Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

feirniaid

feirniaid

Tybed nad yw'r Dr Roberts wedi cymryd ei pherswadio gan fân feirniaid mai'r 'feliau' hyn ydyw coron ei harddull a bod yn rhaid iddi bupro'i holl waith â hwy?

Ac mae ei thuedd i gyfeirio wrth fynd heibio at fyrdd o feirniaid llenyddol ac ysgolheigion eraill yn ymylu ar fod, ar adegau, yn hunan barodi o'i harddull ei hun.

Diau ei fod hefyd yn un o feirniaid craffaf ei gyfnod.

Er fod y Llythyr Ynghylch Catholigiaeth yn ymwneud yn bennaf â daliadau crefyddol a diwinyddol yr awdur a'i feirniaid, neu hwyrach oherwydd hynny, ceir ynddo hanfodion Ewropeaeth Saunders Lewis.

Ac fe ddaliwn i bod gennym ni bellach yn y Gymru hoff yn ymgynnull beth hylltod yn fwy o feirniaid nag o berfformwyr.

Bu'n hawdd yn wastad i feirniaid gysylltu cenedlaetholdeb Cymreig ag unrhyw fath o genedlaetholdeb a all ddigwydd bod yn niweidiol: yn nes ymlaen, disodlwyd arf cenedlaetholdeb Gwyddelig gan arf Natsiaeth.

Yn Cardiff Singer Masterclass: An American in Cardiff rhoddwyd cyngor gwerthfawr i bump o'r darpar sêr opera gan Joan Sutherland, Carlo Bergonzi, a Sherril Milnes, tri o gantorion goraur byd a oedd hefyd yn feirniaid yn y gystadleuaeth.

Y mae'n beio'n rhannol feirniaid a chynhalwyr eisteddfodau'r gorffennol na ddigwyddodd hynny.

Mae'r wobr gan Gyngor y Celfyddydau yn mynd i'r llyfr a ddewisir gan banel o feirniaid yn llyfr mwyaf nodedig yn y Gymraeg ac yn y Saesneg a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn 2000.

Os yw'n wir fod nofelau Daniel Owen yn tra rhagori ar waith y mwyafrif mewn amrywiol ffyrdd, fel y dangosodd lliaws o feirniaid erbyn hyn, mae'n rhesymol tybio na fyddai'r nofelydd o'r Wyddgrug yn fodlon ar atgynhyrchu na dulliau llenyddol nac agweddau cyfarwydd ei gyfnod.

Yn sicr, nid oes angen, hyd yn nod i feirdd, anwybyddu ffeithiau cydnabyddedig gan feirniaid ieithyddol.

Bu'n ddiwrnod ofnadwy o brysur, rwy'n siwr i mi gyfweld tua 30 o bobol - yn feirniaid, bardd y Gadair a chystadleuwyr.

Yn rhyfedd iawn hefyd, cafodd un o feirniaid y wasg gerddorol yn Lloegr ei atgoffa o Aerosmith yn ogystal.

Gwelodd yn glir fod popeth a gynhyrchai'r Eisteddfod yn niwedd y ganrif ymhell iawn oddi wrth safonau clasurol Cymru mewn iaith a chelfyddyd, ac ymhell hefyd oddi wrth safonau prif feirniaid y byd.

Dyfernir y gwobrau am Lwyddiant Unigol mewn Animeiddio gan banel o feirniaid o blith Animeiddwyr o fri o fewn yr Academi Celfyddydau a Gwyddorau Teledu (sy'n cynnal y seremoni Primetime Emmys bob blwyddyn).