Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ewrob

ewrob

Roedd hygrededd yn nodweddu'r oes ac anwybodaeth ynglŷn â gwir hanes y Cymry a'r traddodiad barddol ar y pryd yn rhoi rhwydd hynt i hynafiaethwyr Cymru, Lloegr ac Ewrob chwedleua a rhamantu derwyddol a chynoesol.

Bu'r blasuron Groeg a Lladin yn sylfaen i addysg yng Nghymru, fel yng ngweddill Ewrob, o'r Oesoedd Canol hyd y ganrif ddiwethaf.

Ac yn ail, y mae'n ystyried y cysylltiad rhwng brwydr Cymru a'r cyfnewidiadau chwyldroadol yn Nwyrain Ewrob.

Yr oedd hynny'n fwy trawiadol o'i gyferbynu â'r hyn a oedd i ddigwydd cyn bo hir yn yr Undeb Sofietaidd ac yng ngwledydd Dwyrain Ewrob.

TELEDU: Fel y gwelwch oddi wrth y llun lloeren, mae'r gwasgedd isel enfawr hwn yn dal i eistedd dros y rhan helaethaf o Ogledd Ewrob.

Coed gogledd oer, coed y fforestydd mawr sy'n amgylchynu'r byd ar draws Ewrob a Sgandinafia, draw i Siberia, ac ar draws i Ganada.

O'r cyfan o'r stori%au ysgogol, amrywiol a chyfoethog hyn, basgediad sy'n perio i ni fod yn wirioneddol falch o ansawdd ein rhyddiaith creadigol ar hyn o bryd, ei stori%au hi hwyrach sy'n cynnig y sylwadau mwyaf cynnil, praff a phriodol ar ein cyflwr fel bodau dynol yn niwethafiaeth yr Ewrob yr ydyn ni'n perthyn iddo.

Ac yn y cyfnod Cretasig hefyd y gwahanodd gogledd America oddi wrth de-orllewin Ewrob.

A chan fy mod yn ysgrifennu'r geiriau hyn pan yw'r tanciau'n rhuthro ar draws Croatia a bomiau'n disgyn ar gartrefi, ysbytyau ac eglwysi yn y dalaith honno, ni allaf lai na theimlo pa mor argyfyngus yw'r galw arnom yn Ewrob i gefnu ar ryfel a thrais fel cyfryngau i ddatrys ein problemau.

Yn y rheini, gan amlaf, pwysleisir gogoniant y diwylliant a fu, a'i bwysigrwydd yn hanes Ewrob; fe roddir i ni ddarlun o gampau'r Groegiaid mewn celfyddyd, llenyddiaeth, gwyddoniaeth ac athroniaeth, gyda'r canlyniad y gwahoddir ni i'w hedmygu yn hytrach na'u deall.

Tros y canrifoedd mae wedi dod yn reddfol eu bod yn gwybod bod digon o fwyd yn Ewrob yn yr Haf.

Gellid gweddio'n fwy deallus am y sefyllfa, a gellid adeiladu pontydd newydd a olygai cyfoethogi eglwysi dwyrain a gorllewin Ewrob.

Mae'r ffaith bod pum mil o filiynau o adar yn mudo o Affrica i Ewrob bob Gwanwyn yn syfrdanol ac yn rhoi gwedd newydd ar y pwnc.

Oherwydd hyn yr oedd yn etifedd traddodiad dyneiddiol Ewrob.

Mae llawer o'r rhydyddion a'r hwyaid yn gorffwys yn y wlad hon cyn mynd ymlaen i Dde Ewrob a hyd yn oed i Affrica, e.e.

aeth y gymdeithas o nerth i nerth ac roedd iddi ganghennau yn lloegr a chyfandir ewrob.

Ac yn awr, ar ddechrau Medi, wele hi'n wynebu'r prawf hwnnw, a hynny ar ganol un o'r argyfyngau mwyaf yn hanes diweddar Ewrob.

Er hynny, y mae'n gwbl addas fod y llyfr yn gorffen gyda bwrw golwg ar oblygiadau'r digwyddiadau syfrdanol yn nwyrain Ewrob i'n bywyd ni yng Nghymru.