Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

farchog

farchog

Mae prif thema La Queste a Perlesvaus yn sylfaenol debyg, ac yn sawru o Gristnogaeth asetig: er mai marchogion llys Arthur yw'r gorau yn y byd, mae eu diffygion moesol yn eu rhwystro rhag cyflawni'r gamp uchaf oll a chanfod y Greal; cedwir y fraint arberlnig honno i farchog ysbrydol a moesol berffaith, sef Persifal (cefnder cyfandirol Peredur y traddodiad Cymreig) yn Perlesvaus, a Galaad neu Galaath (sy'n fwy cyfarwydd bellach fel Galahad), arwr newydd sbon a ddyfeisiwyd yn arbennig ar gyfer y dasg yn La Queste.

Arhosodd ddwy noson gyda ni, a Mam oherwydd enwogrwydd yr ymwelydd efallai (ac fe'i gwnaed yn farchog yn ddiweddarach) yn fwy gofalus nag arfer, os oedd hynny'n bosibl, fod pob peth yn iawn: y prydau wrth ei fodd, y gwely'n gyfforddus, yr ystafell a'r llieiniau a'r hyn ac arall yn lân fel newydd.

Ymladdfa real ond sifalri%aidd, briodol i farchog urddol yw natur y cae niwl, nid ysgarmes carwr eiddigeddus â threiswyr penffordd arfog.

Os digwydd i chi, mewn gêm, golli un o'ch Cestyll am Esgob neu Farchog eich gwrthwynebydd mae'n debygol y byddwch yn colli'r gêm yn y pen draw, gan fod gwerth cymharol eich byddin chi wedi mynd i lawr ddau bwynt.

Ac os cewch chi gyfle i ennill Castell trwy aberthu Esgob neu Farchog - manteisiwch ar y cyfle bob amser, gan fod gwneud hynny'n gam pwysig tuag at ennill y gêm.

Fe welir oddi wrth hyn fod dau gastell yn fwy o werth nag un Frenhines ac fod y Frenhines yr un gwerth â dau Esgob a Marchog neu ddau Farchog ac Esgob.

Pe dywedem na buasai gwneud pob ysgrifennydd cyffredinol a fu i'r Brifwyl yn farchog ar ddiwedd wythnos gyntaf Awst yn ddigon o anrhydedd iddo ni buasem yn dweud gormod.'

Tra'n paratoi bwyd fe ddywed Morgan iddo weld dau farchog yn y goedwig y diwrnod hwnnw.

Fum i erioed yn farchog ac achubais i erioed unrhyw feinwen deg o grafangau unrhyw fwystfil rheibus.