Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

feic

feic

'Naddo, wyddoch chi,' meddai'r siopwr Gemp oedd yn digwydd gwthio'i feic ar draws y stryd tuag atyn nhw ar y pryd.

Pwysai Gary Jones a'i feic yn erbyn y clawdd.

Mi aeth Twm Dafis yn ol i'r ty i nol ei feic.

Un noson pan oedd ef yn teithio ar ei feic yng ngorllewin yr ynys, a hithau wedi mynd braidd yn hwyr, fe alwodd mewn siop yn rhyw bentre bach, i brynu lamp beic.

Mi ddechreuodd y trafferthion wedi i'w rieni ei adael allan ar ei feic.

Roedd cyfleusterau teithio yn hollol wahanol i'r hyn a welir heddiw a'r rhan fwyaf ohonom yn teithio naill ai ar droed neu ar feic.

Gwyliodd Tudur yn cychwyn ymaith ar ei feic.

Erbyn iddynt ddod allan, roedd Gary a'i feic ar ganol y ffordd.

Ac am ei bod hi'n ynys ym môr y gorllewin, yr oedd Iwerddon wedi cadw mwy o'i nodweddion cenedlaethol, ac fe allai Waldo ymdeimlo, ac ymglywed, â'i hen hanes a'i chwedloniaeth gyfoethog, wrth deithio drwyddi ar gefn ei feic.

'Fyddi di'n iawn, Siân?' gofynnodd ei frawd cyn neidio ar ei feic.

Ychydig flynyddoedd yn ôl, aeth Hywel Gwynfryn o gwmpas Cymru ar ei feic, ar daith Radio Cymru.

Ac mi aeth dyn y fan _'r hen gadair, yr hen gwpan, yr hen wely, a'r hen feic i ffwrdd yn y fan.

Bwm, bwm o'r tu ôl - Twm Taldrws a'i glocsia yn mynd i'r tŷ ar ôl rhoi ei feic i gadw yn y cefn.

I ffwrdd â Tudur ar ei feic a dechreuodd Siân deimlo'n unig.

Mi fues yn crwydro o gwmpas am hir, ond heb weld dim, ac erbyn imi fynd yn ol i'r lle y gadawodd Twm Dafis ei feic, doedd dim hanes ohono.

Dychwelodd y canwr opera rhyngwladol enwog, Bryn Terfel, i'w wreiddiau i roi anrheg Nadolig i'r gwylwyr yn Canrif o Gân lle canodd rai o ganeuon ei ieuenctid, gan gynnwys cerdd dant a fersiwn o Hen Feic Penny Farthing Fy Nhaid.

Yr oedd meddai fo wedi mynd ar ei feic i Dremadog, wedi cael lifft neu ddwy i'r Bala a thrên wedyn.

Unwaith neu ddwy aeth at ei feic a'i godi.

Ac mi aeth dyn y fan â'r hen gadair, yr hen gwpan, yr hen wely, a'r hen feic i ffwrdd yn y fan.