Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

feddiant

feddiant

Er i Papua Guinea Newydd gael llwyth o feddiant yn yr ail hanner fe ddeliodd Cymru â nhw'n gyffyrddus gan ildio ond un cais i John Wilshere.

Ar y lefel hon fe ddathla'r broses lle cymer y dosbarth canol Cymreig newydd feddiant ar freintiau a swyddogaethau'r hen ddosbarth bonheddig.

Gwybod fod tynged pob pregethwr yn 'i feddiant o, ac y gallai estyn cymorth a chalondid neu siomiant a phryder i bob un a ddeuai yno i bregethu?

Mae Dennis Yates, 57, o Sir Derby, wedi'i gyhuddo o geisio cael arian drwy fygwth pobol ac o fod a nwyddau wedi'i ddwyn yn ei feddiant.

Daeth llif o feddiant o gyfeiriad y blaenwyr, ac ar ôl symudiad chwim, aeth y bêl i ddwylo'r gwibiwr J.

Owen, a'i arian mân yn bentwr o'i flaen, a thrwch y mwg o'i getyn ac o'i geg yn amrywio yn ôl addewid y dominôs yn ei feddiant ar y pryd.

Y blaenwyr Dyfarnwyd pedair cic gosb ar bymtheg gan Gareth Simmonds (yr oedd un o'r llumanwyr o Gaerloyw, sef John Roberts), deuddeg ohonynt i'r Cochion, llai nag arfer am droseddau yn y ryc er bod pob blaenwr â'i fryd ar ennill yr ail feddiant.

Cododd cywilydd ar Idris a gofynnodd yn isel i'r llew sut y gwyddai ef fod yr Afal Aur yn ei feddiant.

'Ef yw ystor cerddorion', 'prydyddion a faeth' medd Dafydd y Coed amdano, 'ei noblau yn fau' medd drachefn am yr 'hael cerddwriaidd', a Dafydd biau'r cyfeiriad tra hysbys at y llawysgrifau a oedd yn ei feddiant: yr Elucidarium, 'Ystoryaeu Seint Greal' (yn ol pob tebyg) ac annales, sef cronicl Lladin neu Gymraeg, fe ellid barnu.

Roeddwn i'n meddwl bod ni wedi gwneud digon yn yr hanner cynta, wedi cael digon o feddiant, digon o gyfleon i sgorio sawl cais.