Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fan

fan

'Mae 'da chi awr fan hyn,' meddai un o'r meindars, cyn gwneud y cyhoeddiad anhygoel: 'Chewch chi ddim mynd i mewn i Iraq.' Sut ddiawl fedren ni ffilmio'r Kurdiaid, felly?

Roedd y sŵn yn uwch yn y fan hon, ond o leiaf teimlai Gareth yn fwy diogel yma.

CEMAES - ARWYR NORMANDY: Dewiswyd traeth Cemaes yn un o'r ychydig drwy Gymru i fod yn fan cyfarfod i gofio am y glanio beiddgar hwnnw yn Normandy hanner can mlynedd yn ol.

Mae fferm o'r enw Fach i'r de o'r fan lle ceir tro sydyn yng nghwrs yr afon, tro ar ffurf bachyn.

"Mi dd'wedsoch chi'r gwir yn fan'na,' meddai'r gweinidog.

'Roedd yn amlwg ei fod yn rhydd i fynd o gwmpas i'r fan a fynnai.

Mae rhai petha am ddim wrth gwrs, fel y bwyd fan hyn, ond mae yna le i brynu bwyd ychwanegol a sweets ac yn y blaen.'

Y feistres oedd y mistir yn y lle yma." (Rhyw chwerthin isel fan yma a rhai sylwadau, a barai i Meinir grawcian rhyw air o wrthwynebiad.

Yn syth o'ch blaen mae Moel Hebog, y mwyaf ohonynt sydd i'w weld o'r fan yma.

Rydyn ni'n ddigon uchel yn y fan'ma." O ochr y pier, wrth graffu dros y rheiliau, roedd modd gweld am filltiroedd.

Bu'r draen ddŵr fel cydnabod teithiol, a phobol yn holi amdani cyn iddi gyrraedd ac yn dweud, 'Ma hi yn y fan a'r fan - fydd hi ddim yn hir'.

Mae holl galon cystrawen yr iaith yn gorwedd yn y fan yma.

safodd y pedwar i weld eu llongau 'n taro 'r dŵr ^ r ac yn troi 'n ansicr i nofio i lawr yr afon, ac yna rhedodd y bechgyn nerth eu traed tua 'r fan lle cymerai 'r afon dro llydan, braidd fel pedol ar ymyl y ffordd ac yn ôl wedyn.

Mae'r gofod - dyna yw'r 'nef' yn y fan hyn - yn gwbl fud am nad oes awyr yno i gludo tonfeddi sain.

A thuedd rhai pobl o hyd yn y fan honno yw ystyried unrhyw daith gan y car recordio, dyweder, y tu hwnt i Bontypridd fel rhyw fath o saffari.

Mi wnawn ni aros lawr fan 'na!" Ffwrdd a ni, ac y fi oedd yr olaf yn cyrraedd bob tro!

Felly cyfeiria enw'r dref yn benodol at y fan lle rhed Afon Dyfrdwy o Lyn Tegid.

Yr ysgol ac ati Byddai yr "hunt" yn cyfarfod ar sgwar Pentraeth, ac roeddem yn adnabod y rhan fwyaf o'r "grooms" a'r byddigion hefyd o ran hynny, ond mae y cwn hela fel llawer o bethau eraill wedi peidio a bod Fe anghofiais son am siop Ty Llwyd oedd ar y sgwar, siop Jane Davies oedd i ni pan yn ifanc, pethau da a rhyw fan bethau oedd ganddi ar y pryd hynny, wedyn daeth yn dipyn mwy ddaeth Mrs Evans a'i dau wyr Hugh a Tommy oedd wedi colli ei mam (merch Mrs Evans) yn ifanc.

Ac yn y fan yma mae'n dda i ni gofio beth yw gwerth y darnau yn y gêm.

Yn y saithdegau, roedd merched yn Lloegr yn arfer cyffwrdd y ddaear ar ôl gweld fan bost ac yn dweud, 'Cyntaf welwn, hwnnw garwn'.

Toes mo'i angen o'n fan hyn, na chditha chwaith.

draw fan acw!' Gwelodd pobl y dref don o anifeiliad yn rhuthro lawr y stryd fawr.

Gwyrdd plaen unlliw yw eu lindys hwy, yr unlliw ynhollol â'r dail a'u cynhaliant ac yn hoff o swatio ar brif wythiennau'r dail ac yn y cnewyllyn gan wledda ar y dail ifanc iraidd sydd yn y fan honno a difetha'r blagur tyfu (growing point) hefyd a thrwy hynny rwystro cynnydd y planhigyn.

`Ci Ivan.' `Beth mae e'n ei wneud yn y fan hon?' `Ni fuasai'n gadael Ivan ond am un rheswm - i nôl cymorth.

Mae 'na chwilod i fyny fan'na sy'n cynhyrchu nwyon gwenwynig, ylwch.

A dyma nhw - gweddillion un o'r byddinoedd ag yr ydym wedi bod am y pedair blynedd ddiweddaf yn siarad yn eu cylch - yn dilyn eu camrau o fan i fan, brwydr ar ôl brwydr - dyma hi!

Yn ôl Murry (a theg ychwanegu yn y fan hon nad yw bob amser yn glir ai aralleirio Keats ynteu datgan ei fam ei hun y mae) yr oedd cyswllt cyfrin rhwng y meddwl barddonol a'r ymwybod crefyddol.

Pan gyrhaeddodd y bwthyn gwelodd fan Telecom yno, a gweithiwr wrthi'm hel ei bac.

Maent yn dechrau gydag ychydig o bowdr, ac yn naturiol roedd raid i un fynd i nôl y powdr i'r magazine, lle'r oedd goruchwyliwr yn ei rannu, a llawer helynt a fu yn y fan honno eto.

Wrth i anadl a nerth ddod yn ôl i mi, sefais a meddwl yn ddwys mai ffordd ddwl ar y naw oedd hon i ddyn yn ei fan dreulio'i fywyd.

Wy a Dyff 'di hala ffortiwn fan hyn dros y blynydde a ma'r Karen fach 'na sy'n berchen y lle yn neud mwy byth o ffortiwn nawr.

Fel arfer, pan gyrhaeddodd fan arbennig symudodd ei droed dde i wasgu'r brêc er mwyn arafu'r lori fawr.

Dewch, mae'n oeri fan hyn, ac mae'n bryd swper beth bynnag.

Fe'n hysbysodd ein bod i fynd yn ddiymdroi i fan arbennig yn y gwersyll lle'r oedd unedau o ddirprwyaeth filwrol wedi ymgasglu.

Ond allwn i mo'i adel e fan'ny.

Winciodd a tharo'i bac ar ei ysgwydd, gan ddweud wrthi am fynd i'r tþ i weld a oedd y ffôn yn gweithio : âi yntau i'w fan i roi caniad iddi.

Mae'r fan honno yn well o lawer na'r pentref.

Ar ôl hanner awr o gael eu hysgwyd yng nghefn y fan roedd yr ewfforia'n prysur ddiflannu.

Mi gefais ddigon o amser i feddwl dros bethe wrth orwedd fan hyn, ac rwy'n ofni y bydd raid i ni adael yr ynys." "Gadael yr ynys?

Rwyn llawer hapusach lawr fan hyn na fues i erioed yn Leeds.

"Prin fod angen cloi yn y fan yma," meddai.

Oni bai i'r bêl gyflymu yn ei blaen, mae'n bosib y byddai Idris wedi yfed y llaeth ac efallai farw neu syrthio i drymgwsg yn y fan a'r lle...

'Mae'r dynion yna wedi cuddio'r trysorau fan hyn am ryw reswm.

Troi i'r dde fan hyn a phostiodd Siân ragor o gardiau drwy'r hollt i'r ffordd fawr o'i ôl.

"Mi rydw i'n cofio amsar," medda fi, pan ges i gyfla i dorri ar ei draws o, "pan oeddwn i'n mynd hyd y ffyrdd yma hefo ceffyl a throl, ac wrth ddþad adra, yn gorfadd ar wastad fy nghefn yng ngwaelod y trwmbal yn sbio ar y cymyla, a'r gasag yn mynd ei hun, a phan fydda'r drol yn dechra sgytian, roeddwn i'n gwybod fy mod i wrth Tþ Gwyn, achos doeddan nhw ddim wedi tario ddim pellach na'r fan honno." "Rwyt ti'n drysu yn y fan yna," medda fo.

Dwin credu bod angen gair i gall fan hyn.

Fodd bynnag, mae swyddogaeth y cudyn silia yma yn dal i'm poeni ac fe'i gadawaf yn y fan yma am y tro.

'Cymrwch chi ofal yn y fan honno.

Cododd ar ei draed, a saethu'r dwsin yn y fan a'r lle.

Credir bellach fod yr enw Gloddaith - enw plasty ger Llandudno - yn cyfeirio at fan lle yr arferid cynhyrchu golosg.

Mae eu henwau nhw i gyd i lawr yn y fan yma gen i." "Dewch i fyny i'r ffau," sibrydodd Wyn.

Roedd Bob wrth ei fodd ac yn rhedeg ar hyd y llwybr o'u blaen gan ddilyn trywydd ci yn fan hyn a chwningen fan draw.

Dichon, fodd bynnag, fod Gwilym Meudwy ymhlith yr olaf, onid yn wir yr olaf o brydyddion y bedwaredd ganrif ar bymtheg a fu'n crwydro o fan i fan, yn null yr hen faledwyr, yn gwerthu cynnyrch ei awen.

Erbyn inni ddychwelyd i'r fan y buasem yn holi ynghylch diogelwch y twnnel, yr oedd un o'r ffermwyr ieuainc, a ddywedasai wrthyf ei fod wedi prynu pedair erw a hanner o'r trac, yn trafod picwarch ryw ganllath oddi wrthym a gwaeddais arno'r cwestiwn pa ddefnydd y bwriadai ei wneud o'r llain hirgul a brynasai.

Ei fan e wedi torri'i lawr eto, filltiroedd o bob man.....

"Mi ddois i'n gynnar, a wyddwn i ddim yn iawn lle i fynd, ond 'roeddwn i wedi arfer dwad i fan 'ma at Gwyn Gallwn deimlo rhyw ias yn cerdded y ddau wrth i mi sôn am y marw.

Pan gyrhaeddodd yno tua hanner nos canfu'r waled yn yr union fan lle'i gadawodd - ond o dan orchudd o eira.

Yr hanner munud hwnnw fydd y prawf terfynol fod ein dyn ni wedi bod yn y fan a'r lle.

Fodd bynnag, cododd y Cristnogion eglwys bwysig er cof amdano yn y fan lle bu farw.

Dwyt ti ddim yn cofio Dad yn ei ddangos i Mam ac yn dweud mai i'r fan honno, lle'r oedd y polîs yn chwilio amdano, yr oedden ni yn dod ar ein gwyliau?'

`Does dim modd ei weld e o fan hyn,' atebodd plismon, `ond mae e tua hanner ffordd i lawr ar silff fach.' `Y clogwyni hyn yw rhai o'r rhai gwaethaf yn y cylch,' meddai Reg.`Mae'r garreg yn briwsioni dim ond i chi edrych arni hi.

Rhaid i chi dwad yma pob dydd am wsnoth.' A phenderfynodd fwrw iddi yn y fan a'r lle.

Bydd maswr Cymru, Neil Jenkins, yn cael triniaeth yn gynnar yr wythnos nesa ar fân-anaf i'w ben-glîn.

"I gerdded lôn Plas Madyn er mwyn gweld y fan lle cwympodd y merlod." Disgleiriodd llygaid Einion a Llinos.

Eto mae'r symudiad yma'n gwneud dau beth - mae'n "datblygu% darn mawr i fan lle mae'n gallu bod yn llawer mwy o fygythiad nag oedd ar ei sgwâr ei hun yn ymyl y Brenin.

Caiff y tad ei hebrwng o'r fan gan nifer o berthnasau a ffrindiau.

"Yma yn Llangi%an, - heb fod ymhell o'r fan hyn.

Be 'dach chi'n wneud fan hyn?'

Hyd yn oed ymysg Keyneswyr, y mae'r ffydd yng ngallu'r llywodraeth i fan-diwnio'r economi wedi gwanhau cryn dipyn yn ystod y saithdegau.

Dwy steil wahanol o chwarae fan hyn.

Ni chlywodd y traed ysgafn y tu ôl iddi nes i lais bychan dorri ar draws ei bwrlwm a gofyn iddi'n wylaidd: 'Ble mae Mam, Miss Beti?' Stopiodd yn y fan a rhyw hanner gweld bachgen bach penfelyn tlws yn sbio'n ymddiriedol i fyny ati.

Ond Morys mi ddeudist y basa ni'n cael lle da fan hyn.

Golygfa hynod y sylwasom arni yn ymyl y fan honno oedd gweld oenig na allasai fod yn fwy na diwrnod oed dilyn ei fam ar faglau o frwyn, a hithau'r famog wedi ei chneifio.

Rydw i'n cael fy nhemtio i roi'r gorau iddi'n y fan yma er mwyn rhoi cyfle i chwithau wneud hynny ond gan fod ambell un yn pendwmpian eisoes mae'n well imi egluro'r cysylltiad a welaf i rhwng drama fach, fawr, neu ddrama fawr, fach R.

Pe bai'r 'Germans' yn dod i wbod beth sy'n mynd ymla'n fan hyn, fe fydden nhw'n siŵr o'i fomio fe." Ar ôl te blasus yn y 'Gloch' aeth Mrs Treharne a'r plant i lawr i lan y môr, ac aeth y Doctor i fyny'r rhyw i'r Orsaf Arbrofi i gwrdd â'r swyddogion yno.

'On'd oes 'na organ yn y fan honno hefyd?' 'Mae hi'n iawn mewn rhyw le felly,' atebodd yntau.

Rhaid i mi wneud fy ngorau glas i ddod i benderfyniad synhwyrol, ac i'r perwyl hwnnw, da o beth fyddai bwrw golwg yn ôl a cheisio dadansoddi, mor wrthrychol ag y medraf, yr holl ddylanwadau a'm harweiniodd i'r fan hon.

Pe gofynnech i un o hen lowyr dyffryn Aman am leoliad un o'r gwythiennau hyn fe ddywedai wrthych ar unwaith ei bod yn brigo i'r wyneb fan hyn, yn diflannu fan draw ac yn ymddangos drachefn mewn man arall.

A lan fan'co ar y silff.

Fe safodd fan'ny yn y drws fel tase fe wedi'i droi'n garreg, a dim gair o'i enau fe.

Mi fedra' i 'i rhwygo hi cystal â neb yn y fan yma ond nid ar y bocs chwarae teg .

'Roedd aelwyd Charles yn fan cyfarfod i gariadon!

Bu'r Frenhines ei hun yma yn 1955 a phe bai aelod o'r staff wedi meiddio beirniadu'r ymweliad fe fyddai wedi colli ei swydd yn y fan ar lle.

Fe welwn ni'r ddwy ddraig yn codi o'r twll cyn bo hir, ond paid â bod ofn, welan nhw mohonan ni yn cuddio yn y fan yma." "Ond pam y medd a'r sidan?" "Wel, fe fydd y ddwy yn ymladd heno a bron â thagu eisiau diod.

Yr unig fwriad yn y fan hon yw cynnig rhai syniadau sy'n effeithio ar dir yr ysgol.

Roedd Madog wedi cal stroc ac wedi marw yn y fan a'r lle - a Luned am i ni'n dau ofalu am drefniade'r angladd.

Rhoddwyd y rhain gan Albion Concrete Cyf., a chawsan nhw eu cludo i'r union lecyn gan y fyddin, fel y gallai'r ysgolion gael naill ai fan plannu neu wely wedi ei godi.

Edrychwch beth sydd yn y fan yma!

Ymhen ychydig ddyddiau wedi i'r merched droi am adref hwyliodd y Maritime o Gaerdydd i Abertawe i lwytho ac o'r fan honno wedyn am borthladd pellennig.

Ac edrychwch draw yn y fan acw.

'Fedrwn ni ddim gadael y bwystfil fan hyn.

'Wel, os cofiwch chi, mae 'na gerbyd neu fan neu rywbeth tebyg yn danfon y dyn at Lety Plu bob tro.' 'Iawn,' meddai Gareth.

'Fel wy ishws 'di gweud, wy a Dyff a Mark yn byw fan hyn yn y Deri Arms.

Yn ddigon rhyfedd, mi ddechreuais i ddarllen y llyfr mewn meddygfa - a chas gennyf fynd i'r fan honno.

"Ystyr cyfrifoldeb yn y fan hyn," meddai, "yw awdurdod, a'r hyn a olyga awdurdod i ni yma heddiw yw senedd gartrefol.

Câi driniaeth mewn ysbyty ar ôl pob curfa, ond nid oedd dim tynerwch i'w gael yn y fan honno ychwaith--mae'n disgrifio fel y câi ef, a rhyw ugain o ddynion eraill oedd yn dioddef gan effeithiau fflangellu, eu gyrru fel anifeiliaid gwylltion i'r môr bob bore er mwyn i'r dwr hallt losgi'r briwiau.

Enlli yn cario un o arwyddion Owens Estate Agents, ac Enlli yn cael ei llusgo i fan yr heddlu.

"Rydym ni'n gwybod yn barod mai yn y fan yma y digwyddodd y ddamwain.

Gall y gwybodus ddilyn lli'r atgof amdanynt, am eu gwragedd a'u plant, am het newydd a brynwyd yn y fan a'r fan, am ymbarel a adawyd ar ôl yn y lle a'r lle.

Belka, Chernysh - arhoswch chi fan hyn!' Edrychai'r ddau gi yn anfoddog wrth i'w meistr gychwyn i ganol y storm eira.