Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

esgeuluso

esgeuluso

Yn yr ysgrif gyflwyno yn "Llygad y Drws" dychenir yr "athroniaethu% hwn yn ddeheuig gan Gwenallt ,ond mae'n enghraifft o gydnabyddiaeth un o'r gweithredwyr na ellir llwyr esgeuluso athroniaethau.

Tueddai yn awr i esgeuluso'i farf a'i olwg yn gyffredinol wrth hoelio'i sylw'n unplyg ar yr helfa hon.

Heb os roedd yna agweddau moesol i'r bwriadau hirben, ond fe bwysleisiwyd bod dyletswyddau gan berchnogion eiddo yn ogystal â hawliau, a pheth cywilyddus oedd esgeuluso lles y rheini oedd yn ddibynnol arnynt.

Ni all neb sy'n cymryd diddordeb yn hanes y bedwaredd ganrif ar ddeg esgeuluso'r erthygl hon.

Faint o Gymry Cymraeg sydd nid yn unig wedi gwerthu eu tai i Saeson ond sydd, hefyd, wedi gwerthu a bradychu'r Gymraeg wrth esgeuluso trosglwyddo'r etifeddiaeth Gymraeg i'w plant?

Gall fod yn gwrs awdurdodol a gymeradwyir gan y Llywodraeth, ond os yw'n esgeuluso y tyfiant organaidd hwn - pa dyfiant bynnag arall a geir - yna, mae'n mynd i fod yn flêr ac yn wastraffus.

Roedd hyn wedi arwain i esgeuluso adeiladau a dodrefn ysgol.

Roedd ~edi esgeuluso i gorff cyhyd a gwelodd ei fod yn prysur ladd ei un.

Boddwyd nifer helaeth o ysgolion Ceredigion gan y llif hwn, a'r athrawon o ganlyniad yn methu cymathu cymaint o blant di-Gymraeg - ac yn wir, wrth geisio, yn aml iawn (a hynny er mawr ofid iddynt) yn esgeuluso'r Cymry.

Dadleuai rhai, megis yn arbennig D. J. Davies, Pantybeiliau, fod y Blaid yn gwario gormod o'i hadnoddau ar yr ardaloedd Cymraeg gan esgeuluso'r rhanbarthau poblog Seisnigedig yn y De-ddwyrain.

Mae'n hollol wir y bu esgeuluso ar y Gymraeg gan lywodraethau, gan fasnach a diwydiant, gan y banciau a'r Bwrdd Croeso a British Telecom a'u bath þ a chan fudiadau, sefydliadau a chymdeithasau eraill.

Dyma Richard Prise eto, yn egluro paham yr aeth ati i gyhoeddi'r Historia Brytannicae Defensio o waith ei dad, (a De Mona Llwyd ynghyd ag ef): 'Yr oedd llawer ffactor yn wir a'm darbwyllai na ddylwn esgeuluso cyhoeddi'r llyfr.

Yn ardaloedd de Ethiopia, mae'r Cenhedloedd Unedig yn ceisio adfer y tir a gafodd ei esgeuluso a'i ddifetha.

Sylwant ar y dinistr sy'n digwydd ym mywyd Cymru heddiw, ac ar yr esgeuluso ar gymunedau a'r gwrthwynebiad i'r iaith Gymraeg, a defnyddiant yr iaith Gymraeg a delweddau Cymreig yn eu gwaith.

Beirniadwyd Stalin am esgeuluso un cwlwm hanfodol, sef y cwlwm diwylliannol, ac am gymysgu dau ffenomenon, "pobleictod" a chenedligrwydd.

Er eu bod ar eu gwyliau nawr mewn ffordd, am na allai neb tu allan i'r gwerddonau fforddio talu am eu gwasanaethau, nid oeddent yn esgeuluso'u cyrff na'u wynebau prydferth.