Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fedr

fedr

Ni fedraf feddwl am well diwrnod i neb sy'n byw o fewn cyrraedd Bro Morgannwg na dilyn y daith arbennig yma a fedr eich ysbrydoli i ddechrau eich casgliad daearegol eich hun - fel y gwnaeth lolo Morgannwg yn ei ddydd.

Gyda dulliau mwy cywrain, gellir gwella eto ar fedr yr algorithm genetig.

Cyrhaeddodd Harri y Bedol pan oedd y boneddigion ar fedr eistedd wrth y bwrdd.

Ti yw'r unig un a fedr ei wir frifo.

Yn ôl yr adroddiad, roedd plant i rieni oedd mewn swyddi lled-fedrus neu ddi-fedr dair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi dioddef ymosodiadau na phlant i rieni proffesiynol.

ebe huw huw fedr o nofio?

Da iawn nhw, mae nhw ddigon craff i sylweddoli na fedr tai ddim siarad, ond mae mynd gam ymhellach a sylweddoli fod y bobl sydd yn byw mewn tai yn siarad â'i gilydd y tu hwnt i'r bobl yma.

Os na fedr yr Almaenwyr yna fynd â'r bwyd oddi yno wnân nhw byth gredu y medrwn ni wneud hynny." Dechreuodd Marie ail rwbio'r pistol â darn o glwt budr, ac am hir nid oedd sŵn yn yr ystafell ond sŵn y tân nwy yn poeri weithiau.

Nid bod meidrol a fedr weld cwt sinc a'i alw'n commodious bungalow.

Tasg PDAG yw hwyluso datblygu addysg yn Gymraeg gan yr holl asiantau statudol ac annibynnol a fedr gyfrannu at y ddarpariaeth.

"Os bydd hi'n bwrw eira drwy'r nos fedr yr un lori fynd yn agos at y seidin yna yfory, a bydd y bwyd yn aros yno am ddiwrnodau arall ac fe rydd hynny ddigon o amser i'r Maquis ei rannu.

'Pwy a fedr gael gwraig rinweddol?

Mae'r peth yn hunan-amlwg pan feddyliwch amdano þ wedi'r cyfan, ni fedr mewnfudwyr newid lliw eu crwyn, ond mi fedran nhw ddysgu iaith.

Bron na fyddwn i'n dweud fod perfformiadau byw Chouchen yn rhagori ar yr hyn sydd i'w glywed ar eu crynoddisgiau, a fedr hynny ond bod o'u plaid nhw.

Un peth sy na fedr ddim oddi wrtho, a hynny yw canu.

Y rheini fedr arwain orau rai cyffelyb iddynt hwy eu hunain, a chyda mwyaf o rym wedi iddynt gael eu sefydlu yn y Ffydd, a dod i gredu mewn gwirionedd 'fod Iesu Grist yn Arglwydd er gogoniant Duw Dad'.

Trueni na fedr Simon basio'n well gan ei fod yn gryf ac yn benderfynol wrth ymhyrddio ganol y maes.

Oblegid nid oes un dyn a grewyd a fedr fforddio an wybyddu ei gyd-fforddolion.

Ac eto, un cyfrwys ar y naw ydi'r temtiwr, un a fedr siarad â llais cymhellgar trwy ddangos pa mor foesol ydi'r aberth.

Diolch iddo fo, mae yna drac garage Cymraeg erbyn hyn, a fedr hynny ond bod yn beth da.

Bron ddwy ganrif yn ddiweddarach, roedd gohebydd ar ran El Pais yn Iwgoslafia'n dweud mai'r newyddiadurwr sala' yw newyddiadurwr marw - am na fedr adrodd ei stori.

Ond tra oedd Llanelli yn dal yn y gêm wrth flaene eu bysedd, cafodd y cwbwl ei wyrdroi gan un symudiad cryf gan y blaenwyr, a Tommy David yn arddangos ei fedr a'i gryfder wrth garlamu dros linell gais Castell Nedd i sgori pedwar pwynt.

Mi fedr lleidr guddio ei edrychiad a newid swn ei lais, ond fedr o ddim cuddio rhywbeth fel cloffni." "Ond, dydwi ddim yn deall," meddai Catrin Williams.

Fe'm llyncwyd i fyny Mewn syndod i gyd, Wrth feddwl am angau Iachawdwr y byd; Trysorau o gariad, Trysorau o ras, Na fedr angylion Eu mesur hwy maes.

'A finnau hefyd,' meddai Carol, 'ond mae'r botel yn wag a fedr Mam ddim stopio'r car ar y ffordd brysur yma.

Diolch i fedr a dewrder Bob Kelly achubwyd pobl Farnham rhag trychineb ofnadwy.

Dim ond hanesydd eofn -- ac un nad oedd yn rhan o fwrlwm y cyfnod cynnar -- fedr daflu ei linyn mesur yn wrthrychol dos hanes y mudiad.

Oherwydd dinistrio sylfaen bentrefol ein hiaith rhaid creu sylfaen newydd iddi; troedle a fedr wrthsefyll bygythiadau'r mewnlifiad cyson o Saeson i'r ardaloedd gwledig, a throedle a fedr gymathu nifer sylweddol ohonynt heb danseilio'r iaith a'r diwylliant Cymraeg.

Fedr wyddost-ti-pwy ddim clywed ein sgwrs ni wedyn." Dechreuodd Llefelys siarad drwy'r beipen a Lludd yn gwrando, ond roedd yr hyn a glywai yn lol llwyr.

Gan ddefnyddio ei holl fedr fel gyrrwr llywiodd y lori fawr o'r naill ochr i'r llall.

* "Mae gen i dyst nad oedd mymryn o fai arna i ond yn anffodus fedr o ddim darllen na sgrifennu ac mae'n ddall a byddar..." LLOCHES

Mae yna ymadrodd hyfryd i ddisgrifio tywydd ar ddechrau dydd pan fedr fynd yn hindda neu'n ddrycin: rhyw dywydd "be wna i' yn 'te.

Nid oes yr un ohonynt na fedr siarad Saesneg.

a beth pe na bai neb gartref gartref williams, sarsiant williams, awgrymodd wil wil a mi fedr o ddod a rhywun hefo fo i chwilio am am daeth rhyw grygni i 'w lais wrth iddo sylweddoli am pwy, neu am beth.