Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

etifeddion

etifeddion

A phan eir ymlaen yn nes at ganol y ganrif, y mae etifeddion yr 'Ymneilltuaeth Newydd', gwyr fel Lewis Edwards, Henry Rees neu ei frawd, Gwilym Hiraethog, mewn gwahanol ffyrdd yn parhau'r cyfuniad rhwng yr hen draddodiad a'r newydd.

Etifeddion oeddynt i'r deffroad ym myd dysg a diwylliant yn y ddeunawfed ganrif a gysylltwn ag enwau megis Lewis Morris ac Ieuan Fardd.

Yn y cyfamser annheg yw iddynt feirniadu etifeddion y traddodiad gwledig sy'n gwneud eu dyletswydd [trwy ganu o fewn eu profiad a'u traddodiad am beidio â gwneuthur dyletswydd pobl eraill hefyd.

Dau grŵp sydd: Gŵr Glangors-fach a'i ddwy ferch, etifeddion y bobl a blannodd y gors a gwneud tyddyn; a dau frawd, sydd wedi priodi dwy chwaer, a chymryd y tyddyn ar les ar farwolaeth yr hen ŵr.

Yng nghanrif y Tuduriaid rhoddid pwyslais mawr ar safle'r tad yn y teulu ac ef, fel rheol, a fyddai'n trefnu priodasau ei etifeddion.

Er mwyn cydymffurfio â'r patrwm hwn, anfonwyd meibion Gwedir, oherwydd diffyg canolfan addysg uwch yng Nghymru, i ysgolion a phrifysgolion yn Lloegr, lle y deuent i gysylltiad ag etifeddion y prif fonedd, a lle y mabwysiadent y cwrteisi a'r moesau hynny a dderbynnid yn rhan anhepgorol o'u dull o fyw wedi iddynt ymadael oddi yno.

Honnai ar un adeg ei fod ef yn perthyn i fudiad a elwid Brodoliaeth Beirdd Morgannwg, a phwysleisiai fod yn ei fro ef feirdd o hyd a oedd, yn wahanol i'r rhai a geid ym mro%ydd eraill Cymru, wedi etifeddu 'Cyfrinach y Beirdd' yn yr hen ffordd draddodiadol trwy iddi gael ei throsglwyddo i lawr o athro bardd i ddisgybl yn ddi-dor er amser y derwyddon, yn wir, o Oes Aur Dynolryw, a'i fod ef yn un o'r etifeddion breiniol hynny.

Golyga hyn eu bod yn etifeddion dau ddiwylliant.