Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ewyllysio

ewyllysio

Os nad yw'r Cynulliad am baratoi'r ffordd i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg, yna'r neges i San Steffan yw nad yw'r Cynulliad yn dymuno nac yn ewyllysio cymryd cyfrifoldeb am yr unig faes sy'n unigryw iddo. 11.

Y mae hi hefyd yn teimlo ac yn ewyllysio; mae ganddi brofiadau esthetig a moesol; gwyr fod haenau economaidd a gwleidyddol i'w bodolaeth.

Os yw meddwl, teimlo ac ewyllysio i'w hesbonio, fel cylchdro'r planedau, yn ôl deddfau haearnaidd y method gwyddonol, yna ofer sôn am bersonoliaeth rydd.

Petaech chi ond yn gwybod cymaint yr wyf wedi ewyllysio ichi ddod yn ôl, yn enwedig wrth imi fynd yn hyn!

Os nad oes tystiolaeth ddigonol, gellir ei gadw i mewn heb ei gyhuddo os bydd y Swyddog Cadwraeth yn ewyllysio hynny, tra byddir yn chwilio am fwy o dystiolaeth, neu tra bo'r heddlu'n ei holi.