Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

etifeddiaeth

etifeddiaeth

Roedd yr etifeddiaeth, fodd bynnag, yn cynnwys anghenfil y wladwriaeth gostus a oedd yn tagu'r wlad a'i phobl.

Cododd awydd ym mysg y deallusion i amddiffyn yr etifeddiaeth o harddwch, tawelwch ac o lecynnau ysbrydoliedig.

Fe dderbyniodd dyn un rhan o'r etifeddiaeth ar amrantiad ei genhedlu oddi wrth ei rieni, ac fe ddaeth y rhan arall ohoni oddi wrth ei fagwraeth, yr hyfforddiant a'r amgylchedd o'i grud i'w fedd.

At hynny, y mae'r Gymdeithas wedi galw am y canlynol: bod y Swyddfa Gymreig yn comisiynu ac yn noddi prosiect ymchwil ar 'Ddefnydd yr Iaith Gymraeg mewn Cynllunio'; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol roi ystyriaeth i'r Gymraeg yn eu Cynlluniau Datblygu Unedol, gan mai'r Gymraeg yw priod iaith Cymru a'i bod hi'n etifeddiaeth gyffredin i holl drigolion Cymru; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol gynnal arolwg o gyflwr yr iaith yn eu hardaloedd, a llunio strategaeth iaith a fydd yn ffurfio polisïau i warchod a hyrwyddo'r iaith yn eu hardaloedd; - bod y Swyddfa Gymreig yn rhoi fwy o arweiniad i'r awdurdodau cynllunio lleol, ac yn cyhoeddi canllawiau fwy manwl ar ba fath o bolisïau y dylid eu mabwysiadu er gwarchod a hyrwyddo'r iaith.

Cofiwn hefyd eiriau'r Salmydd: 'Fy llinynnau a syrthiasant mewn lleoedd hyfryd; y mae i mi etifeddiaeth deg.' Yr oedd David Ellis yntau yn caru bro ei febyd yn angerddol.

Er nad oeddent yn ddibris o'u hen etifeddiaeth, daeth egni newydd i'w pregethu, eu haddoli a'u gweithgareddau eglwysig a chymdeithasol.

Faint o Gymry Cymraeg sydd nid yn unig wedi gwerthu eu tai i Saeson ond sydd, hefyd, wedi gwerthu a bradychu'r Gymraeg wrth esgeuluso trosglwyddo'r etifeddiaeth Gymraeg i'w plant?

Etifeddai'r naill ddosbarth eu heiddo yn ôl y gyfraith Seisnig, a olygai etifeddu gan y cyntafanedig, a'r llall yn ôl y gyfraith Gymreig (neu Gyfraith Hywel fel y'i gelwid), a olygai rannu'r etifeddiaeth yn gyfartal rhwng meibion, a hynny o fewn uned deuluol ddiffiniedig.

Trwy ymuniaethu â dyn a chymryd arnoi'i hun holl etifeddiaeth ei bechod a'i gondemniad, cyflawnodd Crist waredigaeth gostus a barodd ei gymodi â Duw.

Cyfraniad mwyaf unigryw Cymru i amlieithrwydd y byd yw bod yr iaith Gymraeg yn gyfrwng byw i ganran sylweddol o'r boblogaeth yma ac yn etifeddiaeth gyffredin i bawb.

Am yr ail dro yn ei fywyd bu'n rhaid i Owain ap Thomas ap Rhodri adael y dasg o hawlio ei etifeddiaeth yng Nghymru heb ei gorffen.

Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod creu dyfodol llewyrchus i'r iaith Gymraeg yn un o brif gyfrifoldebau pobl Cymru a bod hynny yn rhan allweddol o ddemocrateiddio ein gwlad a chreu gwell dyfodol i'n pobl a'n cymunedau. Nid ydym yn derbyn fod y Gymraeg yn perthyn yn unig i'r ychydig rai a gafodd fynediad iddi drwy hap a damwain eu magwraeth a'u haddysg, ond yn hytrach y mae'n perthyn i bawb o bobl Cymru fel etifeddiaeth gyffredin, ac yn un o brif nodweddion Cymru fel gwlad.

Yn etifeddiaeth ysbrydol ei genedl gwelai obaith y byd.

Cyfaddawd yw'r fferm, ffrwyth ei wrthryfel sy'n ei alluogi i gadw wyneb ac ar yr un pryd i ddal ei afael ar ei etifeddiaeth gyfalafol.

Oherwydd iddo barchu treftadaeth ei ardal y mae'n parchu'r iaith a chrefft y llenor: myn hefyd fawrygu ac amddiffyn ei dreftadaeth, a diddanu ei gyfeillion, a chofnodi'i edmygedd o'i etifeddiaeth hen.

Cysgu roedd ef mewn ogof rywle yn Nyfed, ac fe ddeuai'n ôl ryw ddiwrnod i achub ei bobl pan fyddai ei angen, ac i hawlio ei etifeddiaeth fel gwir Dywysog Cymru.

Mae'r etifeddiaeth oddi wrth ei rieni yn para i'r genhedlaeth nesaf, ond mae dylanwad yr amgylchedd yn marw gydag ef.

Dirmygu dyn yw bodloni i iaith a fu'n etifeddiaeth i'n tadau ni fil a hanner o flynyddoedd farw.

Fy mraint i yn ystod y chwarter canrif diwethaf fu cael rhoi ar gof a chadw ronyn o'r etifeddiaeth gyfoethog yn Uwchaled a'r cyffiniau, ac, mewn darlith, ysgrif a chyfrol i rannu'r trysor hwn ag eraill.

Drwy sianelau presennol a rhai newydd, dylai'r Adain barhau i bwyso am newidiadau y dymunir eu cael ym mholisiau'r llywodraeth mewn meysydd perthnasol sy'n cael effaith ar ansawdd gwarchod natur ac etifeddiaeth dirweddol y Sir.