Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

feddyginiaeth

feddyginiaeth

Nid yn unig maent yn disgrifio'r afiechydon yn fanwl, ond awgrymant hefyd fwy nag un feddyginiaeth.

Ystyrid sug y planhigyn yn feddyginiaeth bwerus ac arferid cymryd peth ohono yn y gwanwyn i buro'r gwaed.

Mynd ag ef yn ôl y dydd canlynol a dod a'r feddyginiaeth i mam.

Yn y bôn, roedd rhaid inni gredu os nad oedden ni yno, na fyddai'r milwyr, yr hofrenyddion, y pebyll, y feddyginiaeth na'r bwyd yno ychwaith.

Mewn cyfnod pan oedd cryn elfen o ofergoeledd yn perthyn i feddyginiaeth yr oedd ffynhonnau iachaol yn hynod o boblogaidd.

Dyna pam roedd Sydna, y forwyn fawr, yr eiliad honno, ar riniog y drws ffrynt yn ceisio boddi y gofid â'i chroeso a'r hwsmon, Obadeia Gruffudd, ar ei liniau ar lawr cegin y gweision yn chwilio am feddyginiaeth wahanol.

Cipar oedd, ac fe ddywedodd wrthyf ei fod wedi cael y feddyginiaeth gan hen sipsi.

Canllaw i golli pwysau'n llwyddiannus Ymgynhorwch a'ch meddyg cyn dechrau'ch diet os ydych yn cymryd unrhyw fath o feddyginiaeth neu os ydych yn dioddef o unrhyw gyflwr meddygol.

Yr unig feddyginiaeth a gynigiai Llywodraethau'r cyfnod oedd yr hyn a alwent yn "drosglwyddiad llafur", sef symud y rhai ifancaf a'r mwyaf egni%ol i Loegr lle yr oedd angen gweithwyr yn y canolbarth a'r ardaloedd o gwmpas Llundain.

Dyna fasa'r feddyginiaeth." Wn i ddim oes gynno fo siârs yn y bysnas ai peidio, neu ei fod o yn rhyw fath of Fesyn.

Yn draddodiadol mae sudd betys a te betys (a wneir o'r dail) yn feddyginiaeth rhag diffyg gwaed, i gywiro pwysedd gwaed isel ac i wrthwneud gormod o asid yn y cylla.

'Reildro pan ddychwelais ato'n bryderus, sylwais fod ei ddysgl blastig a oedd yn dal arfau'r feddyginiaeth yn gwingo ar gledr fy llaw.

Ceisia gysgu - dyna'r unig feddyginiaeth am y tro." Clymodd ei freichiau'n dynn amdani a chusanu ei gwallt.