Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

farw

farw

Yr oedd hyn i gyd pan oedd Alun Oldfield Davies yn Rheolwr rhadlon yng Nghaerdydd a Hywel Davies twymgalon a disglair, a fu farw mor drist o gynamserol, yn Bennaeth Rhaglenni.

Yr actor sydd wedi cael y sylw mwyaf yn y ffilm mawr newydd, Gladiator, ydi Oliver Reed - yn rhinwedd y ffaith iddo fo farw cyn gorffen ffilmio.

Mam yn ceisio dianc o galedi ac oerfel Trefeca, o'r llafur a'r ddisgyblaeth ddiderfyn, gan adael un bach yn crio yn ymyl y lan a'r llall yn farw yn ei chôl.

Pan fuodd y milgi farw, roedd gan...

Y parthau hynny a roes Daniel Owen i ni wedi'r cyfan ac ni raid amau ar ôl darllen eu gwaith fod yr Ifansiaid, ganrif wedi ei farw, yn dal mewn cyswllt â'r Gymraeg a glywsai ef yn feunyddiol.

Bu farw cyn-faswr Aberafan a Chymru, Cliff Ashton.

Pan fu farw William Owen symudodd y teulu i lawr i fyw i Bron Ffinan, Pentraeth.

Nid oedd ganddo deulu agos i fynd ar ei ofyn er pan fu farw Hilda.

Pan fu Twm farw ar fwrdd y David Clarke ddydd Sadwrn.

Un o nodweddion barddoniaeth Gymraeg erioed oedd 'dilyn ffasiwn farw', a gogwyddo at adwaith.

Bu farw tair merch fach a dwy wraig yn y fflamau.

Yno yr oedd pan fu farw ei wraig; ac oddi yno yr aeth parth â Lloegr.

Bu teithio mawr yma pan fu farw Dr Livingstone ddwy flynedd nôl.

Ond nid yw popeth yn farw, fe heidia'r adar i'w brigau i chwilio am yr wyau a ddodwywyd gan y trychfilod a fu'n byw yno yn ystod misoedd yr haf.

Ni fynnwn farw%.

Cred rhai y bydd y claf farw os daw dwy ochr yr Eryrod ynghyd o gwmpas y corff ond ni wyddys beth yw sylfaen y gred.

Nid oeddwn wedi cael ond ychydig siarad â hi er pan fu farw ei brawd.

Bu farw'n dlotyn wedi oes fer o gynllunio a dyfeisio er lles yr ardal ac ar y diwedd roedd yn druenus ei weld yn ceisio bodoli ar yr ychydig bres a gai oddi wrth Urdd y Seiri yn Llundain.

Ymosodai yn filain ar wegil y greadures, rhwygo'r cnawd, ei lladd yn farw gorn, ac yna yfed peth o'r gwaed ffres, ychydig o ddiferion, cyn ffoi.

Gwynn Jones y byddai ef farw'n fuan, daeth y golomen i arwyddo bod "dyddiau fy anwylyd yn dirwyn i ben." Ni ddeallwn i arwyddocâd y golomen, ond deallasai fy nyweddi.

Pan ddywedodd hi fod yn ddrwg ganddi am farw John, meddai, 'Yn enw Duw, peidiwch â sôn dim am y diawl'.

Ddeufis ynghynt roedd yr Arlywydd Abraham Lincoln, wedi cael ei saethu'n farw tra'n gwylio drama mewn theatr ac, ychydig ddyddiau ar ôl hynny, fe ddaeth diwedd ar y Rhyfel Cartref a oedd wedi rhwygo'r wlad am bedair blynedd, gan arwain at farwolaeth tua hanner miliwn o bobl.

Un tro, bu farw gŵr hynod ddiog - fe'i galwn yn John Jones - ac fe'i corfflosgwyd.

'Gadewch i ninnau fynd hefyd, i farw gydag Ef...' Geiriau gwrol Tomos.

Fel Adams gwêl bosibiliadau barddonol yn y ffaith mai ym Mai y bu farw Penri: 'a martyr's death in May has all the sweetness and song and light of summer for its hallowing' - beth bynnag yw ystyr hynny!

Wedi marw ei rhieni, fe aeth Miss Thomas i gadw cartref i'w hewythr i Lanfaircaereinion, yntau hefyd yn cadw siop wlan, ac wedi iddo yntau farw, fe ddaeth Miss Thomas i fyw y rhan olaf o'i hoes yn y Felinheli.

Ar y funud honno, syrthiodd un o'r dynion oddi ar ei geffyl a bu farw; ond trwy law Samson daeth yn fyw drachefn.

Beth bynnag, ar ôl i Miss M. Rhys farw, gofynnodd ei chwaer, Miss Olwen Rhys, am gael y llyfr cofnodion cyntaf yn ôl o'r Llyfrgell Genedlaethol, a rhoes ef ynghyd â'r ail lyfr cofnodion i Syr Goronwy Edwards i'w cyflwyno ar ran y teulu i Lyfrgell Bodley lle cedwid y llyfrau cofnodion eraill a oedd ar glawr.

Oni bai i'r bêl gyflymu yn ei blaen, mae'n bosib y byddai Idris wedi yfed y llaeth ac efallai farw neu syrthio i drymgwsg yn y fan a'r lle...

Bu farw o ganser flwyddyn wedi rhoi'r gorau i chwarae.

Gorweddai ei farch ardderchog yn gelain farw, ac yr oedd y pris mawr a roesai amdano wedi mynd gyda'r gwynt.

Aethai yntau "i wynfa'r haul at yr anfarwolion." Pan glywais am farw fy nyweddi, y geiriau a ddaeth i'm meddwl oedd: Safodd yr Iesu ar y lan.

"Wel," medd y milwr gan dynnu ei gleddyf o'r wain, "efallai ei fod yn farw, ond gwell i mi wneud yn siŵr," Mae'n codi'r cleddyf uwch ei ben ac ar fin dy drywanu pan wyt yn troi'n sydyn, yn codi dy goesau ac yn ei gicio yn ei stumog.

Y llongau rhyfel yn tanio eu gynnau er cof am y rhai anffodus a fu farw dros eu gwlad yn y Rhyfel.

Ar un wedd y mae'n gofiant hefyd i bob milwr o Gymro a fu farw yn yr heldrin fawr.

Marwolaeth Bu farw Mrs Rhiannedd Barton, Alma Rd.

Y Cyflawniad Ysgrythurol: Byddai'r dehongliad o farw Crist fel aberth dros bechod yn annealladwy onibai am aferion a disgwyliadau Israel yn yr Hen Destament.

Fodd bynnag, cododd y Cristnogion eglwys bwysig er cof amdano yn y fan lle bu farw.

Roedd pedwar o'r gweddill wedi mynd i ffwrdd dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd ac nid oedd gan y ddau arall, gweddw a oedd wedi torri pob cysylltiad â'r byd ers i'w gŵr farw bymtheng mlynedd ynghynt, a hen lanc nad oedd Vera ond wedi bod yn gweithio iddo er mis Awst y flwyddyn flaenorol, ffôn yn eu cartrefi.

Dywed Frank Letch, tad i bump o blant, fod ei wraig Helen yn un o nifer o ardal Llanuwchllyn a'r Bala a fu farw o gancr tua'r un amser.

Bu farw Sharon mewn ffrwydriad car yn 1996 a bu Mark yn diodde am sbel ar ôl hynny.

Yr adeg hyn aeth pont yr Hendre i lawr o dan wagen a llwyth o had alffalffa, a bu i'r gyrrwr a'r ceffylau farw yn y ddamwain; o'r herwydd 'roedd rhaid i Mrs Freeman fynd mewn cerbyd at yr afon, croesi ar y bont droed gyda'r basgedi menyn, a chael menthyg cerbyd Thomas Pugh i fynd at Drelew.

Yn ystod y gwyliau fe gymerwyd y famgu yn wael ac fe brynwyd aspirin iddi a moddion arall ond ni fuwyd at y doctor lleol o gwbl, ac yn sydyn rhyw noswaith gwaethygodd ei chyflwr yn ddisymwth, a bu farw.

Yn enwedig ar ôl i EJ farw.

Rhys farw, gofynnodd ei chwaer, Miss Olwen Rhys, am gael y llyfr cofnodion cyntaf yn ôl o'r Llyfrgell Genedlaethol, a rhoes ef ynghyd â'r ail lyfr cofnodion i Syr Goronwy Edwards i'w cyflwyno ar ran y teulu i Lyfrgell Bodley lle cedwid y llyfrau cofnodion eraill a oedd ar glawr.

Doeddwn i erioed wedi cyfarfod fy nain, a doeddwn i ddim eisiau hynny, boed hi'n fyw neu'n farw.

(Del yw ffrind chwedlonol pob un ohonom, y ffrind a fu farw'n ifanc cyn rhoi cyfle i ni gael ein dadrithio).

Marwolaethau: Wedi gwaeledd hir, bu farw'r cyfaill William Tudur Rowlands, Argoed, Ffordd Garth Uchaf.

Yn drist iawn bu farw llawer o bobl.

Fe aeth drosodd i Efrog Newydd am rai blynyddoedd, a daeth yn ol i Gymru, ond yr oedd ei iechyd wedi torri i lawr a bu farw yn fuan a'i gladdu gyda'i ferch fach ym mynwent Capel Soar, Brynteg.

Onid oedd perygl felly y gallai farw yn ystod un o'r ysbeidiau hyn, ac na ddylai'r mudiad gymryd ei atgofion yn ganiataol?

Y mae lle i dybio iddo gael bywoliaeth Mallwyd un ai trwy ddylanwad yr Esgob Morgan neu yn rhodd ganddo ychydig cyn iddo farw.

Ddydd Sul cafodd bachgen Palesteinaidd 14 oed ei saethu'n farw gan filwyr Israel wrth ymyl croesfan i Lain Gaza.

Fe gafodd dau o 'mhlant malaria ac fe fuon nhw farw.

Fe fodlonodd Daniel O'Connell a'i gyd-weithwyr ganrif a hanner yn ôl i'r Wyddeleg farw.

Rhyfedd yr ymgeledd a gafodd dynion drwy'r oesoedd gan y gwragedd: Dyma air o un baraita Iddewig hen, hen: "I bob creadur a arweinir y tu allan i'r porth i farw, fe roddir tamaid bach o fygarogl neu sbeis mewn cwpanaid o win i drymhau a marweiddio'r synhwyrau ......

Bu farw un o'u chwe phlentyn yn ystod y nos; roedd dau deulu arall yn y ciw wedi colli plentyn yr un hefyd.

Fy nwy ais, farw fy nisyn, Y sy'n glaf am Siôn y Glyn.

Ond doedd honno ddim yn agos at farw.

Bu farw Dafydd Lloyd yn fuan wedi iddynt symud i'r Tŷ Capel, ond fe gafodd ei weddw a'i ferch aros ymlaen.

Bardd o Belfast a fu farw'n ddiweddar oedd John Hewitt.

Ddechrau'r mis, wedi gwaeledd hir, bu farw brawd i Mr Thomas, sef Mr Stanley Thomas o Niwbwrch.

Dull arall oedd sicrhau tiroedd rhai a fu farw heb ewyl1ys, troseddwyr, eiddo teyrnfradwriaeth fel a ddigwyddodd yn hanes Syr Rhys Ap Gruffydd a Syr John Perrot.

Cofiai hefyd am ddefaid ac þyn yn gorwedd i farw tan berthi'r meysydd a'r pryfed sydd yn ymbesgi ar lygredigaeth y cnawd yn ymgasglu tan y gwlân cyn i'r corff oeri.

Bu Israeliaid yn dosbarthu taflenni mewn angladd yn Jerwsalem ag arnyn nhw: Mae cytundeb Oslo'n farw.

A chydag iddo wella bron, bu farw ei dad.

sylweddolwn mai trosiadau yw'r atebion amrywiol, trosiadau yn darlunio'r un gwirionedd canolog sef iddo farw er mwyn i ni gael byw.

Daeth cwmwl o dristwch dros y gymdogaeth pan fu Mr Huw Williams, Pencoed farw ac yntau ar ei wyliau gyda'i deulu yn Creta.

Parhaodd yr ysgolion cylchynol hyd at farwolaeth Charles, ac am ychydig ar ôl ei farw.

Datblygodd ffrwgwd arall ym mywyd Llew - y tro hwn rhyngddo ef a Hywel a bu bron i Hywel farw o'r herwydd.

Ond wedi Awstria, ac wedi Tsecoslofacia, ac ychydig cyn Dansig, bu farw'r henwr annwyl.

Ni wyddai Miss Hughes ond y nesaf peth i ddim am y busnes, ac ofnwn pan fu farw Abel na wyddai hi ond ychydig am ei amgylchiadau; ac eto yr oedd hi'n fenyw dda ac yn llenwi'r cylch y galwyd hi iddo yn rhagorol.

Ym Mai, meddai, y bu Penri farw, ac aeth rhagddo,

Pan fu o farw fe gymerais i'r awenau.

Ychydig ddyddiau cyn Eisteddfod Llanelwedd yn dangnefeddus a bodlon, fel y bu byw, bu farw Gwilym Richard Jones, 'Gwilym R.' i bawb.

MARWOLAETH: Ar ol cystudd hir bu farw Miss G.

Ar lawr un, agorodd mam ddagreuol flanced a orchuddiai gorff ei baban dri mis oed a fu farw rai oriau ynghynt am nad oedd llaeth ar gael iddo.

Ar y rhyngrwyd, cafwyd crwydro helaeth os nad afiach uwch ei farw a'r modd y bu iddo osod dryll i'w ben.

Mae pethau'n dechrau torri lawr rhyngon ni - elli di ddim gwadu hynny - a wela'i ddim sut y gall gadael i'n cariad ni farw gyfrannu mewn unrhyw ffordd at wneud iawn am farwolaeth Heledd." Rhedodd Marc ei fysedd drwy ei wallt du, cyrliog a dechrau cerdded yn ol ac ymlaen ar draws yr ystafell.

Deffrowyd pawb yn y tŷ gan y sŵn a wnai Gwyll, a phan ddaeth y gweision yno gyda'u lampau gwelsant gorff Lowri Cadwaladr eu meistress yn gorwedd yn farw ar y gro o flaen y drws.

Ychydig cyn ei farw dechreuodd lunio traethawd ar athroniaeth naturiol - yr hyn a alwn ni heddiw yn ffiseg.

Yn Llangadog bu farw pedwar wedi i drên ddisgyn oddi ar bont a oedd wedi ei hysgubo i ffwrdd gan lifogydd.

Dydd Gwener lOfed Bu farw Mr Richard Williams, cyn-swyddog gyda'r Bwrdd Marchnata Llaeth yn y Trallwng.

"Wel, na, 'dwy ddim..." "Nag wyt, neu 'faset ti ddim yn sôn am ddiddanwch yn yr un anadl â hi." "Blin?" "Nid hynny'n gymaint â'i bod hi wedi mynd i dra-arglwyddiaethu yn y fan acw." "Beth am y misus?" "Mae'r hulpan honno o dan yr argraff y caiff hi gydaid o bres ar 'i hôl os bydd hi farw, ac mae'nhw fel person a chlochydd hefo'i gilydd.

Pan ddaeth Y Cymry, diolch i ysgolion Griffith Jones, yn bobl lythrennog, yr oedd y Gwyddelod, fel y Llydawyr a'r Sgotiaid Gaeleg, yn anllythrennog; yng Nghernyw ac Ynys Manaw yr oedd yr ieithoedd brodorol wedi marw neu ar farw.

Jones, prif sylfaenydd y Blaid Genedlaethol, a oedd newydd farw.

Ond a yw e'n farw?

Bu Edward farw cyn pen pythefnos ar ôl gorwedd yn anymwybodol am rai dyddiau.

Y mae un o'm hoff feddargraffiadau i yn yr India yn coffau imperialydd o Gymro: 'Yma y gorwedd Gwilym Roberts a fu farw o effeithiau'i gyfarfyddiad a theigr'.

Ysbrydolwyd y gerdd gan farwolaeth glöwr 48 oed, aelod o gapel y bardd a chyfaill iddo, a fu farw o glefyd y llwch.

Pan fu farw ei fab a'i wraig ymhen pythefnos i'w gilydd, lluniodd y pennill hwn: Beth yw siomiant?

CYNHALWYD gwylnos ym Môn yr wythnos yma er cof am mam o chwech o blant bach a fu farw ar ôl digwyddiad erchyll yr wythnos cynt.

Bu farw'n dlotyn wedi oes fer o gynllunio a dyfeisio er lles yr ardal ac ar y diwedd roedd yn druenus ei weld yn ceisio bodoli ar yr ychydig bres a gai oddi wrth Urdd y Seiri yn Llundain.YR OES OLEUEDIG HON...?

Yn y cyfamser, bu morwr a oedd yn wael cyn gadael y llong, farw y noson gyntaf ac ychydig ar ei ôl bu farw dau arall.

Ymosodir ar Caradoc Evans, y llenor Eingl-Gymreig, ynddi, a chlodforir H. R. Jones, prif sylfaenydd y Blaid Genedlaethol, a oedd newydd farw.

Pan wêl y bleiddiaid eraill eu harweinydd yn farw fe giliant allan o'th golwg ond gwyddost eu bod yn dal yno yn disgwyl i ti ddisgyn o'r goeden.

COLLEDION: Yn ystod yr wythnosau diwethaf bu farw chwech o drigolion yr ardal.

Davies, a chasai o waelod ei fod y Jingoaid croeniach hynny a anogai'r ifanc i farw dros eu gwlad.

Pan fu farw yr oedd newydd lunio darlith y gofynnwyd iddo ei thraddodi yn Nenmarc.

O dan amgylchiadau o'r fath, gall y siawns o farw o dan y driniaeth fod cymaint â deg gwaith yn uwch nag y byddai o dan amodau mwy ffafriol.