Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

esgyn

esgyn

Golyga hyn fod gan Gaerdydd gyfle i esgyn i'r Ail adran fel pencampwyr y Drydedd Adran.

Oddiwrth y meirw cododd ef, Ac esgyn wnaeth i nef y nef, Er achub rhai mor wael â ni, A'n codi i'r uchelder fry.

Bydd Fulham yn esgyn i'r Uwch Gynghrair - ar ôl curo Blackburn neithiwr.

Wedi inni godi pabell yn Zernez yn yr Engadin Isaf, roeddwn wedi mynd i fyny i gaban Lischana, rhyw bedair awr uwchben tref Scuol, gan obeithio esgyn Piz Lischana yn y bore: yn y gwres mawr, roedd yn well gan y teulu gael prynhawn yn y pwll nofio.

Bu Wright yn aelod o dîm Burnley sydd newydd esgyn i'r Adran Gyntaf.

Mae Chelsea wedi esgyn i'r pumed safle yn yr Uwch Gynghrair ar ôl curo Spurs yn White Hart Lane 3 - 0.

Wedi diweddu gobeithion Leyton Orient o esgyn i'r Ail Adran ddydd Sadwrn siawns nad yw Mansfield bellach wedi rhoi pen ar obeithion Caerdydd o ennill y bencampwriaeth.

Yng Nghaerdydd neithiwr, 'roedd Undeb Rygbi Cymru'n cyfarfod i drafod, ymysg pethau eraill, strwythur cystadlaethau'r tymor nesa, nifer y clybiau fydd yn y cystadleuthau hynny, a'r cwestiwn o glybiau'n esgyn a disgyn i'r Prif Gynghreiriau y tymor ar ôl nesa.

O fwd moroedd Bermiwda, ys dywed Euros Bowen yn ei gerdd iddynt, mae'r leptocephalii yn esgor ac esgyn i wyneb y tonnau ac yn cychwyn ar drugaredd Llif y Gwlff.

Fydd dim rhaid i ni esgyn i wynab y dþr o hyd i nôl cyflenwad arall o aer.

Bydd esgyn a disgyn i, ac o'r, Prif Gynghrair yn parhau.

Cyfareddir dyn wrth wylio'r cerbydau coch neu wyrdd tywyll yn mynd i mewn ac allan o'r twneli, gan esgyn neu ddisgyn o lefel i lefel, ac o bont i bont, uwchben hafn gul Afon Alvra.

Yn ei freuddwyd fe'i teimlodd ei hun yn esgyn yn gyflym, a'i fam wrth ei ochr, i fyny ac i fyny ac i fyny.

Teimlwn fy ysbryd yn esgyn ac yn esgyn nes yr oeddwn "yn nofio mewn cariad a hedd." Dair wythnos wedi hyn, daeth profiad cyffrous iawn imi Disgynnodd colomen wen eto ar sil fy ffenestr.

Gyda Chesterfield yn colli pwyntiau, yn sydyn iawn mae'n bosib i Gaerdydd nid yn unig esgyn i'r Ail Adran, ond esgyn fel pencampwyr.

A myfi a sylwais y modd y byddai gyrrwr y trên hwnnw wrth esgyn yn defnyddio grym trydan oedd yn llifo mewn gwifren uwchben i gynorthwyo'r trên ar ei daith.

Tim pêl-droed Abertawe yn esgyn i'r Adran Gyntaf.

Yno y bu+m innau lawer tro yn cael blas ar sgwrs gyda'r gof a'r saer athronydd hwn, un a allai fod wedi esgyn i gadair athroniaeth mewn rhyw goleg neu gilydd pe bai amgylchiadau wedi caniata/ u hynny pan oedd yn ifanc.

Mae Caerdydd yn parhau yn y trydydd safle, sef y safle isa ar gyfer esgyn.

Y noson honno enillodd soprano 24 oed, Karita Mattila o'r Ffindir, a roeddem yn dyst fod seren newydd yn esgyn i ffurfafen y byd opera.

Roedd yn braf esgyn o gysgod y cwm i deimlo gwres yr haul eto.

Cafodd gryn drafferth i esgyn i'r bws.

Gorfod sefyll yn amyneddgar am awr a hanner cyn cael esgyn i gerbyd.

Dyma gyfle i bump neu chwech o ddynion ifainc esgyn i lwyfan y peiriant.

Y trydydd dydd cyfododd Crist, I gyfiawnhau rhai euog trist; Ac esgyn wnaeth i'r orsedd fry, I ddadlu yno'n hachos ni.

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi esgyn yn ddiogel i Ail Adran Cynghrair y Nationwide diolch i gêm gyfartal, 3 - 3, ar faes Caerefrog - York City - echdoe.

Wrth i'w car nhw fynd heibio i gornel arall cafodd Gareth gip ar y ffrwydrad dros ymyl y dibyn, a phelen o dân yn esgyn i gwrdd fi golau'r wawr.

Ac adroddwyd wrthyf i'r mulod ddysgu yn fuan i redeg i gefn y trên wedi iddynt gael eu datgysylltu ar y pen blaen, fel y gallent esgyn i'r llwyfan.

Safai'r efail a bwthyn y perchennog ar ymyl yr heol a llonnwyd pawb o weld y mwg yn esgyn i'r awyr.