Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fedra

fedra

Fedra i yn fy myw dy ddallt ti, Huw.

Mi fedra i ei glywed o 'nghwmpas ym mhob man - ar wahân i arogl lledr, glud, cemegolion a defnyddiau crai eraill.' Tydi hynna ddim yn wir,' meddai, gan gasa/ u dweud celwydd, ond yn ceisio'i hargyhoeddi ei hun mai dyna'r unig amddiffyniad yn erbyn y diwydiannwr hwn oedd mor annioddefol o lwyddiannus.

Rhyw fath o syrcas oedd yna heddiw 'ma, a dyn yn hongian yn y to, ar ddim byd ond weiran bach dena' dena', mor dena' fel na fedra neb ei gweld hi, bron iawn.

`Beth yw'r sŵn yna?' `Dydw i erioed wedi clywed dim byd tebyg iddo.' `O ble mae e'n dod?' `Edrychwch!' `Fedra i ddim credu ...' `Edrychwch, ...

Y mae'n ormod o risg, fedra i ddim ei wynebu.

"Fedra i ddim symud fy mraich chwith na'm coes chwaith," sibrydodd wrth Royal.

Ond fedra i ddim torri bedd iddo fo, O!

Mi fedra i ddeall pam.

Fedra i ddim dod dros Anti Nel yn prynu menyn yn y farchnad!

'A phan gyrhaeddodd Meiledi'r porthladd roedd y newydd, newydd gyrradd, bod 'i gorff o wedi'i gladdu yn yr eigion.' ''Fedra i ond dychmygu maint 'i siom hi, a chydymdeimlo i'r byw.' ''Does dim raid i ti fyta bara gofidia yr un eiliad yn 'chwanag.

'Fedra i ddim meddwl y gallai o ddeud dim i'n helpu ni i gael Lewis yn rhydd,' meddai Morris yn fyfyrgar.

Dydw i ddim yn medru nofio - dim ond padlo buo Lisi a fi - ond mi oedd Defi John a Jim fel petha' gwirion, ishio gweld pwy fedra nofio bella o'r lan.

Mi fedra' i 'i rhwygo hi cystal â neb yn y fan yma ond nid ar y bocs chwarae teg .

"Fedra i ddim bwyta yr un briwsionyn arall," meddai'r cardotyn ymhen hir a hwyr, gan wthio'i gadair oddi wrth y bwrdd.

Braidd yn rhy bell felly fedra ni ddim mynd.

Fedra'i byth fynd yn ôl at Gwyn a'i Dylwyth heb orffen y llifogydd, ond cyn suddo'r lle mi leiciwn orffwys unwaith dan do diwael yn glud dros nos.

Fedra' i ddim deud yn iawn be' 'roeddwn i'n deimlo." Roedd yn hawdd gweld ar wyneb Snowt fod ateb Aled wedi ei blesio.

a fedra' fo ddim 'nabod cynghanedd i achub 'i fywyd .

Fedra i ddim meddwl pryd ddysgais i gynganeddu - rwy'n meddwl mai darllen llyfr wnes i.

"Mi fedra'i ddyfalu beth ydi hwnnw," meddai Snowt.

'Rhywbeth na fedra i ddim gwneud mynydd mawr ohono, gobeithio,' meddai Rhian yn hapus, wrth dywallt gweddill y siampên i'r gwydrau.

Fedrwn i ddim dweud ei bod hi'n gryfach na'r Eglwys, fedra i ddim siarad a dweud y gwir.

'Ac os na fedra i eich perswadio, mi fydd f'ewyrth ...

'Mae yna reswm da am y newidiadau,' meddai un o swyddogion y llywodraeth, 'ond fedra i, na neb arall, feddwl beth yw e.'

paid a 'nghyhuddo i fel hyn, Marc, rwyt ti'n gwneud i mi deimlo 'mod i'n ceisio ei phardduo hi - ond fedra i ddim dioddef dy weld di mor anhapus pan nad oedd bai arnat ti.

'Na, fedra i ddim cael y bachyn yn rhydd, treia di,' meddai wrth roi'r pysgodyn i Bleddyn.

'Fedra i ddim fforddio eistedd yn ôl â 'nhraed i fyny' Ac yr ydach chi'n dweud y medra i?

Babi o beiriant na fedra hi ddim mynd o gwbwl heb i chi afael ynddi hi, ac os gollyngech chi hi ar ôl iddi gychwyn, syrthio ar ei hochor fel brechdan fyddai 'i hanes hi bob tro.

Fedra i ddim coelio.

`Mae yna reswm da dros y newidiadau,' meddai un o swyddogion y llywodraeth, `ond fedra' i, na neb arall, feddwl beth yw e.'

"Ond fedra i ddim cwffio," meddwn innau.

Fedra i moi ddioddef e." Roedd hi'n gwybod yn iawn ar beth y cyfeiriai ond dewisodd ymddangos yn ddiniwed, "Balchder?" meddai.

'Fedra' i ddim fforddio'r trên yma 'fory eto.

Ella fod gan Mam biti drosto fo ond fedra i yn fy myw gymryd ato fo.

Sôn am amherthnasol, fedra'i ddim meddwl am well esiampl'.

Yr hyn na fedra i 'i wneud ydi mynd o amgylch y lle hefo Dei Bach Gamfa.

Fedra i eich helpu chi?

"Beth fedra i neud?" medda hi.

Fedra i ddim cymryd fy llygaid oddi ar Asha, merch naw oed sy'n dioddef o'r hyn a elwir kwashiorkor.

'Rwbath liciwch chi ond nionod - fedra' i ddim hyd yn oed sbelio nionyn'.

Mae'n ddrwg gen i na fedra i gynnig y moethus-rwydd sy'n siwr o fod yn beth hollol naturiol i chi yn eich gwaith bob dydd.' Sgubodd bentwr o bapurau oddi ar gadair anghyfforddus yr olwg, gan ddal ei gwynt rhag iddo ddarganfod nad oedd y coesau'n wastad hyd yn oed wedyn.

* "Fedra i ddim dweud os cafodd rhywun ei anafu yn y ddamwain oherwydd cludwyd pawb i ffwrdd mewn ambiwlans..."

Ond 'fedra i ddim.

'Fedra i weld dim sy'n codi unrhyw fath o archwaeth arna i.' 'Roedd ei ystyr yn hollol glir.

Fedra hi ddim cofio.

Wel, fedra i ddim beth bynnag...

Fedra i ddim siarad yn bendant oherwydd fy mod i'n Gymro sydd wedi dysgu'r iaith.

Fedra i ddim bod yn sicr, ond fe ddywedodd ei fod am fynd i ddawnsio ac y byddai'n hwyr arno'n cyrraedd.' Mi gawn weld,' a heb rybudd taranodd eilwaith.

Ond a bod yn hollol onest, fedra i ddim dod o hyd i eirie i ddisgrifio rheiny'n iawn.

Fedra i wneud dim byd ond gwenu.

Fedra i ddim llai na chredu fod profiad aelodau Sinn Féin o weld mudiad di-draisyn ennill hawliau ieithyddol a chydraddoldeb diwylliannol i siaradwyr wedi mynd peth o'r ffordd i ddangos iddynt nad oes raid wrth drais i ennill bob amser.

A fedra' i ddim newid ei feddwl o gwbl.

Fedra i ddim gweld unrhyw ffordd, beth bynnag, dim ond llwybrau troed.

'Amseru gwych iawn - mi fedra i gael y plant i orffen y gwaith i mi.

Mi fedra i ddeall y peth yn iawn.

''Dwi'n barnu'n bod ni ond na fedra' i ddim a bod yn siwr.

Wyddost ti, fedra i ddim hyd yn oed gâl y plesar o ddeud straeon am fy mhlentyndod wrth fy wyrion a'm hwyresau þ fasan nhw ddim yn medru amgyffrad..." "Wyt ti wedi rhoi cynnig arni?" "I ba bwrpas?

Fedra' i ddim meddwl pam .