Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

faint

faint

Ar gyfer nodweddion o'r fath mae angen dulliau ystadegol i ddadansoddi faint o amrywiaeth sydd i'w weld mewn nodwedd, a faint o'r amrywiaeth yma sy'n deillio o'r amgylchedd a faint sy'n cael ei reoli gan enynnau'r anifail.

Gwelodd Galileo yn gyntaf fod cerrig o wahanol siapiau a maint yn cymryd yr un faint o amser i gyrraedd y llawr o ben Twr Pisa.

faint oedd hynny i gyd?

Bydd y gyllideb gwerthiannau yn dangos faint o gynnyrch yr arfaethir ei werthu a'r elw gros y gellir ei ddisgwyl oddi wrtho; bydd y gyllideb gynhyrchu yn dangos y nifer a'r mathau o nwyddau y bwriedir eu cynhyrchu, a'u gwerth, ac yn y blaen, am bob agwedd ar weithgarwch y busnes.

Ond taw faint o gopi%wyr a ddaeth i lanw'r adwy, amhosibl oedd iddynt gyflenwi'r holl alwadau a glywid am lyfrau - yn enwedig am destunau crefyddol.

Fel gyda gweddill y llyfrau, mae'r lluniau sy'n cyd-fynd a'r stori yn ddeniadol o syml a'r llyfr ei hun yn fach ac yn dwt ac o faint cyfleus i'w ddarllen yn y gwely.

O ganlyniad i archwiliad a wnaed gan arbenigwyr ar ran y Cyfundeb a'r adroddiad a gafwyd am ddiffygion yr adeilad, yn ogystal â'r ffaith fod rhif yr aelodaeth erbyn hyn wedi'i haneru i'r hyn a fu yn y gorffennol, rhoddwyd ystyriaeth ddwys i'r priodoldeb o gwtogi ar faint y capel.

Ond faint a wyddai ef am y pethau pwysig i'w wybod am ddyn?

Faint o blant oedd ganddyn nhw?

Yn y pen draw, waeth faint o waith manwl fydd wedi ei wneud yn ddistaw bach gan swyddogion ac aelodau'r Bwrdd, maen nhw'n gwybod fod llawer yn dibynnu yn y pen draw ar ewyllys gwleidyddol.

Faint well oeddynt o godi helynt a dyfod allan ar streic, onid oedd nerth Undeb tu cefn iddynt?

Mae'n amheus faint hyd yn oed o'r graddedigion diwinyddol a welsai gopi cyflawn o'r Beibl erioed namyn cael cip ar ddarnau ohono, neu lyfr unigol fel y Sallwyr, ynghyd â phob math o ddeunydd eglurhaol ac esboniadol o gwmpas y testun ei hun.

Rhaid oedd berwi'r dŵr nes ei fod wedi anweddu i hanner ei faint gwreiddiol, yna rhoddid pwys o fêl i bob dwy alwyn o'r hylif a'i adael i fragu.

Ystyriwch faint of ysgolion sydd yn eich ardal leol sydd yn llai na hyn.

Ro'n i'n dal i ystyried faint o raff yr oedd y lliw personol, yr angen i adrodd profiad, yn ei ganiata/ u pan gyrhaeddais Mogadishu.

Wn i ddim faint o weithiau y dwedaist ti wrtha'i gymaint roedd hi wedi dy helpu di, mewn un ffordd neu'r llall.

Faint yw ein gofal am harddwch ein tirwedd ac yn dilyn rhesymeg Rio, y ddiwyllianau a thraddodiadau a gysylltir a'r un tiroedd?

"Am faint yr ydach chi'n aros yn Llangolwyn?"

Cost yn dibynnu ar faint y gwaith

dyna faint o arian sydd yn yr amlen.

Ac i'r rhai hynny ohona chi sydd wedi bod yn bwyta siocled plaen yn lle siocled llaeth gydol y blynyddoedd yn meddwl y gwnaiff o lai o gyfraniad i faint eich bol, does gen i ond dau air; Ha blydi ha.

Y prif gwestiwn gan rai felly yw, faint o fwyd planhigion sydd ynddo, a yw cystal a gwrtaith buarth fferm neu Growmore sydd wedi dal ei dir mor dda ers blynyddoedd yr ail ryfel byd?

Hyd heddiw does neb yn siŵr faint gafodd eu lladd yn ystod y pum mlynedd y buodd y Khmer Rouge yn rheoli.

Doed ganddi ddim syniad faint o amser y gorweddodd hi yno'n gwylio'r sêr, ond roedd yn rhaid ei bod hi wedi syrthio i gysgun hollol ddiarwybod idd ei hun.

"Mae gan bobol Pen'sarwaen," medda fi, "gystal hawl â neb i wybod faint o ffordd sydd yna i Lundan." Doedd ganddo fo ddim atebiad i hynny, ond mi lloriodd fi hefo peth arall.

Mi fydd yr ornest ar lefel ranbarthol ond, maes o law, fe gawn ni wybod faint yn union bleidleisiodd dros ba blaid yn ôl ffiniau San Steffan.

Wrth godi'r teclyn i'w briod le, clywodd lais Americanaidd yn dweud wrtho faint oedd hi o'r gloch.

I ddarganfod faint o ser y gallwn eu gweld trwy ddeulygadion o'i gymharu a'r nifer a welwn a llygad noeth, gallwn wneud y cyfrifiad canlynol.

Ond yr oedd wedi bod yn weinidog prysur mewn eglwysi mawr am ormod o flynyddoedd i wybod faint oedd hi o'r gloch reit ar ffrynt y frwydr i'm tyb i.

Mae'r dynion hyn yn gwybod yn o dda faint o bowdr fydd ei eisiau i chwythu'r darn hwn o'r graig allan, ac felly y maent yn rhoi rhywbeth o gan pwys i fyny o bowdr ynddo ac yn gosod fuse, sef math o weiren wedi ei llenwi â phowdr, yr hon sydd yn tanio'n araf hyd nes y daw at y powdr, a dyna ergyd ofnadwy a'r graig i'w chlywed yn rowlio i lawr.

Weithiau byddai'n darllen o Lyfr Del neu Lyfr Nest, neu weithiau o gyfrol dreuliedig o Chwedlau Grimm, a'n llygaid ninnau'n grwn dan arswyd 'waeth faint mor aml roeddem ni wedi clywed y stori o'r blaen.

Os yw'r amrywiadau'n ddigon o faint i alw am esboniad, rhaid edrych am y rhesymau paham y digwyddasant.

Faint mwy o ddifrod a ddioddefai'r eglwysi a'u capeli gan y cyrchoedd awyr cyn y byddai'r rhyfel drosodd?

`Mwy nag y leiciwn i ddweud wrth neb, syr.' Sisialodd Ernest air yng nghlust ei dad, ac ebe'r olaf: `Faint gymeri di amdani, Harri?' `Yr un geiniog lai na chanpunt,' ebe Harri.

Faint oedd oed hwn tybed?

Nid oedd wedi rhagweld faint o greigiau fyddai'n disgyn: disgynnodd un ohonyn nhw ar ei fraich, gan rwygo ei lawes.

Syndod i BW oedd sylweddoli faint o griw oedd angen ar gyfer y "Royal Charter" i wireddu ei freuddwyd o lwyfanu'r ddrama.

Faint o weithwyr a gyflogir yno ?

Faint o Gymry Cymraeg sydd nid yn unig wedi gwerthu eu tai i Saeson ond sydd, hefyd, wedi gwerthu a bradychu'r Gymraeg wrth esgeuluso trosglwyddo'r etifeddiaeth Gymraeg i'w plant?

Yr hyn syn ofid, yw faint o dalent sydd yna yn rhedeg yn wyllt yn y strydoedd cefn, yn y priffyrdd ar caeau.

Yn yr Alban ceir brid arbennig o ysgyfarnogod sy'n llai o faint na'r ysgyfarnogod a geir yng Nghymru.

Rydach chi'n darllen y ddrama, gweld faint o olygfeydd sydd yna, sut mae'n symud, be ydi rhythm y ddrama; wedyn mae yna bethau o fewn y ddrama ei hun.

Fe amcanir y dylai pawb fwyta, dros gyfnod o bum mlynedd, yr un faint o gopr â sydd mewn hanner ceiniog newydd.

Ac yn olaf, gwyddai'r ysgolhaig yn dda ddigon faint o yndrech feddyliol a llenyddol y buasai'n rhaid wrthi er mwyn sicrhau trosiad teilwng.

Ond y mae rhai yn ei rengoedd ei hun hyd yn oed yn dechrau holi faint o gamp oedd hi mewn gwirionedd.

Gallai gwneuthurwr unigol neu stociwr roi gwybodaeth bellach yngl^yn a manylion technegol y gwahanol fodelau a manylion yngl^yn a phris, faint sydd ar gael, a pha mor hawdd y mae ei gael.

Faint o gysur i'r rhain fyddai gwybod bod cynulleidfa fechan yng Nghymru yn gwybod am eu tynged, ac efallai'n cydymdeimlo?

Faint mwy fyddai'n marw cyn iddyn nhw gael gafael ar y Nofa hwn?

Rhaid oedd mesur yn ofalus faint oedd hyd pob darn, a bod yn sicr y byddent yn ffitio i'w gilydd yn y diwedd.

Yn ôl un rheolwr banc y buom ni'n siarad ag ef, mae'n rhyfeddol cynifer o bobl sy'n troi at y banc heb wybod beth yw eu hymrwymiadau na faint y gallan nhw fforddio mewn taliadau.

Faint o bysgod ydych chi wedi eu dwyn o'r afon 'ma?' gofynnodd yn sarrug.

Rhaid sylweddoli, hefyd, bod anawsterau mawr yn codi mewn rhai achosion wrth geisio penderfynu faint o argost y dylai unedau'i gario.

Gall y samplau roi gwybodaeth i ni ar faint a lleoliad y llygredd dynol sydd wedi ei greu, er enghraifft, ym Mae Lerpwl (ble mae llygredd wedi ei greu gan fetalau trwm, e.e.

Nid yn unig yr oedd heb ganolbwynt dinesig a grisialai ymdeimlad o genedligrwydd; yr oedd heb drefi o unrhyw faint.

Sgwn i faint fydd hi cyn y bydd y Cymry hynny a gwynai gymaint fod y Wasg Brydeinig yn anwybyddu Cymru yn gofyn iddi wneud yr un peth eto a gadael llonydd inni.

Y neges felly yw rhestru pob taliad misol, gan gofio'r trydan, y nwy, pob polisi yswiriant, y dreth cyngor a'r bil ffôn, a gweld faint sydd ar ôl i'w wario ac i ad-dalu'r benthyciad.

Dyna i chi fesur o faint dylanwad Bholu.

Mi wnawn ni ymladd hyd y diwedd ..." "Ond faint o arfau sydd gennym ni?" holodd un arall.

Maen nhw am drafod cynlluniau'r cwmni ar gyfer y dyfodol - yn benodol faint o ddur maen nhw am ei gynhyrchu.

Faint ohonom sy'n mynnu dangos ein parch at yr iaith wrth ei siarad yn gyhoeddus, ond sy'n ei hanwybyddu yn y diregl, er enghraifft, wrth ysgrifennu llythyr neu wrth lenwi ffurflen?

Faint o wahanol ffyrdd o ddefnyddio afonydd y gellwch chi feddwl amdanynt?

Cyflwr y ffordd/pafin Cyflwr y tai Faint o oleuadau stryd Taclusrwydd cyffredinol Faint o sbwriel

"A faint o ddynion sydd gennym ni - rhyw ddau gant ar y mwyaf."

Anodd dweud erbyn hyn beth oedd bwriad Iorwerth Glan Aled wrth ei sgrifennu, ac er ei bod yn ddigon actadwy, anodd dweud faint o actio a fu arni, ond dyma'r gwaith, yn fwy na thebyg, a sbardunodd Robert Jones Derfel i sgrifennu ei ddychan ar ffurf drama â'r teitl Brad y Llyfrau Gleision.

Pwy oedd yn penderfynu faint o bwysau roedd rhaid i bawb ei golli?

Cyrhaeddodd Phil faint dyn yn gynnar, ac yr oedd y cyfuniad o ieuenctid, cryfder corff a deallusrwydd meddwl yn gynhysgaeth angenrheidiol iddo gyflawni gwaith mor llafurus.

Dangosir yn y diagram dair enghraifft o alaethau, pob un yn cynnwys yr un faint o oleuni.

"Faint o ffordd eto?" gofynnodd Iona mewn llais distaw.

Yna dywed ei hanes yn mynd i'r farchnad gyda'r Capten i brynu bwyd a'r Capten yn bargeinio gyda'r cigydd faint i dalu am ben dafad a thalu deg ceiniog am hwnnw.

Yn wir mae eisoes yn bell ar hyd y ffordd fel fy mod yn amau weithiau faint o actio sydd raid iddo ei wneud, onibai am gofio'r sgript.

Ers faint wyt ti wedi bod 'ma?' gofynnodd iddi.

Yn ddiweddar rydym yn dechrau sylweddoli mai dim ond gyda mwy o ddealltwriaeth o'n moroedd y gallwn ni obeithio darganfod llawn faint y difrod sydd wedi, ac sydd yn parhau i gael ei wneud.

Mae cyfraniad Harvinder Sangha - a gyfrannodd hefyd i Hen Wlad Fy Mamau rai blynyddoedd yn ôl - yn un pwysig i lif y gân gyda'r bît ethnig yn amlwg ac yn sicr yn un o uchelbwyntiau'r albwm sy'n dangos yn eglur faint o feistri ar eu crefft ydy Llwybr Llaethog, yn gosod y llais mewn mannau allweddol yn y cyfoeth o gerddoriaeth.

Er mwyn gweld cerdyn yn ei lawn faint cliciwch arno.

Faint callach a gwell ein byd ydym ni o wybod hynny dydw i ddim yn siwr.

Ond wn i ddim am faint ar ôl iddi weld hwn, ychwanegodd.

Gwyddem y caem bymtheng munud gwefreiddiol, ond ni wyddem yn union faint mor wefreiddiol, chwaith .

Faint o'r werin hon sydd heddiw yn derbyn 'propaganda' toreithiol y cyfryngau (ac yn hyn o beth mae Radio a BBC Cymru wedi bod ar eu huchelfannau) sydd yn barod i grogi ei harweinydd Arthur Scargill o'r 'Gibbett' agosaf?

Erbyn wyth o'r gloch, mae Duw a wyr faint o famau a'u plant o dan bump oed yn eistedd mewn Duw a wyr faint o gorlannau, ar ddaear sy'n wastad a melyn.

Gwneir defnydd, gyda defaid a gwartheg, o beiriannau sganio uwchsonig sy'n cael eu defnyddio i fesur faint o fraster a chyhyr sydd ar anifail.

Bydd yn teimlo pryder yn yr Hydref rhag ofn bod ei dail wrth ddisgyn yn peri blinder i'r teulku drws nesaf neu'n myfyrio ar faint o arian a gâi pe torrai hi i lawr a'i gwerthu fel coed i'r saer.

Faint a wyddai ef am y bobol hyn mewn gwirionedd?

Wrth edrych arno a gweld ei faint meddai, 'Bydd Mam wrth ei bodd, mae hwn yn ddigon mawr i'w gadw.

Beudy'r Gors.' Sylweddolodd 'rhen ferch faint ei chamgymeriad a cheisiodd adfeddiannu'r tir a gollwyd drwy roi ymosodiad ar William Huws, druan.

Ar ôl bwyta dyma'r dynion yn dechrau casglu at y brake yn araf, ac eraill yn gwylio i edrych pa faint oedd yn cyrchu at fan y cyfarfod, a phwy oeddynt, rhai yn ymddiddan â'i gilydd, eraill yn edrych yn syn, ac eraill â'u golwg ar y brodyr yr oeddynt wedi clywed eu bod ymhlith y rhai fu'n gweddio yn Nant.

Roedd o am wybod faint o oriau y byddai'r ci'n cysgu ac a oedd yn well ganddo gysgu mewn cenel neu fasged neu ar fat o flaen y tân.

Ni wyddys ar hyn o bryd faint ohono'n union fydd yn cael ei ddysgu, ond does dim amheuaeth na fydd Hanes Cymru yn chwarae rhan allweddol yng nghwricwlwm Hanes pob disgybl Cymreig.

Pan fyddai gan y gof egwyl ym misoedd yr haf, a'r ffermwyr yn brysur gyda'r cynhaeaf, byddai yntau yn 'troi pedolau', rhai ugeiniau o barau o wahanol faint, a gwelid hwy yn rhesi yn hongian yn yr efail.

Faint o werin Cymru sydd erbyn heddiw, wedi naw mis o streic gan yr 'arwyr' hyn yn eu gweld fel 'Arwyr glew erwau'r glo'?

Y mae'r flwyddyn yn gyfnod naturiol i'w ddewis er mwyn gwneud cyllideb ond bydd llawer o fusnesau (os ydynt o unrhyw faint) yn gwneud cyllideb am fis neu chwarter, ac yn gwylio'r perfformiad trwy gynhyrchu cyfrif a'i gymharu â'r gyllideb ar ddiwedd y mis neu'r chwarter.

Bydd siroedd y Bencampwriaeth Griced yn mynd i Lords heddiw i weld faint o arian fyddan nhw'n ei dderbyn y tymor nesaf.

Ar ôl y telesgop yma adeiladwyd pob telesgop arall o unrhyw faint drwy ddefnyddio drychau.

* pa mor gyfforddus ydi o i bobl efo'ch math chi o amhariad; * a ellid ei ddefnyddio'n hawdd ar gyfer gweithgareddau megis, er enghraifft, chwaraeon neu ddawnsio cadair olwyn; * faint yw ei bwysau a pha mor hawdd y gellir ei godi i mewn a'i storio yn eich car; * pa mor hawdd y gellir ei symud ar wahanol wynebau; * pa ddewis mewn lliwiau a defnydd sydd ar gael.

Cownta faint o goed deri weli di ar y ffordd heddi.

Y camau amlwg nesaf yw edrych ar faint o nwyddau'r siopau hyn a wneir yng Nghymru ac ymhle mae buddsoddiadau'r banciau.

Mae'n syndod, er enghraifft, faint o Gymry Cymraeg sydd, am ryw reswm neu'i gilydd, yn mynnu siarad Saesneg â'i gilydd.

Faint oedd fy oed?

Yn 1998 cynhaliodd Cyngor Sir Conwy adolygiad llawn o faint o le oedd ar gael i ysgolion er mwyn darganfod beth oedd yr angen o ran llefydd ychwanegol.

Y ffordd oeddan ni'n cael ein talu oedd fesul faint o becynnau oeddem ni'n eu symud o le i le yn ystod shifft.

Mae Mr Thapa eisiau £500 y mis, yr un faint ag y byddai is-gorporal ym myddin Prydain yn ei dderbyn.