Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

feithrin

feithrin

Nid tamaid i aros pryd mohono, mae addysg feithrin o safon yn cyfoethogi datblygiad y plentyn cyfan ac fe all gyfrannu at godi safon ei berfformiad academaidd cyffredinol.

Diben yr ymchwil oedd cynorthwyo'r Bwrdd i ddatblygu strategaeth farchnata ar gyfer yr iaith Gymraeg a allai gynnwys strategaethau cyffredinol i feithrin agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith, ac i annog pobl i'w defnyddio.

"Mae'r pwyslais pennaf ar feithrin llafaredd y plant.

Awgryma'r hanesion amdano ei fod yn gartrefol ddigon ymhlith dynion yng ngweithdy'r teiliwr neu yn y dafarn, ond ei fod yn cadw merched hyd braich trwy feithrin fa‡ade o gwrteisi cellweirus neu trwy eu hanwybyddu.

Cyn mynd ati i chwilio am atebion i'r ddau gwestiwn, efallai y byddai'n well i ni edrych ar y cyswllt, y cyd-destun, y cefndir, y math o lefydd lle mae plant o dair i bump oed yn derbyn eu haddysg feithrin.

* feithrin, cynnal a chadarnhau gwell perthynas gymdeithasol gydag unigolion o fewn y grwpiau yn ystod y cyfnodau plentyn-ganolog gan eu bod: -yn cael cyfle i'w cynorthwyo'n unigol pan fo angen y cymorth ar y disgybl, -yn dod i'w hadnabod mewn sefyllfa lai ffurfiol ac yn gallu arfer gwahanol fath o ddisgyblaeth ar wahanol gyfnodau yn ystod gwers;

Nid oedd yr amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd oedd ohoni yng Ngogledd Cymru yn gyfryw i feithrin na chynnal arlunydd o ddifri.

Tanlinellwyd swyddogaeth BBC Radio Cymru o feithrin talent mewn cynhadledd ym mis Tachwedd a drefnwyd gan BBC Cymru, a ddaeth â nifer o bersonoliaethau allweddol at ei gilydd i ystyried ffyrdd o ddatblygu'r sîn bop Gymraeg.

Ddydd Llun, mi fydd fy mab i'n dair oed, ac yn dechrau yn yr Ysgol Feithrin.

Ar ei ysgwyddau ef fynychaf y rhoddid y cyfrifoldeb i feithrin parch ac ymarweddiad gweddus ymhlith ei blant.

Cynhelir Ysgol Feithrin lewyrchus bob dydd yn neuadd y pentref a Chylch mam a'i Phlentyn yn festri Bethlehem, capel yr Annibynwyr Cymraeg.

Un canlyniad i hyn yw nad yw llawer ohonynt yn cael digon o brofiad ac o hyfforddiant i feithrin y medrusrwydd angenrheidiol, yn enwedig yn y mathau o driniaeth sydd yn gymhleth ac yn arbenigol.

Yn sicr, mae'n brofiad anhygoel ac yn gyfle i feithrin talent newydd.

Yn wir, rhaid adfer yr agwedd ymofyngar yn gyson os ydym am feithrin gonestrwydd academaidd.

Ond fel yn achos addysg feithrin a chyfundrefn iechyd, nid yw'r bobl gyffredin - a merched yn arbennig - yn barod i groesawu Moslemiaeth Iran yn sicr.

Cyfrifid ach dda yn gofnod o fawredd hynafiaid ac yn fodd i feithrin rhinweddau'r goreuon o'r rheini.

Awgrymodd na ellid gosod dim ymddiriedaeth ynddynt fel pobl, ac nad oedd fawr o obaith iddynt feithrin gogwyddiadau gwareiddiedig.

Cyfle i feithrin sgiliau gwrando a darllen i ddisgyblion Cymraeg Ail Iaith trwy ddramodigau a chaneuon.

Un cam ymlaen a dau gam yn ôl yw hi'n gyson i addysg feithrin.

Y mae'r Ysgol Feithrin agosaf yn Nhrelewis yr ochr draw i Lyn Ogwr (Ogmore Vale) o Nant-y-moel a mynychir hi gan ddyrnaid bach o blant oddi yno.

Rhaid datblygu partneriaeth rhwng ysgolion babanod a iau a'r ysgol feithrin gan bod y broses datblygol wedi hen gychwyn yn y plentyn tair a phedair oed.

hybu defnyddio'r Gymraeg yn y sector addysg feithrin Saesneg.

Mae darpariaeth feithrin cyfrwng Cymraeg effeithiol a hygyrch yn hanfodol ar gyfer cynnig sylfaen dda o Gymraeg i blant sy'n siarad Cymraeg ac i blant sy'n dysgu siarad Cymraeg.

Gwelodd rhai y 'rhywbeth' hwnnw yn nhermau athroniaeth wleidyddol, ond roedd eraill yn meddwl amdano yn nhermau'r pwysigrwydd i feithrin y meddwl gwyddonol tuag at bopeth - yr ymagwedd a grisialwyd yn y geiriau, 'oni chaf weled .

Dysgai i'r bonheddwr bopeth y dylai ei feithrin - rheolaeth ar ei ymddygiad, a'r rheidrwydd i weithredu a datblygu'r dull cywir o wneud hynny.

Gallai'r Uned feithrin cysylltiadau ag elusennau'r amgylchedd, megis yr Ymddiriedolaeth Goedlannau, drwy ofyn yn rheolaidd iddynt nodi safleoedd sy'n werthfawr o ran bywyd gwyllt ond a allai ymelwa ar waith a fyddai'n ychwanegu at eu gwerth i'r amgylchedd neu'u diogelu er mwynhad y cyhoedd.

Syniad arall sydd gan y cwmni ydy sefydlu elusen o'r enw Gwynfryn Cymunedol fydd yn canolbwyntio ar feithrin ac annog talentau newydd yng ngwreiddiau'r Sîn Roc Gymraeg.

'Roedd y Stiwt yn ganolfan lle y gallai ffrindiau daro i mewn am sgwrs, gem o ddraffts neu wyddbwyll; 'roedd yn rhoi cyfle i greu diddordebau ac yn lle i feithrin talent ar fwrdd draffts, gwyddbwyll a biliards.

Bun synod i lawer ohonom na chymerodd hyfforddwr o allu Graham Henry y maswr bach hwn dan ei adain o'r cychwyn cyntaf ai feithrin yn y fath fodd y byddai nid yn unig yn ennill gemau i Gymru ond yn goleuo gemau a'i fflachiadau o athrylith naturiol.

I ddynodi'r anghenion ym meysydd addysg feithrin, dysgu'r Gymraeg i oedolion ac addysg bellach, defnyddiwyd gweithgorau arbenigol a sefydlwyd eisoes.

Yng nghanol ymosodiad ar y lleiafrifoedd ethnig yn Hwngari, enwodd Kossuth y Cymry mewn rhestr o genhedloedd bach Gorllewin Ewrop na herient iaith genedlaethol y wlad (sef y Saesneg yn ein hachos ni) ond a fodlonai ar feithrin gartref eu traddodiadau diniwed.

Ond, dim ond nawr ac yn y man mae addysg feithrin yn cael sylw penodol.

I ddiffinio bwriadau, targedau ac amcanion I drefnu profiadau dysgu mewn gwyddoniaeth sydd yn ystyrlon a pherthnasol ar gyfer disgyblion a phob math o allu ac o bob oed yn amrediad yr ysgol uwchradd I ddethol, defnyddio a rheoli'n effeithiol y cwmpas llawn o ddefnyddiau ac adnoddau sydd ar gael I drefnu a chadw trefn ar wersi theori a gwersi ymarferol fel ei gilydd I fod yn sensitif i anghenion disgyblion ag anawsterau dysgu, disgyblion a gallu arbennig a grwpiau ethnig lleiafrifol I feithrin y sgiliau rhyngbersonol priodol ar gyfer cyfathrebu â disgyblion, rhieni a phobl broffesiynol Sgiliau Labordy Paratoi defnyddiau labordy ar gyfer dysgu Arddangos arbrofion a thechnegau ymarferol i'r disgyblion Rheoli gwahanol fathau o wersi ymarferol Gwybodaeth Wyddonol Y mae gan y myfyrwyr i gyd radd yn y gwyddorau ond bwriad arbennig y cwrs yw estyn ac ehangu eich profiad yn y canlynol:

Bellach, ysywaeth Neuadd William Aston yn Wrecsam sy'n elwa ar draddodiad a gafodd ei feithrin ar lwyfannau'r Rhos.

Mae hybu darllen yn rhan hanfodol o unrhyw strategaeth i hybu'r iaith ac nid oes unrhyw amheuaeth o werth darllen fel ffordd o feithrin hyder mewn pobl i ddefnyddio'r iaith ar bapur yn ogystal ag ar lafar.

Agwedd holl-bwysig ar waith yr athrawes feithrin y'w deall sut mae plant ifanc yn dysgu yn effeithiol.

Ni fu erioed yn ddigon anfaterol chwaith i droi o fyd ei ddefaid, a gwastraffu'i amser prin ar feithrin perthynas a neb oll.

Mae'n rhaid, felly, feithrin agweddau cadarnhaol ymysg cyrff a phroffesiynau ledled Cymru a thu hwnt o ran hybu defnydd cynyddol o'r iaith.

Bu Llew yn ei chael yn anodd iawn i feithrin perthynas ar ôl hynny ond yn y diwedd llwyddodd Meira Ellis i dorri drwy ei furiau amddiffynnol.

Byddai hanner y sampl yn anfon plentyn i ysgol feithrin Gymraeg.

Ar wahân i'r addysg Feiblaidd a geid ynddi, bu'n gyfrwng hefyd i feithrin hunanfynegiant.

Bu Ffeil, y rhaglen newyddion i bobl ifanc, o gymorth wrth feithrin dealltwriaeth ddyfnach o oblygiadau datganoli.

Ond os ydym yn anelu tuag at Gymru sy'n gynyddol ddwyieithog dylid ceisio meithrin agweddau cadarnhaol tuag at ddwyieithrwydd drwy sicrhau fod pob plentyn sy'n derbyn addysg feithrin yn cael blas o'r Gymraeg fel rhan o brofiad addysgol cynnar.

Ac ar ben y cwbl, gwnaethant gyfraniad at feithrin yng Nghymru draddodiad gloyw o ddarllen ac adrodd cyhoeddus a oedd yn ddeallus, yn gywir a phwysleisiol.

Gellir rhannu'r nodweddion gorau rhwng y rhai cyffredinol a berthyn i'r uned neu'r ysgol feithrin a'r rhai mwy penodol yn y dosbarth.

Yn yr adroddiad Edrych yn ôl ceir adran arbennig ar addysg feithrin.

Y gwir yw fod dallineb tuag at ddiwylliannau lleiafrif yn cael ei feithrin yn gyson tros y canrifoedd yng nghyfundrefn addysg Lloegr.

Y mae'r Undeb Ewropeaidd yn ei dro yn weithgar ar sawl ffrynt i feithrin "rhwydweithiau% rhwng gwahanol rannau o Ewrop yn enwedig rhwng y parthau tlawd a'r cyfoethog ac y mae nifer o raglenni ar gael i feithrin hynny.

Trefniadaeth Dosbarthiadau Cymraeg Pan fydd rhywun yn meddwl am addysg feithrin Gymraeg, mae rhywun yn meddwl yn syth am y Mudiad Ysgolion Meithrin.

Pan fuom yn ffilmio mewn ysgol feithrin yn Alamar, teimlais fod y gwario a'r adnoddau yn ormodol, os nad yn wastrafflyd, mewn gwlad sy'n perthyn yn swyddogol i'r Trydydd Byd.

Mater yw hi o'r Cynulliad yn cynnig esiampl ac arweiniad positif gan felly feithrin hyder cyffredinol yng ngwerth a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg i bawb yng Nghymru.

Gwendidau: Yn y cyfnod cyn Quangos, yr oedd Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am yr ystod cyfan o ddarpariaeth addysg ar gyfer y gymuned o Addysg Feithrin hyd at Gynradd, Uwchradd ac Addysg Bellach.

Nid oes, erbyn hyn, amheuaeth bod gwerth barhaol addysg feithrin o safon i'r plant sy'n ddigon ffodus i'w dderbyn.