel roedd fy mam wedi prynu trowsus newydd corduroy imi, a chôt o liain gwyn.

Pan es i lawr yr ardd ddoe mi welais fod pethau'n dechrau rhyw ymsymud o'u trwmgwsg fel y goeden Forsythia a oedd yn gawod o flodau melyn a'r rheini yn disgleirio yn haul oer y prynhawn.

'Doedd gen' i mo'r iau i wrthod ac mi es.

Be' wnaethoch chi?' 'Mi afaelais yn y procar, ac mi es yn ddistaw yn nhraed fy sana', y tu ôl i'r drws a gofyn, "What do you want?" a dyma lais dyn yn deud, "Let me in.

Ond roedd hi'n edrych yn lled dda pan es i draw i'w gweld hi noson yr angladd.

Ac mi es yn ôl i'r ochr, rhwng y ceir, a throi i far cyfagos am beint.

Pan es lawr yn ôl i'r bar yr oedd fy ffrindiau i gyd eisiau gwybod lle 'roeddwn wedi bod.

Y diwrnod canlynol, es yn ôl y trefniant ar y "tiwb" i gyfarfod â Peter erbyn canol y p'nawn, ac yna i ffwrdd a ni i godi Larry, myfyriwr o Americanwr a oedd hefyd am ddod gyda ni.

'Mi gefais gyfle i'w chyfarfod pan es i draw ddwy flynedd yn ôl i ddarlledu'r Eisteddfod yn fyw o Batagonia...

Yn ôl pob tebyg, darllenid y bucheddau hyn ar wyl y sant(es).

Pan es i Drawsfynydd, roedd yr Atomfa yn dechrau gweithio.

Allan yr es i, a chwilio'n ddistaw bach am y tŷ o'r enw Bwlchmelyn, lle y cafodd y Mr Stanley 'na ffeindiodd Dr Livingstone ei eni, medde-nhw.

Es ymlaen.

' Mi es inna adre' a 'nghynffon rhwng fy ngafl.

Ond rhywsut, collais ef - neu mi es ar ol gap coch o ddosbarth arall.

Y noson honno, daeth Aethwy ar dro i'n llety ni gyda'i stori : Mi es i heibio i Tom yn y coleg 'na, ac mi dudis i wrtho fo, dwi'n gweld mai Thomas Parry sy ar tu allan i'ch llyfr chi, ac nid Tom Parry.

Wel, cyn i mi gychwyn o'r Penmorfa hwnnw mi es i ati hi, i drio deud wrthi hi bod ddrwg gin i glywad am 'i chollad hi, a ...

Pan es i atyn nhw yn y bora, roedd un wedi rhewi'n gorn yn lle odd o'n sefyll.

Roedd hi'n rhy bell i mi fedru'i chymedd hi, felly mi es i'r coed i dorri ffon hir.

Dyna pryd es i i'w nôl.'

pa arwyddocâd sydd yna i enwi'r d ( d ) irgel ddyn ( es ) yn ann griffiths?

Mewn ymateb i'w ymdrech i'w fynegi ei hun, bydd y siaradwr aeddfetach yn cynnig adborth iddo, adborth o fath unigryw sy'n ystyr ganolog ac sydd hefyd yn amddifad o unrhyw elfen fygythiol ee Plentyn Ifanc: "pan" ethin Plentyn Hŷn: Ia, cwpan Gethin ydi honna ynte neu Plentyn: "nath fi myn i Wrecsam efo nain fi Dydd Sadwrn" Athro: "Mi es ti i Wrecsam hefo dy nain Dydd Sadwrn.

Ond drannoeth, mi es i brofedigaeth - mi gollais fy mhysan, - a hynny yn y dre, lle y basach chi'n meddwl y baswn i ei hangan hi fwya.

Mi es i ati, ond dim ond cael gwersi unwaith yr wythnos yn Llangollen, ond wedi symud i Manafon mi ges i afael ar Weinidog nepell o Lanbrynmair, Llanfair Caereinion ac mi es ati o ddifri wedyn i ddysgu.

Mae Kampuchea'n wlad brydferth a thoreithiog ac anodd oedd credu, pan es i yno, fod y wlad bymtheng mlynedd ynghynt wedi diodde' newyn mawr a'i phobl wedi byw drwy gyflafan erchyll a gormes mawr.

Nid i gario bwyd yr es i yno er hynny - fwy nag unrhyw ohebydd arall.

Mi es i â lamp gen i, achos roedd hi'n dywyll yn y dowlad, a hefyd mi fyse wedi hen dywyllu cyn bo fi 'nôl.

Es i gysgu yn swn y morloi yn canu...

Dwi'n gwneud lot o bres oddi ar gefn yr lancs a'r 'bobl bach'." Es i siop yn Tra/ Li a gofyn i'r hen wreigan y tu ôl i'r cownter a fuasai'n gwerthu crib gwallt imi.

Busnes digon od yw angladd, ar y gore, a doedd gan neb ohonon ni fawr ddim i weud pan es i a Jac draw i fesur Madog ac wedyn i fynd a'r coffin draw.

Pan oeddwn i'n ddeunaw oed, a chyn i'r rhyfel dorri, fe es i Goleg Dewis Sant, Llanbedr Pont Sterffan ac ar ôl graddio, mynd ymlaen wedyn i ddarllen diwinyddiaeth a dysgu'r grefft o fod yn berson plwy yng Ngholeg San Mihangel, Caerdydd.

I ddweud y gwir wrthoch chi, Doctor Treharne, roeddwn i wedi bod yn poeni ers misoedd am y peth, ac fe es i mor bell â dweud hynny wrth Proffesor Dalton.

fe es i i'w gweld hi yn ei fflat, ond ond i ddim ateb.

Ond pan aeth hi'n hwyrach ac yn hwyrach a dim sŵn mewian wrth y drws mi es i allan i chwilio amdano fo.

Mi feddyliais wedyn y basa fo'n eitha peth pe taswn i'n cael pysan newydd tra oeddwn i yn y dre, ac mi es i mewn i ryw siop grosar i chwilio am rai.

Es i weld un gwersyll ar yr un pryd â'r Gweinidog dros Ddatblygu Tramor, Lynda Chalker, (Y Farwnes Chalker erbyn hyn).

Es i ymlaen, beth bynnag, gan fod y clerc a'r ynadon yn Gymraeg.

Mi es i fel mellten i drio eu dal - ond doedd dim son am neb!

Eisiau mynd i fyd radio a theledu oeddwn i o'r foment es i mewn i'r stiwdio...

Es ato am sgwrs ac mi ddywedodd: "There's no connection, it's just that it's thirsty work driving the bus." Ar ôl gorffen yfed, aeth y ddau ohonom i'r bws a pharhau'r daith - heb neb yn cwyno nac yn holi cwestiynau.

Ac mi roeddwn i wedi ypsetio cymaint, mi es at ryw blisman oedd yn cyfeirio traffig ar gongl Pendis yn y fan yna, a dyma fi'n deud wrtho fo: "Maddeuwch i mi," medda fi.

Wel, doeddwn i ddim am eistedd yn y bws am ugain munud, ac felly es am beint i'r bar oedd â'i ddrws yn gyfleus iawn yn union gyferbyn â drws y bws.

Bryd hynny ro'n i'n falch nad es i â bwyd na losin iddynt.

`Fe es i nôl i'r gwersyll ac, hyd yn oed yno, doedd fiw imi ddechrau crio.