Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ethnig

ethnig

NATO yn cynnal ymgyrch yn erbyn Slobodan Milosevic, Arlywydd Serbia, i amddiffyn Albaniaid Kosovo rhag ei bolisi o lanhad ethnig.

Cynnal arolwg o holl gynyrchiadau BBC Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchiad digonol o amrywiaeth diwylliannol ac ethnig Cymru ac y caiff materion portreadu eu monitro'n systematig.

Tan yn ddiweddar, dim ond addysg Sbaeneg a ganiatawyd, ond dan y cynllun hwn, caiff plant addysg mewn Saesneg, Creole, Miskito ac ieithoedd ethnig eraill.

Nid yw'r Cyngor wedi sylwi ar unrhyw gynnydd amlwg yn y gynrychiolaeth o leiafrifoedd ethnig ar raglenni'r BBC dros y deuddeg mis diwethaf.

Wedi fy arswydo gan dlodi difenwol fy mhobl sy'n byw mewn gwlad gyfoethog; wedi fy nhrallodi gan y modd y cawsant eu hymylu yn wleidyddol a'u mygu yn economaidd; wedi fy nghynddeiriogi oherwydd y difrod wnaed i'w tir, eu hetifeddiaeth gain; yn pryderu tros eu hawl i fyw ac i fywyd gweddus, ac yn benderfynol o weld cyflwyno trefn deg a democrataidd drwy'r wlad yn gyfan, un fydd yn amddiffyn pawb a phob grwp ethnig gan roi i bob un ohonom hawl ddilys i fywyd gwâr, cysegrais fy adnoddau deallusol a materol, fy mywyd, i achos yr wyf yn credu'n angerddol ynddo, ac ni fynnaf gael fy nychryn na'm blacmêlio rhag cadw at yr argyhoeddiad hwn.

Mae cyfraniad Harvinder Sangha - a gyfrannodd hefyd i Hen Wlad Fy Mamau rai blynyddoedd yn ôl - yn un pwysig i lif y gân gyda'r bît ethnig yn amlwg ac yn sicr yn un o uchelbwyntiau'r albwm sy'n dangos yn eglur faint o feistri ar eu crefft ydy Llwybr Llaethog, yn gosod y llais mewn mannau allweddol yn y cyfoeth o gerddoriaeth.

Y byd yn dychryn o weld canlyniad y polisi o 'lanhau ethnig' yn Serbia.

Yng nghanol ymosodiad ar y lleiafrifoedd ethnig yn Hwngari, enwodd Kossuth y Cymry mewn rhestr o genhedloedd bach Gorllewin Ewrop na herient iaith genedlaethol y wlad (sef y Saesneg yn ein hachos ni) ond a fodlonai ar feithrin gartref eu traddodiadau diniwed.

I ddiffinio bwriadau, targedau ac amcanion I drefnu profiadau dysgu mewn gwyddoniaeth sydd yn ystyrlon a pherthnasol ar gyfer disgyblion a phob math o allu ac o bob oed yn amrediad yr ysgol uwchradd I ddethol, defnyddio a rheoli'n effeithiol y cwmpas llawn o ddefnyddiau ac adnoddau sydd ar gael I drefnu a chadw trefn ar wersi theori a gwersi ymarferol fel ei gilydd I fod yn sensitif i anghenion disgyblion ag anawsterau dysgu, disgyblion a gallu arbennig a grwpiau ethnig lleiafrifol I feithrin y sgiliau rhyngbersonol priodol ar gyfer cyfathrebu â disgyblion, rhieni a phobl broffesiynol Sgiliau Labordy Paratoi defnyddiau labordy ar gyfer dysgu Arddangos arbrofion a thechnegau ymarferol i'r disgyblion Rheoli gwahanol fathau o wersi ymarferol Gwybodaeth Wyddonol Y mae gan y myfyrwyr i gyd radd yn y gwyddorau ond bwriad arbennig y cwrs yw estyn ac ehangu eich profiad yn y canlynol:

Ni wyddai Hadad ddigon am ddaearyddiaeth ethnig a ieithyddol gogledd Affrica i synnu bod bagad o Dwaregiaid yn ymddangos fel hyn rhyw wyth can milltir i'r dwyrain o ffiniau eu cynefin, ac ni ddaeth fyth i ddeall y rheswm am y siwrnai.

'Does raid i ni ond cofio am y Catalaniaid a'r Basgiaid i sylweddoli sut y mae bodolaeth lleiafrif diwylliannol, hanesyddol neu ethnig yn dibynnu ar iaith.

Yn ethnig y mae hyn fwy neu lai'n wir.

mae'r Cyngor yn ymwybodol o ymroddiad BBC Cymru i amrywiaeth diwylliannol ac ethnig o fewn ei gynyrchiadau, a mabwysiadwyd y dull systematig tuag at y materion hyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Nid mater ethnig neu hiliol ywiaith, meddai'r Tribiwnlys Apêl.