Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fachu

fachu

Wedi i bawb fachu gwely yn un o'r stafelloedd - Y Nyth (bechgyn), Y Ffae (merched), a'r Twll (chwyrnwyr), agorwyd y penwythnos gyda thrafodaeth ar y flwyddyn a aeth heibio.

Roedd yn ddigon bodlon i'w briodi yn ei dlodi ond roedd ei thad yn awyddus iddi fachu rhyw ffermwr neu siopwr cyfoethog.

Mae Plaid Cymru yn ymdrechu'n galed i fachu ei lle wrth y bwrdd mawr newydd yn y gobaith y bydd hwnnw'n Ewropeaidd ei natur.

Daw y penhwyaden gaiff ei fachu ym misoedd yr haf i'r rhwyd fel rhyw sach gwlyb - dim cwffio na llawer o wrthwynebiad yn perthyn iddo.

Bydd y dolennau heyrn yn seimlyd a thwym gan wres yr anifail, a byddwch yn ymdeimlo â meddalwch cynnes pêr ei gnawd wrth i chwi ymestyn i fachu'r aerwy ar yr hoelen yn y buddel.

Bu'r sawl oedd yn ei ganlyn yn ceisio'i dwyllo drwy dynhau y gynffon o wagenni cyn ei fachu wrthynt, ac yna ychwanegu un neu ddwy atynt, fel na allai glywed cliciadau'r wagenni wrth iddo'u tynnu.

Wedi i Thomas fachu'r ddau wrth y brêc, i ffwrdd â hi tua'r dref.