Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

estroniaid

estroniaid

'Yr holl ffordd o Drefynwy i Dyddewi, meddiannwyd y cwbl o'r wlad a oedd o unrhyw werth yn eu golwg gan estroniaid o waed ac iaith, ac ni adawyd i hen frodorion y tir ddim ond bryniau llwm a choedwigoedd diarffordd.

Mae ein hiaith mewn enbydrwydd, ein tir o dan warchae gan estroniaid, ein diwydiannau'n adfeilion a'n plant ar wasgar ym mhedwar ban y byd.

Mae ymosod ar estroniaid a halogi mynwentydd yn ddigwyddiadau beunyddiol yn yr Almaen y dyddiau yma.

Arweiniodd cyfuniad o rwystredigaeth a chasineb tuag at estroniaid at wrthyfel.

Serch hynny, cawsant eu lladd fel estroniaid Twrcaidd.

Byddem i gyd wedyn wedi cael ein rheoli gan estroniaid oerwaed iasol - a'r rheiny'n gosod arnom lywodraethwr chwyrn na faliai dreuliedig gondom amdanom.

Yn rhy aml, bydd Almaenwyr cyffredin yn troi i edrych y ffordd arall pan fydd estroniaid yn cael eu sarhau a'u difri%o.

Dêm Fira Lyn, os da y cofiwch, a ganai'n bersain am y glas adar a ehedai dros wyn elltydd Dover pan oedd y Wlad yma mewn dirfawr berygl o gael ei goresgyn gan estroniaid oerwaed o wlad arall ddrwg.

'Roedd yn well gan John Roderick Rees weld estroniaid yn byw mewn hen fythynnod yn hytrach na gweld y bythynnod hynny yn furddunod gwag ar draws Cymru.

Mae'n hen bryd i Garmon a Bleiddian ddychwelyd i'n plith a'n harwain i fuddugoliaeth ddeublyg heddychlon - ar yr hunan-serch sy'n dryllio'n ffydd ac yn erbyn estroniaid sy'n peryglu'n hetifeddiaeth.

Mrs Thatcher yn dweud fod perygl i ddiwylliant gael ei foddi gan ddylanwad estroniaid.

Byddaf yn tristau wrth feddwl cymaint o estroniaid sy'n berchnogion cartrefi'r hen gymeriadau a arferai fynychu'r addoldy yng Nghefn Brith gyda'r fath ffyddlondeb.

Yn cydredeg â'n hoffter ni o nwyddau tramor mae estroniaid y byd yn ffafrio eu cynnyrch eu hunain neu rai Japan.

Dylifodd estroniaid wrth y miloedd i gefn gwlad a bwriwyd yr iaith Gymraeg a'r diwylliant traddodiadol i enbydrwydd.

Cyn bo hir fe ddaeth estroniaid fel William, Richmael Crompton i dreio rhoi ei gardia i Nedw a'i yrru o i ebargofiant, ond yr oedd hwnnw yn ormod o rwdlyn ac yn rhy hoff o wneud pethau gwirion i ddi-sodli Nedw byth.

Deuai'r Doethion o un o wledydd y Dwyrain fel estroniaid i dalu gwrogaeth i'r Baban, gan ddwyn anrhegion proffwydol a brenhinol iddo.

Yr oedd dylanwad y Bwrdd Presbyteraidd yn Llundain yn o drwm ar Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin, a phenodwyd saith o estroniaid yno o bryd i'w gilydd.

Doedd bosib nad oedd e'n gweld ei fod yn agor y ddor i ragor o estroniaid ddilyn ei esiampl?

Mewn rhyw ystyr, y mae'n syndod (o gofio agwedd y ganrif ddiwethaf at addysg) na fyddai'r cyfartaledd o estroniaid lawer iawn yn uwch.