Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

esboniad

esboniad

Un esboniad tebygol yw fod y lliw gwyn yn ein hatgoffa o rwymynau (bandages) a'r lliw coch yn sumbol o waed.

Felly, pan oedd bechgyn yn pasion well na merched yr esboniad a gynigwyd oedd fod bechgyn yn glyfrach na merched.

Yn oes yr hwyliau diflannodd llawer llong fawr hardd, a'r unig esboniad a roddwyd yn yr ymholiadau swyddogol oedd y tebygolrwydd mai taro rhewfryn a achosodd iddi suddo, gan foddi pob enaid byw heb adael neb i ddweud yr hanes.

Dwi isie esboniad nawr.

Sylwer ar y ddau osodiad: (a) dylid cymryd penderfyniadau mor agos ag sy'n bosib at y dinesydd - ac mae ystyr y gosodiad hwnnw'n glir; a (b) dylid gwneud hynny yn unol ag egwyddor subsidiarity, ond dichon y geilw'r egwyddor honno am esboniad.

Bydd y moddion a ddefnyddir i ddehongli'r cyfrifon a dod o hyd i esboniad ar sefyllfa busnes yn amrywio yn ôl ei natur arbennig.

Roedd y prif esboniad dros golli rhuglder yn gysylltiedig â gadael yr ysgol.

Os yw'r amrywiadau'n ddigon o faint i alw am esboniad, rhaid edrych am y rhesymau paham y digwyddasant.

Yn ystod y tair blynedd ar ddeg ddiwetha daeth mwy a mwy o Gymry i weld bod hyn yn ddifyg sylfaenol, a dyma ran fawr o'r esboniad am yr alwad y dyddiau hyn o blaid trosglwyddo cyfrifoldebau Ysgrifennydd Cymreig i Gynulliad Cymru.

Derbyniodd Ali'r esboniad nes i'r heddlu alw chwarter awr yn ddiweddarach gan ofyn a oedd popeth yn iawn.

Esboniad y ddau feirniad: nid oedd y bryddest ar y testun.

Un esboniad ar y wedd hon ar y nofel (ar wahan i ysgogiad cychwynnol amodau cystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol, a ofynnai am nofel yn ymdrin a thair cenhedlaeth) yw hoffter y Cymry o hal achau, yr ymhyfrydu mewn tylwyth mawr dyrys.

Ar y cyfan, felly, mae'n drawiadol cyn lleied o ddylanwad clasurol a fu ar y rhan fwyaf o farddoniaeth Gymraeg, a naturiol yw chwilio am esboniad ar hyn.

Nid oes angen edrych ymhell am yr esboniad.

Ddaru'r stori%wr ddim cynnig math o esboniad pam yr oedd ysbryd hollol Brydeinig, yn ôl pob golwg, yn cydgartrefu â theulu bach o Iraniaid, na chwaith pam roedd gwyrda o gred Foslemaidd, oedd yn credu mewn adenedigaeth, yn cymryd y fath ddiddordeb mewn ysbrydegaeth.

Roedd ef wedi goroesi `Ogof Angau', ac wedi dod ohoni gydag esboniad paham nad oedd unrhyw fforiwr arall wedi dianc ohoni yn fyw!

Nid oedd gan Gordon Wilson esboniad am ei deimladau.

Mae'r ffigurau uchod ychydig yn annisgwyl o gofio mai dynion yn bennaf sy'n gweithio ar y tir yng Nghymru, ond mae'n bosib mai esboniad am hyn yw mai merched yn bennaf sydd wedi arfer llenwi ffurflenni yn y gymdeithas amaethyddol, ac wedi gwneud hynny yma hefyd ar ran y teulu cyfan.

Ond hwn oedd yr unig esboniad posib!

Mae o'n flaenor Methodus ac yn darllan esboniad neu bregeth bob nos cyn mynd i'w wely.

Y mae i'w ganmol am herio'r esboniad arwynebol hwn.

Pa esboniad sydd am y cyfnod euraidd yma yn ein hanes economaidd?

Daeth yr esboniad ymhen tridiau.

Dyma'r esboniad ar ein tymhorau ni.

Gofyn hyn am esboniad pellach.

Dyna oedd yr esboniad am dawelwch rhyfedd lona !

Aeth yr esboniad yn llawer mwy cymhleth nag yr oedd hi wedi bwriadu iddo fod ac - rhoi i'r pum buwch yn y Cae-dan-tŷ.

Dyna un esboniad pam y ces i fy hun yn eistedd ym mhabell y Cyrnol Gadaffi wrth draed y dyn ei hun - a chael gradd gan Academi Filwrol Merched Libya .

"Potsiars, mae'n sicr," meddai Bill wrthynt, fel rhyw fath o esboniad.

Dros y blynyddoedd cynigiwyd sawl esboniad am ddiflaniad plant y dref ar yr adeg hon.

Ffaith sylfaenol yn yr esboniad, mi gredaf i, yw dadfeiliad y bywyd gwledig - y ffenomen a roes i T.

A mas â ni'n ddiseremoni, heb adael inni weud gair o esboniad.

Gan mai'r un un oedd egwyddor a phatrwm ymwneud Duw a dynion drwy'r oesoedd, nid oedd raid i Raleigh na neb arall unfarn ag ef edrych ymhellach na'r Ysgrythur am esboniad arnynt.

Dyfynnwyd sylwadau nifer o dystion a gyfeiriai at anfoesoldeb ac a gynigiai esboniad o'r sefyllfa.

Mae'r esboniad yma gan Layard yn un manwl, gofalus ac yn fewnol gyson.

Teimlwn na allwn fyth gymryd bendith dros rywun eto, oni chawn esboniad ar yr hyn a ddigwyddasai.

Y mae'n cynnig esboniad posibl ar ddistawrwydd Gildas ynghylch Arthur, ac ar y traddodiad amdano fel gormesdeyrn a rex rebellis, chwedl Caradog o Lancarfan, a geid yn yr Eglwys yn yr unfed ganrif ar ddeg.

Dyna'r esboniad cryno llawn ar gyfundrefn Rhannau Ymadrodd Traethiadol.

Erbyn hyn, roeddwn wedi cael esboniad pam y caewyd y ffin yn Piranshahr.

Beth bynnag yw'r esboniad rhaid cyfaddef bod rhyw sail yn fynych i gred y cyhoedd, ac y mae'r uchod yn un o'r posibiliadau.

Prin y gellir derbyn yr esboniad hwn.

"Dyna'r unig esboniad." "Sut oeddach chi'n gwybod am y gors?" holodd Huw.

Fel ysgolhaig ni allai beidio â theimlo oddi wrth yr her i esbonio eu natur eithriadol, a phan ystyriwn ei gefndir meddyliol ef a'i gyfnod, nid syn ydyw ei gael yn taro ar yr esboniad arbennig a gynigiodd.

Dyma ychydig o'i esboniad am Dic Aberdaron:

Wrth gwrs, byddai'r esboniad hwn yn ateb rhai o'r posau oedd wedi peri cymaint o benbleth iddynt: pam roedd rhai pobl yn methu â'u gweld fel personau ond yn gweld effeithiau eu presenoldeb; pam roeddynt yn teimlo fel bodau ar wahân yn eu hen gynefin, yn fwy felly nag yr oedd traul y blynyddoedd yn ei esbonio; pam roedd agendor diadlam rhyngddyn nhw a'r bobl.

Mae'r Gymdeithas wedi gofyn i arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin am esboniad o benderfyniad syn y Pwyllgor Addysg, a gyfarfu ar Fawrth y 4ydd.

Ond fy anwybodaeth i oedd yr esboniad ar y diffyg.

Efallai mai dyna'r esboniad ar yr holl segura a welsom yn ystod ein harhosiad ym Moscow.

Dywedais wrtho Ef nad oeddwn am gefnu ar Y Weinidogaeth Iacha/ u ond byddai'n rhaid imi wneud oni chawn esboniad.

Diolchais innau i'r Arglwydd am Ei esboniad, gan gofio am eiriau'r bardd Waldo Williams: Yng ngwreiddyn Bod nid oes un wywedigaeth, Yno mae'n rhuddin yn parhau.

Yn awr fod merched yn pasion well na bechgyn yr esboniad syn cael ei gynnig ydi, nad yw bechgyn yn ymdrechu mor galed ag oedden nhw.