Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

feddai

feddai

Yn ffodus cafwyd gwr â feddai brofiad maith fel Gweinidog i'w olynu, sef y Parchedig E.

Cyfeiriwyd eisoes at awgrym yr Athro Williams fod Llyfr Coch hergest yn un o lawysgrifau Hopcyn, a gwelwyd enwi llawysgrifau eraill a feddai yng nghaniadau'r beirdd iddo.

Hyd hynny 'roedd yr unig weinidog ordeiniedig a feddai'r eglwys ar y Gwastadedd, sef Hem Sircar, yn cael ei dalu o gronfa'r eglwys.

Cafodd 'madael â'r clefyd, ac â phopeth arall a feddai.

Fel canlyniad fe gollodd Bowser y cyfan a feddai a'r holl ddiwydiant yn dirwyn i ben.

Cenedl fach iawn wledig oedd Cymru, yn meddu ar ychydig o gannoedd o filoedd o boblogaeth yn unig, heb brifddinas debyg i Gaeredin neu Rennes a feddai ar seneddau y pryd hynny, neu Ddulyn a gâi senedd am gyfnod yn y ganrif nesaf.

Fe sefydlwyd Ty Tawe fel cymdeithas yn ystod Eisteddfod Abertawe 1982 gyda'r bwriad o brynu canolfan I hybu defnydd o'r iaith ymysg yr ifainc a dysgu hanes Cymru a'i Hiaith i bawb a feddai ddiddordeb yn y wlad a'i diwylliant.

Ac roedd hynny o arian a feddai wedi'u cadw'n ddiogel mewn cwdyn lleder, main a gyd-darai'n gyson â'i geilliau wrth iddo gamu trwy'r dorf gan wthio rhwng un ceffyl a'r llall.

Yn ein plith ym Mangor yr oedd myfyriwr o'r enw Henry Aethwy Jones, brawd o Lerpwl, a feddai gyflawnder tra helaeth o hunanhyder, ac un a fentrai drafod ei athrawon fel cydradd, a hynny mewn Cymraeg oedd yn camdreiglo'n rhyfedd.

Buasai unrhyw ddyn felly wedi cael ei gyfarch fel Meseia gan y bobl, ond Fidel yn unig a feddai ar y rhinweddau angenrheidiol.

Saer a feddai ar ddigon o amynedd oedd piau hi wrth y gwaith hwn.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf prynwyd nifer o'r tai gan deuluoedd ifanc a feddai ar yr egni a'r modd i'w hadnewyddu.

Ychydig iawn a wyddom am draddodiad llenyddol Morgannwg a Gwent cyn y bedwaredd ganrif ar ddeg; yn wir, gellid dweud am Went na feddai fywyd llenyddol fel y cyfryw yn y canrifoedd dilynol ychwaith, beth bynnag am gyfnodau blaenorol, er bod yno yn adeg y Cywyddwyr lawer iawn o gartrefi nawdd.

Ar ôl i mi ganu cloch drws y ffrynt, agorodd ef, edrych i fyw fy llygaid gyda'r llygaid llym llwyd a feddai, a gofyn, 'A welsoch chi'r Western Mail y bore 'ma?

Ond tua diwedd yr ail ddegawd bu ffrwgwd rhyngddo a Iarll Ashburnham a achosodd iddo golli'r cwbl a feddai.