Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

feddylgar

feddylgar

Yna safodd am eiliad â golwg feddylgar ar ei wyneb cyn troi yn ei ôl, agor drws y parlwr, rhoi'r golau ymlaen a chamu i'r ystafell.

Amneidiodd y ficer ei ben yn feddylgar.

Ond mae'n amheus iawn gen i os mai ni yw'r unig garcharorion,' meddai Myrddin yn feddylgar.

"Wel, mae'n debyg fod y peth wedi effeithio arno fe, oherwydd wythnos ar ôl iddo orffen 'ma roedd e'n sâl yn 'i wely a Doctor Wills o'r pentre gydag e bob dydd." Bu distawrwydd yn y swyddfa am funud a'r Cyrnol yn edrych yn feddylgar ar y to.

Edrychai Sylvia'n feddylgar.

Edrychai Dad yn feddylgar.

Chwarae teg iddo am fod mor feddylgar hefyd.