Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

farddol

farddol

O gwmpas y rhain y tyfodd cylchoedd barddol bywiog Cwmaman a Brynaman, a thrwy eu dylanwad hwy a cholofn farddol Caledfryn yn Y Gwladgarwr, y meistrolodd cynifer o'r beirdd y cynganeddion.

Edrychid ar Feirdd Ynys Prydain fel brawdoliaeth rydd o feirdd a ddaethai, trwy gael eu hurddo mewn gorsedd, i mewn i'r olyniaeth farddol oesol.

Weithiau yn unig y cawn iddo arfer y gair 'Cyfoeth' am 'Dalaith', ond y gair a ddefnyddiai gan amlaf yn ei drafodaethau ar y drefn farddol oedd 'Cadair'.

Eglurodd fod i Feirdd Ynys Prydain gynt bedair Cadair - Gwynedd, Powys a Dyfed a Morgannwg - ac er mwyn pwysleisio rhagoriaeth hanesyddol Morgannwg a'i statws unigryw ef ei hunan honnai'n gyson mai Cadair Farddol Morgannwg yn unig oedd wedi goroesi i'w gyfnod ef.

Ef yn unig, yn wahanol i'r gweddill a enwyd yn y rhybudd, a oedd yn y wir olyniaeth farddol, a chanddo ef yn unig, felly, roedd yr hawl i gyflwyno'r urddau.

Oherwydd diffyg cyd- drefnu cenedlaethol effeithiol, cafwyd peth ymrannu, ond yn y diwedd bu ffyddlondeb y Beirdd i weledigaeth Iolo Morganwg, eu teyrngarwch i'r traddodiad barddol, y boddhad a gaent o gael cydnabyddiaeth gwlad am eu campau barddol trwy gael eu hurddo ac, yn bennaf oll, yr ymdeimlad fod gan y gymdeithas farddol 'hynafol' hon rywbeth mwy nag y medrai cyfundrefn a chyfansoddiad ei gynnig, sef yr hyn a elwid gan Orseddogion y ganrif ddiwethaf yn 'awdurdod', yn ddigon o atgyfnerthiad iddi oroesi, er gwaethaf yr holl feirniadu.