Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fanna

fanna

'Ylwch, mae 'na chydig o grisps a diod i chi'n fanna, os 'da chi'n teimlo'n llwglyd.'

Ond gan y byddwn yn trin yr agoriad yma - sef y 'Ruy Lopez' - yn fwy trylwyr yn nes ymlaen gwell ei gadael hi yn fanna am y tro.

Dychmygwch am eiliad eich bod yn annerch rali o blaid 'Achub Ciwcymbyrs Coch Prin Powys' - dim problem yn fanna, tan i chi sylweddoli fod Dafydd Morgan Lewis - yr arch derfysgwr - yn llechu ynghanol y dorf yn ei sbectol dywyll, ei farf ffug a'i falaclafa du.

Mae'r tŷ'n edrych dipyn yn - yn - dywyll am 'i bod hi'n dechreu nosi ac am 'i fod e lan fanna ar ben y graig.