Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

esboniadol

esboniadol

Mae'n amheus faint hyd yn oed o'r graddedigion diwinyddol a welsai gopi cyflawn o'r Beibl erioed namyn cael cip ar ddarnau ohono, neu lyfr unigol fel y Sallwyr, ynghyd â phob math o ddeunydd eglurhaol ac esboniadol o gwmpas y testun ei hun.

'Roedd ymyl dalennau Beibl Genefa yn llawn o nodiadau esboniadol, Calfinaidd eu diwinyddiaeth a gwrthglerigol eu naws, ac fe fuont yn gryn dramgwydd i'r awdurdodau eglwysig pan geisiwyd ym mlynyddoedd cynnar Elisabeth I sefydlu trefn eglwysig Brotestannaidd y gallai Pabydd ei derbyn heb dreisio gormod ar ei gydwybod.