Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

estheteg

estheteg

Amheuai eu gogwydd tuag at Gatholigiaeth a'u gwrthwerinoldeb, bid siwr; eithr yr hyn a barai'r anesmwythyd mwyaf iddo oedd parodrwydd digwestiwn eu hadwaith: 'Nid wyf yn hoffi ffolineb y Sais; ond nid wyf yn hoffi ychwaith ffolineb Ffrainc, ac ni all haeriadau Ffrainc fod ddim mymryn mwy deniadol i'm twyllo na haeriadau Lloegr.' Yn ei hanfod, ymryson oedd dadl Gruffydd a Lewis ynghylch pwy oedd gwir gynheiliad 'yr hen ddiwylliant Cymreig.' Yr oedd diffiniadau ehangach o'r cychwyn yn iswasanaethgar i Gymreigrwydd y ddwy estheteg a bleidiwyd.

Nid oedd yn anodd i'r darllenydd craff gyferbynnu'r estheteg a barodd dramgwydd i Gruffydd yn ei adolygiad a 'Gwrthryfel ac Adwaith' yn yr un rhifyn o'r llenor, lle y traethwyd y gred mewn 'Gwrthryfel cynhyddol yn erbyn awdurdod....twf personoliaeth a lleihad cyfundrefn':

Os mai hyn ydi'ch syniad chi o rywbeth del, rhyw syniad go od o estheteg ac o werthfawrogi harddwch sydd gennych chi.

Y bennod yr ymddiddorodd Peate fwyaf ynddi (a barnu wrth y dyfyniadau mynych a gododd ohoni yn ei waith diweddarach) oedd y ddegfed, 'Soul-Making', lle y ceisiodd Murry dreiddio i seiliau metaffisegol estheteg Keats.

Defnyddio Dafydd Namor a wnaeth i egluro'r hyn a alwodd 'yr Estheteg Gymreig, y peht sylfaenol yn hanes ein llenyddiaeth'.