Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fechgyn

fechgyn

Cofiaf i mi sylwi y bore hwnnw fod rhai o'r plant yn y dosbarth wedi eu gwisgo yn hollol yr un fath â'i gilydd - pedwar neu bump o fechgyn yn f'ymyl mewn siwt lwyd, dywyll, hynod o blaen, er yn lân, a rhai genethod mewn siwt o'r un lliw a defnydd, a'r un patrwm â'i gilydd yn union, gyda ffedogau gwynion, llaes a dwy lythyren wedi eu stampio arnynt.

Pan oedd pawb wedi cilio i'w cytiau, roedd un o fechgyn y Llynges yn crwydro o amgylch y gwersyll yn chwilio am hoelion a darnau o bren a sachau, ac wedi iddo lwyddo i gael digon o ddefnyddiau aeth ati i wneud gwely bach reit handi iddo'i hun.

Gwnâi hyn ni'n fechgyn atebol ac iach ac roedd y fagwraeth weithgar a chaled a gawswn i, yn ddiamau, o gymorth mawr ar dreialon dygn fel hyn.

Ces sioc o weld heidiau o fechgyn bychain croenddu, rhai mor ifanc â saith mlwydd oed, yn byw ar y strydoedd, yn cardota, a deifio ar y sgraps diangen oedd yn cael eu taflu allan gan y gwerthwyr ffrwythau.

Ni fagodd fol ei gyfoedion, a gallai roi dau dro am un i fechgyn ysgol.

Wedi cuddio'r llawddryll yr oedd, meddai, gan fod ei dad wedi saethu'n fwriadol at griw o fechgyn yn Llanfwrog.

Yr oedd Rhys Thomas yn saer nodedig ac yr oedd ganddo weithdy helaeth iawn, a dysgai amryw o fechgyn ifainc i fod yn seiri coed yn eu tro.

Ac yn rhoir argraff fod gwneud yn dda mewn arholiadau yn rhyw fath o enedigaeth fraint i fechgyn.

Rhuthrais innau i mewn gyda'r cyntaf a dangosais i fechgyn y Cei fy mod o leiaf yn gallu marchogaeth ceffyl a hynny nid yn eistedd ond yn sefyll ar ei gefn.

Roedd yna griw da o fechgyn yn y Felinheli - wyth neu naw ohonom ac mi fyddan ni'n mynd i ffwrdd am reids i bob rhan o'r wlad ...

Pan ddaeth yn amser i ni fynd allan i'r iard, daeth nifer o fechgyn o'm hamgylch, fel yn y bore, gan ddangos diddordeb ynof, fel pe bawn yn fod o ryw fyd arall, a dechreusant fy herio fel o'r blaen.

i ferched ac i fechgyn

Ond doedd hi byth yn brin o fechgyn, achos, yn iaith yr ardal, roedd hi'n bishin pert.

Chi fechgyn!

Yn lle hynny, daeth rhes o fechgyn i'r cae, a phob un yn cario hambwrdd yn llawn o bethe gwyrdd tywyll, a thu mewn cochlyd, yn llawn hade duon.

Yr oedd tad-cu Dafydd Pen-y-graig, Richard Cwm-garw, a'i frodyr Watkin a William a Morgan Cwm-garw yn ddynion adnabyddus yn y lle yn gynnar yn y ganrif o'r blaen, a magodd bob un ohonynt deuluoedd lluosog o fechgyn cryfion a merched glân.

Fel arfer pan fo criw o fechgyn yn yr un lle yn rhannu'r un chwaeth gerddorol, y canlyniad yw ffurfio grŵp, ond gan nad cerddorion mo Gruffydd Jones ac Alun Llwyd, dyma benderfynu ffurfio cwmni recordiau.

Roedd yna dwr o fechgyn ifainc oedd wedi tyfu i etifeddu, nid y ffydd yn yr egwyddorion a ddygai well byd i fyw ynddo, ond y Ffydd a ddywedai fod gobaith am fywyd tragwyddol.

Yr adeg hynny roedd nifer o fechgyn o Benmaenmawr wedi dechrau canlyn genethod 'dros y Clip'.

Gwelwn y byddai i'r rhai hynny gael eu hennill gan fechgyn parchus a chefnog, y rhai a gawsai addysg dda ym more eu hoes.

Mae'n lle peryglus iawn i fechgyn bach fel chi,' meddai gan chwerthin a dangos llond ceg o ddannedd drwg.

Yn wir, yr oedd ei ddull o chwarae a'i ymddygiad ar y maes yn batrwm i fechgyn ifainc.

Nawr dwy i ddim am i chi gredu'i bod hi'n anfoesol mewn unrhyw ffordd - ond roedd hi'n bropor, boblogedd, a digon o fechgyn yn y pentre fydde'n barod 'i phriodi hi.

ydi i fechgyn fel fi .

Y mae'r cerddi hyn gyda'u hangerdd dwys yn goffâd teilwng iawn hefyd i fechgyn ifanc eraill yn Uwchaled (a llawer ardal debyg iddi) a gollwyd yn y Rhyfel, a mab Penyfed yn eu plith.

Ond mae lot o fechgyn eraill yn whare'n dda a ddim yn cael y sylw maen nhw'n haeddu.

Gyda'n bod ni wedi cyrraedd yr awyr agored, roeddwn yng nghanol twr o fechgyn, a chwestiynau yn dylifo ataf o bob cyfeiriad.

Roedd efelychu oedolion yn rhan bwysig o addysg y cyfnod, a dis gwylid i fechgyn ddysgu trin arfau'n gynnar iawn, fel y gwnâi Siôn gyda'i fwa bach a'i gleddyf pren (arfer sy'n cyferbynnu'n ddigrif ag ofnusrwydd y plentyn bach).

Er yn byw yn y de ers rhai blynyddoedd un o fechgyn Pwllheli yw'r awdur ac hefyd yn awdur clasur o lyfr ar hanes y dref honno.

Dyna lle'r oeddem yn dwr o fechgyn eithaf dibrofiad mewn goruwchystafell, yn disgwyl ein tro i gael ein galw i wynebu'r Bwrdd fesul un.

Er gwaethaf y tywydd poeth mae rygbi yn dal yn boblogaidd yma gyda Julian yn un o drefnwyr gornest ryngwladol i fechgyn ysgol dan 19 bob Pasg.

Gan fy mod wedi chwarae i ysgolion gogledd Cymru ac yn un o'r treialon rhyngwladol i fechgyn ysgol, doeddwn i ddim yn hapus gyda'r syniad o chwarae i unrhyw ail dîm.

'Dowch, fechgyn,' meddai Iestyn.

Erbyn i ni fod yno, roedd mil o bobl wedi'u lladd, y rhan fwya'n Balestiniaid, wrth i fechgyn ifanc a llanciau daflu cerrig a bomiau petrol at filwyr Israel a chael eu saethu am eu gwaith.

Nid oes angen atgoffa neb a'i hadnabu mai un o fechgyn Bangor ydoedd HS Yr oedd acen y ddinas ar ei dafod, a chanddo feddwl uchel o'r ddinas a'i phobl, a hyd y diwedd bu yn gefnogwr brwd i glwb pel-droed y ddinas.

Ni allai Sam wynebu'r byd hwnnw, a oedd mor gyfarwydd i fechgyn y Llan.

Yma ac acw, gwelwn lawer o fechgyn a dynion mewn dillad sifil o gwmpas y stesion ac amheuwn eu bod yn yr un sefyllfa â minnau ac yn mynd i wersyll i ryw gyfeiriad neu'i gilydd.

"Mae'n iawn i fechgyn gario pethau - - does arna i ddim eisiau gwneud fy nillad yn flêr!" "O, Iona, rydan ni'n dwy'n helpu hefyd, tyrd yn dy flaen," meddai Eira'n flin.

Dyna oedd ein hymgais ni'n ei ddarlunio - chwech o fechgyn, pob un yn ceisio cael y gorau dros y gweddill.

Pan ddown ni i'r stopio nesaf mi awn ni i'r caffi, os ydych chi'n fechgyn da.

Tua dwsin o fechgyn wedi cyrraedd yma o Loegr - y to dan ei sang o gyrff yn y nos.

"Os oes ar rywun eisio cweir, mi ro i hi iddo fo." Trois fy mhen i edrych pwy oedd wedi f'achub, ac er syndod mawr i mi, gwelais mai un o fechgyn y siwt lwyd oedd ef.

Y mae'r profion medrusrwydd wedi bod yn bwysig ac yn addysgiadol i lu mawr o fechgyn a genethod y Sir ac y mae dyled y mudiad i hyfforddwyr ymroddedig yn fawr.

Mae tadau fel arfer yn rhoi Mecano neu Subutio i fechgyn adeg Nadolig, ond roth o lyfr cynganeddion i fi.

Criw o fechgyn gwyn mewn dillad du yn neidio arna'i o'r tu ôl i gerflun yr hen Fatchelor wrth gaffe'r Ais, fel y down i mas o'r tai bach.