Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

famol

famol

Mae'r Diamwnt yn ymgais i gyflwyno'r ffordd y cymethir yr Ego â'r Hunan, y byd tadol â'r un famol, a'r symbolau o ymosodiaeth, atalnwydau a greddfau a gynrychiolir gan y cŵn, y ceffylau, yr ysgithr, y gweill a'r grib.

Gwedd arall ar y hehongliad rhywiolfrydig yma ar y chwedl ydyw'r ffordd y gwêl Layard y Pair Diwrnach Wyddel, sy'n gyfarwydd inni o chwedloniaeth Iwerddon, fel 'croth', sy'n arwydd o allu'r elfen famol i gynhyrchu bywyd, ac i'w ddistrywio.

Mae Culhwch, yn ei lasoed, wrth geisio ymaflyd yn yr Hunan, yn symud oddi wrth ei fam(au), dan ddylanwad y tad - yr ochr fwyaf echblyg i fywyd - ac wedi iddo ymryddhau oddi wrth yr elfen famol, rhag bod yn Oidipos, yn meddiannu a phriodi'r elfen fenywaidd dderbyniol, briodol i'r Hunan, sef ei amima: Olwen.