Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fanylion

fanylion

ch) Hysbysu'r Cyfarwyddwr neu'r uwch aelod nesaf o'r staff am y digwyddiad gan gadw cofnod o'r holl fanylion er mwyn cyfeirio atynt.

Sain yw prif gwmni recordio Cymru, ac y mae ein catalog yn cynnwys holl fanylion ein Casetiau, Cryno-Ddisgiau a Fideos ar gyfer plant a phobl o bob oed.

Methais â dod o hyd i lawer o fanylion amdano, ond gwn mai Mary oedd enw ei wraig a bu iddynt ddeg o blant, - y canlynol yn eu plith:

Geisio sefydlu Fforwm Addysg i Gymru i ddwyn pwysau ar y Llywodraeth i ddarparu adnoddau digonol Mewn cyfnod pan fo'r Cynghorau newydd yn gyffredinol yn cael eu llesteirio gan fanylion ad-drefnu, mae cynghorwyr Ceredigion yn haeddu clod am geisio gweledigaeth o drefn addysg deg ar gyfer y dyfodol.

Ystyried hyd y gellir, fanylion y Gelfyddyd, awgrymu Alawon Gosod a cheisio'u dosbarthu, deall eu ffuffiau, y rheol o ddyblu etc.

Cysylltwch â'r Brif Swyddfa am fanylion.

Aeth y rhaglen gerbron y dawnswyr a phenderfynwyd mynd mewn egwyddor er i Eirlys Britton ein harweinydd bwysleisio fod yn gyntaf angen mwy o fanylion ynglŷn â'r gystadleuaeth a'i chefndir.

Ond o'r berw a godai yn sgîl clywed mor hwyr y dydd am ddigwyddiad o'r fath, y tebygrwydd yw y byddai cyflwynydd y rhaglen yn ymddangos mor ddi-gynnwrf ag erioed wrth adrodd holl fanylion y stori o fewn yr awr.

Am fwy o fanylion gwrandewch ar BBC Radio Cymru - yn arbennig rhaglenni Gang Bangor.

A'r diwrnod gwaith ar ben, a'r gof, yn ŵr lluddedig, wedi rhoi o'r neilltu ei ffedog ledr, eto, 'roedd un gorchwyl yn ei aros, sef rhoi i lawr yn ei lyfr cownt fanylion am bopeth a wnaeth i'w gwsmeriaid yn ystod y dydd.

Cydnabuwyd bod cynnydd sylweddol wedi ei wneud eisoes ym maes datblygu cynlluniau rhaglenni newyddion a materion cyfoes yn y Rhanbarthau Cenedlaethol, ond mae angen mwy o fanylion am y ffordd y mae rhwydweithiau cenedlaethol y BBC yn paratoi i ystyried y newidiadau mawr sydd ar fin effeithio ar Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yna tynnu llun a rhywbeth ynddo sy'n unigoli gwrthrych gan ei fanylion didoledig.

Hysbyswyd bod yna gais cynllunio am ugain o fythynod ar Stad y Tyddyn ond cytynwyd i'w ohirio tan y cyfarfod nesaf gan fod galw am lawer iawn mwy o fanylion.

Methais â dod o hyd i fanylion am Forgan Williams hyd yn hyn, ac ni lwyddais eto i olrhain llawer o hanes William Williams.

Oni bai fod esgobion yn gwneud eu gorau glas i ddyrchafu'r drefn brotestannaidd yn ei holl fanylion, byddai polisi%au crefyddol y llywodraeth yn fethiant.

JE Caerwyn Williams, yn ei ddull manwl arferol, a sicrhaodd gywirdeb y testun, ac achubodd hefyd ar y cyfle i ychwanegu, o'i wybodaeth hynod eang am lenyddiaeth Cymru ac Ewrop yn y cyfnod canol, doreth o nodiadau tra defnyddiol ar fanylion iaith a chynnwys a fydd yn goleuo'r testun mewn modd amheuthun i bawb a fydd yn ei ddefnyddio.

Gorfu i bawb ohonom lenwi ffurflen bwysig ymlaen llaw a rhoddi pob math o fanylion amdanom ein hunain.

Am fwy o fanylion ffoniwch Guto ar 2199 a phob lwc i bawb fydd yn cystadlu.

Cynffon ei adroddiad oedd tri thudalen o fanylion ar yr ysgolion nos yn y tair sir.

Am fwy o fanylion cysylltwch gyda Mei ar 718 213, neu mae modd ffonio Rob Davies - rheolwr y grwp - ar 208 239.

Ni welir Bob a Margaret gyda'i gilydd; ni roir unrhyw fanylion ynglŷn â datblygiad eu perthynas; a chyn y diwedd pan â Margaret i ffwrdd sylwn fod yr adroddwr yn rhannu anwybodaeth y plwyfolion ynghylch ei lleoliad.

Mae'n bosib bwydo pob math o fanylion am leoliadau yng Nghymru i mewn tirwedd, tywydd, adnoddau, llety - gan gynnwys lluniau manwl, ac mae cynhyrchwyr ar draws y byd yn gallu cael gafael ar y deunydd o fewn munudau.

Nid yw'r un i ddysgwyr mor gyfoethog ei ddisgrifiadau a'i fanylion ac roedd braidd yn chwithig i mi ei ddarllen - dim hanner mor naturiol a'r fersiwn i blant Cymraeg iaith gyntaf.

Am ragor o fanylion, cysylltwch â phrif swyddfa'r Gymdeithas. 01.

Un o'r pethau rhyfedd ynglyn ag ysgrifennu hanes yw y gall ysgolheigion, gwahanol iawn eu hargyhoeddiadau personol, gytuno ar fanylion, ond pan ddônt i'w cyfuno mewn panorama eang, daw gwahaniaethau sylfaenol i'r golwg.

Mae amrywiaeth mawr yn y gwahanol siroedd a rhaid disgwyl am ragor o fanylion mewn perthynas â gweithredu gofynion y Gymraeg cyn y gellir cynnig cyngor ar faterion polisi sy'n berthnasol i Gymru gyfan a siroedd unigol.

Am fanylion tanysgrifio i'r Tafod papur, neu i gyfrannu erthygl neu syniad, cysylltwch â tafod@cymdeithas.com neu â'r Brif Swyddfa. Rhifyn Diweddara

Mwy o fanylion ar dudalen y Stereophonics ar y we - www.stereophonics.com.

Gofynnwyd am fwy o fanylion a chaed ail adroddiad mwy manwl gan J.

Cysylltwch â'r swyddfa am ragor o fanylion.

Mae'r lluniau llawn lliw hyn o safon mor uchel fel bod modd gweld yn eglur fanylion na ellid eu gweld â'r llygad.

Mwy o fanylion ar wefan yr Eisteddfod sydd wedi ei gohirio tan 2002 oherwydd clwy'r traed a'r genau.

Bu llawer o gwestiynu a holi am fanylion pellach rhyngom.

(Gweler yr Atodiad am fanylion mewn perthynas â Modelau Addysg Ddwyieithog)

Efallai bod Tafod y Ddraig a Chymdeithas yr Iaith yn bur ddieithr i chwi os digwyddoch ddod ar ein traws ni ar hap; os felly, a'ch bod am gael mwy o fanylion gyrrwch at un o'r cyfeiriadau E-Bost, neu'n well fyth llenwch y ffurflen aelodaeth a gyrru honno yn ôl.