Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ewyn

ewyn

Bodiais yr ystyllen fregus a elwid yn rhwyf a syllu'n hir ar linellau'r ewyn yn ymestyn o flaen y gwynt.

Teimlodd pawb oedd ar y bwrdd sigl y tonnau ar unwaith, a'u sŵn yn golchi ei hochrau gyda'r ewyn gwyllt.

Yr wyf fi yn hoff o glywed tonnau'r môr yn curo'r creigiau ac yn taflu'r ewyn i fyny fel rhwyd i ddal pelydrau'r haul.

Ni ellir gweld dim ond ewyn gwyn ple mae'r pysgod yn codi'n achlysurol.

Bysgodyn tew Mae hi'n osgoi pechod, ond mae ef yn pechu lawn cymaint drwy wneud am ei hun mewn golygfa ddramatig lle mae'r ewyn yn torri ar y creigiau.

Os crafwch ar y sepalau dan y blodau efallai y gwelwch glystyrau o ewyn gwyn arnynt, a dyma ni gysylltiad arall a'r gog, sef pwyri'r gog.

Mae'r gwenwyn yn parlysu'r chwarennau ac mae hyn yn gwneud i ewyn lifo o geg y cleifion.

Dechreuodd sgwrio nerth ei freichiau a'r ewyn yn codi'n lafoer gwyn o safn ei frwsh.

Yno 'roedd ymwelwyr fel gwenyn yn potio o gwmpas y dŵr, yn addasu'r camerâu'n ffwndrus i gasglu atgofion am yr ewyn gwyn yn disgyn ddawnsio'n swnllyd i'r ffrewyll.

Ar y creigiau o'n blaenau gwelwch y bilidowcars a'r fulfran, yn sefyll fel milwyr ar wyliadwriaeth, yn barod i godi a gwibio o fewn trwch blewyn i'r ewyn ar sgwat am bryd blasus.

Os cymerir y creadur o'r ewyn buan iawn y sycha, crebachu a marw.

Gellir tynnu'r rhaffau allan trwy guro'r wy yn galed i wneud ewyn, bydd rhai o'r rhaffau yn cysylltu â'i gilydd ac fe ellir hybu hyn gydag ychydig o wres a gwneud meringue.

Os taenwch yr ewyn yn wastad ar eich bys fe welwch greadur bach melynwyrdd yn llechu ynddo, larfa pryfyn eithaf cyffredin, llyfant y gwair.

Yn Diwrnod Golchi mae'r Dewin Dwl yn gwisgo ewyn y sebon golchi ar ei wyneb fel barf.

Pranciodd y llong fel march piwus, llamsachus trwy'r cawodydd o ewyn hallt nes gyrru'r teithwyr ansicr i lawr i noddfa'r salŵn.

Rhoes y ferch ychydig o sacarîns yn y jar nes bod ewyn gwyn yn codi ynddo fel glasiaid o gwrw.

Daw rhyw hiraeth anesboniadwy drosof weithiau wrth geisio amgyffred treigl y canrifoedd: Fel ewyn ton a dyrr ar draethell unig, Fel can y gwynt lle nid oes glust a glyw, Mi wn eu bod yn galw'n ofer arnom - Hen bethau anghofiedig dynol ryw.

Gwyddis bod rhai cacynnod yn casglu nifer fawr ohonynt drwy bysgota yn yr ewyn a'u cario i'w nythod i fwydo eu larfa hwythau.