Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fantell

fantell

Pan fydde'r bechgyn ifenc yn galw heibio, doedd y croeso ddim mor gynnes a chynt, y gusan ddim mor agored, a'r miri ar goll, ac roedd rhai'n mynd mor bell a gweud fod rhan o fantell dieithrwch Madog wedi disgyn ar 'i sgwydde hi.

Tynnodd Elystan ei fantell oddi ar yr hoel a thaflodd hi dros ei ysgwyddau.

Fel a'r Deufalfiaid eraill sy'n medru nofio, megis y gregyn bylchog, mae'r llabedau mawr hyn yn gweithredu i reoli symudiad y dwr allan o geudod y fantell pan fydd yr anifail yn nofio.

Rhoddodd Caradog ei law mewn anobaith yn un o logellau ei fantell - ac ymaflyd mewn cwdyn.

Ymlaen â ni felly i drafod y Llên Gwerin Cyfoes yma, a hynny drwy edrych ar rai o'r straeon a'r credoau sydd yn cael eu hadrodd a'u sgrifennu heddiw, yn aml iawn o dan fantell straeon newyddion - (a pheidied neb â dweud fod golygyddion a gohebwyr yn ymarfer y ddawn o greu llên gwerin i werthu eu cyhoeddiadau).

Tybed ai Sam a etifeddodd ei fantell yn nhyb ei gydwladwyr?

Felly, pederfynwyd edrych ar y Deufalf, Lima hians, lle mae gan ymylon y fantell nifer o dentaclau hir.

Ond o'i gariad y mae'r Gwaredwr yn caniatâu i bawb sy'n credu ynddo EF ac yn rhinwedd i waith achubol, lechu o dan fantell ei gyfiawnder Ef.

Wrth edrych drwy'r ffenestr a gweld yr eira yn fantell drwchus dros y tir, a chofio fel y bÉm bron â sythu wrth aros am y trÚn ym Mhenybont, penderfynais y byddai'n well i mi gael lle gweddol gynnes.

Tric y gwynt, meddai wrtho'i hun, gan droi drosodd a thynnu ei fantell yn dynnach amdano.

Mae ymylon mantell yn arbennig nid yn unig am fod ganddynt nifer o dentaclau hir ond hefyd am fod llabed fewnol ymyl y fantell yn helaeth iawn.

Tynnodd ei hun i fyny a chlywed ei fantell yn rhwygo ond roedd gweld golau dydd o'i flaen yn rhoi hwb newydd iddo.