Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

feirniadu

feirniadu

Yn yr un cyfnod, aeth Morris Williams, perchen Gwasg Gee ers rhyw flwyddyn ar y pryd, yn aelod o gyngor Bwrdeistref Dinbych; a gallodd roi gwybod am ei lwyddiant i'r Tri yn eu carchar, drwy lunio stori fer am lwyddiant y Blaid Ddirwestol mewn etholiad yn Nhretomos (Tomos Gee, wrth gwrs) a'i hanfon i'r Eisteddfod Genedlaethol i'w beirniadu gan DJ Williams, yntau wedi cael caniatâd yr awdurdodau i feirniadu o'r carchar.

Gyda grwpiau fel Manic Street Preachers a Stereophonics yn derbyn canmoliaeth o bob twll a chornel - ac nid ym Mhrydain yn unig - mae'r rhai hynny a oedd yn fwy na pharod i feirniadu bellach wedi gwirioni ar yr hyn sydd gennym i'w gynnig.

) Yr oedd yn naturiol i fudiad mor llwyddiannus gael ei feirniadu'n llym iawn yn Sgotland ac oddi allan.

Ym mis Awst o'r un flwyddyn bu Esgob Rhydychen yn rhoi siars i'w glerigwyr, a chyfeiriodd at y Traethodau i'r Amseroedd, gan feirniadu rhai o'r gosodiadau ynddynt.

Beirniadu'n llym heb arlliw cydymdeimlad yw ei swydd, tra geill trasiedi neu 'gomedi', fel y'i diffinnir gan Dante neu Balzac, gynnwys bywyd yn ei amrywiaeth dihysbydd, ei feirniadu yr un mor llym ac eto anwesu dyn yn ei drueni.

Un o'r beirniaid gafodd ei feirniadu am fod yn llym ei lach ar berfformiad Cymru yn erbyn Norwy oedd cyn-golwr Cymru, Dai Davies.

Yn y cyfamser annheg yw iddynt feirniadu etifeddion y traddodiad gwledig sy'n gwneud eu dyletswydd [trwy ganu o fewn eu profiad a'u traddodiad am beidio â gwneuthur dyletswydd pobl eraill hefyd.

Nid dyma'r lle i feirniadu eu syniadau; digon efallai yw dywedyd nad hawdd gan Gymry a anwyd yn y ganrif ddiwethaf lyncu holl syniadau'r adwaith Ffrengig am genedlaetholdeb a chrefydd.

"Fe gafodd fy nhad ei feirniadu a'i ddilorni am ei fod wedi tynnu' r glowr i lawr oddi ar ei bedestal.

Cafodd y rhwydwaith ei feirniadu oherwydd iddyn nhw golli 1.3m o wylwyr ar ôl symud i 11 o'r gloch.

Ac yntau'n Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, âi ar ei hald nid yn unig i'w chynghorau a'i haml bwyllgorau hi ond hefyd i feirniadu neu lywyddu yn Eisteddfodau Talwrn a Dyffryn Ogwen a Mynytho a Môn.

gofyn pobl y ffordd hyn bob dechrau haf hefyd, 'ydych chwi wedi dechrau tynnu tatws', yn union fel y gofynant, 'welsoch chwi wennol' neu 'glywsoch chwi'r gôg>' Sylwaf wrth feirniadu mewn sioeau cynnyrch garddio fod llai na chynt yn cystadlu yn y dosbarth i gasgliad o lysiau a chryn gam ddealltwriaeth hefyd am yr hyn ddisgwylir.

Y maent wedi eu cylchynu ag anawsterau cymhleth ac yn gorfod dioddef ar y mwyaf o feirniadu disylwedd.

Datblygodd y ddameg hon eto gan ragweld rhywrai yn ei feirniadu, a 'thaflu'r ffefryn i'r pydew am iddo fentro rhoi côt gostus yn ôl iddo, eithr, 'pwy a ŵyr, fe all y "Joseff" hwn rywbryd dalu'n ôl ar ei ganfed pan fo dlawd arnom'.

Oherwydd diffyg cyd- drefnu cenedlaethol effeithiol, cafwyd peth ymrannu, ond yn y diwedd bu ffyddlondeb y Beirdd i weledigaeth Iolo Morganwg, eu teyrngarwch i'r traddodiad barddol, y boddhad a gaent o gael cydnabyddiaeth gwlad am eu campau barddol trwy gael eu hurddo ac, yn bennaf oll, yr ymdeimlad fod gan y gymdeithas farddol 'hynafol' hon rywbeth mwy nag y medrai cyfundrefn a chyfansoddiad ei gynnig, sef yr hyn a elwid gan Orseddogion y ganrif ddiwethaf yn 'awdurdod', yn ddigon o atgyfnerthiad iddi oroesi, er gwaethaf yr holl feirniadu.

Nid oes dim byd tristach na'n bod ni'n mynd i ddirmygu efengylu ac i feirniadu'n sinicaidd bob ymgais i wneud hynny.

Gwelwyd ugain o gystadleuwyr ar y maes, ond yn anffodus trodd yr hin yn stormus a drycinog - a throdd y beirniaid i'r dafarn leol, gyda'r canlyniad nad oeddynt mewn unrhyw gyflwr i feirniadu'r gystadleuaeth - a rhaid ydoedd gohirio'r dyfarnu hyd at y Llun dilynol.

Y newyddiadurwr Steve Woods yn gorfod dianc o Dde Affrica wedi iddo feirniadu'r Llywodraeth ar ôl marwolaeth Steve Biko.

Pan ofynnwyd i Menem unwaith beth oedd ei ofn mwyaf, atebodd: 'Duw - a Zulema.' Cafodd hoffter y ddau o fywyd bras ei feirniadu'n llym droeon.

Mae lle i feirniadu ar eiriad y datganiad yna, wrth gwrs; ond mae'r safbwynt y mae'n ceisio i fynegi yn hollol iach - a sosialaidd.

Rwyn cael fy nhalu i feirniadu a fe wnes i feirniadu perfformiad yr hanner cynta.

Bid a fo am hynny, gan fod Saesneg yn ei is-ymwybod, megis, y mae gan Eingl-Gymro reddf sy'n ei alluogi i'w feirniadu ei hun wrth sgrifennu yn yr iaith honno.