Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

faged

faged

Mae'r emynau hynny yn rhan o wead cof ac ymadrodd nifer fawr ohonom, yn arbennig felly y rheini a faged gyda'r Annibynwyr.

Yr hyn sy'n ddychryn i mi (nad wyf eto'n hanner cant, ac a faged yn nhop Gwm Tawe a thop Cwm Aman yn y pumdegau) yw bod cynifer o'r arferion a ddisgrifia hi yn arferion yr wyf i'n eu cofio.

Mae'n credu hefyd mai natur yr hwch sydd yn y borchell, a hynny'n llythrennol wir am Culhwch, a aned o'r cil rhwng yr wrethra a'r rhefr ac a faged gyda'r moch.

Nid oes dystiolaeth fod gan Richard Price, un o'r Cymry mwyaf a faged yn yr iaith, ddim i'w ddweud wrth Gymru na'r Gymraeg.

Fel un 'a faged yn nhraddodiadau'r Hen Radicaliaeth Gymreig', chwedl yntau mewn man arall, ni allai Gruffydd dalu gwrogaeth ond i draddodiad Anghydffurfiol a ganiatâi wrthryfel parhaus yn erbyn pob awdurdod.