Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

felin

felin

Yr oedd honno tua chwe throedfedd o hyd, a phwysai tua dau gan pwys, a phan ddefnyddid yr allwedd fawr byddai wyth o wŷr y felin yn ei thrafod gyda'i gilydd.

TAI LLAWN Ar y briffordd allan o'r dre heibio'r Castell y mae fferm Felin Ysguboriau ac yr oedd yno lond ty - tri ar ddeg o bobl.

Ar ôl cyfnod o ddala, aeth Phil i weithio ffwrnais pan oedd tuag un ar bymtheg mlwydd oed, a dyna'r gwaith caletaf yn y felin bryd hynny.

CLWB Y FELIN: Dathlwyd Gŵyl Ddewi eleni yn y Llofft Hwyliau a threuliwyd noson hynod o ddifyr gan dros hanner cant o bobl.

Meddyliwch fod pentre fel Felin Fach, pentre gwledig sy'n llai na Tai Nant, yn rhedeg theatr lewyrchus.

Rydw i'n eu cofio nhw i gyd: Hugh Cae Haidd, Wil Pant, Shem Pandy, Wil Jones Happy Valley, Ifan Morgan, Ellis Nant, Wil Thomas Bryn Hyfryd, Rolant Gruffydd Felin Hen a William Ifans Glasgoed.

Ar adegau felly, yr oedd y gwres mor llethol yn y felin fel bod pum munud o flaen y ffwrnais yn ddigon i lorio'r cryfaf.

Ryw hannar milltir cwta sy' rhwng fa'ma a'r Felin 'cw." Sibrydodd, "Dydan ni'n dau yn gymdogion rŵan." A chyda'r addewid rasol yna, a chan gydio yn dynn yng nghlust Hywal y mab, camodd Laura Elin y Felin, yn llythrennol o'r Nef i'r niwl.

Mewn dathliad yn Theatr Felin-fach, ger Aberaeron, dyfarnwyd iddo Dlws Mary Vaughan Jones.

Er mwyn cyfleu hyn ni wna ragor nag awgrymu ffurf y môr, y felin, y tir gwastad gan adael i'r awyr lywodraethu'r darlun cyfan.

Canolfan Felin Fach ym Mhwllheli - partneriaeth gyda MIND, Cais a'r Cyngor Gwlad - a agorwyd gan ein Is-Lywydd, Mr Dafydd Wigley, AS

Gafaelai'r dwblwr mewn un pen o'r llafn a'i ddyblu ar lawr y felin, ac yna ei godi at fwrdd y shêr, ei gymhwyso, ei roi o dan y gwasgwr, ei drin o dan y gyllell, ac yna ei daflu ar draws y felin at y gweithiwr ffwrnais.

Ne...ne mi eith y gwarthaig i'r mart 'i hunan." Er ei bod hi'n bnawn myglyd 'roedd drws Nefoedd y Niwl yn agored led y pen a chorff byrgrwn, wynebgoch Laura Elin o'r Felin yn hanner llenwi'r drws hwnnw.

Ymysg hogia Felin yn y tim mae Islwyn Owen, Derek Roberts a Tony Ellis.

Fe gofiwch i David Phillips, Waun-lwyd, ddwyn offer marchogaeth a dillad tra'n gweithio ym mhlas Cilwendeg, a threuliodd flwyddyn o lafur caled yn gweithio'r felin droed yng ngharchar Hwlffordd am ei drosedd.

Yr oedd angen gweithwyr gwydn a chryfion i gyflawni'r gwaith yn y felin fawr.

Yn y felin fawr y gweithid y platiau mwyaf a thrymaf yn y gwaith tun.

Dychmygaf rhyw wyddonydd heb ddim gwell i'w wneud yn cyhoeddi nad yw Sion Blewyn Coch yn mwynhau ieir a ffowls a hwyaid Llyn y Felin ar ei fwrdd cinio.

Beth bynnag oedd y broses ar lawr y felin, gan y dalwr yr oedd y gair olaf, oblegid ar y part olaf, wedi i'r rowlwr dynnu'r wythau i'r hyd gofynnol, gafaelai'r dalwr yn y llafn a'i daro ar lawr y cefn i ennill momentwm, a'i roi'n daclus mewn pentwr o'r neilltu.

Gallai platiau'r Ffôr fod ddwy neu dair gwaith cyn drymed â phlatiau'r melinau eraill, a'r dewraf yn unig a fentrai weithio yn y felin fawr.

Mae'n debygol mai Robert Jones, Tan y Bwlch; Hugh Evans, Tŷ'n y Gilfach; William Hughes, Tŷ'n Pant a John Hughes, Y Felin; a weithredai fel blaenoriaid ar y pryd, ac fe etholwyd David Pritchard, Hafodymaidd, yn ychwanegol atynt yn yr un flwyddyn ag y codwyd y Capel.

Er bod y dalwr yn osgoi gwres mwyaf y felin gyda'r gwaith hwn, yr oedd serch hynny'n waith caled iawn i grotyn pedair ar ddeg mlwydd oed.

Rhoddai'r dwblwr holl nerth ei freichiau cryfion i blygu'r blaten boeth, a chyn i ddeupen y blaten gyfarfod â'i gilydd ar lawr y felin, rhodd ai'r dwblwr holl bwysau'i glocsen ar y blaten i ddyfod â'r dybliad i fwcwl.

Lluchid y platiau gwynias rhwng y gweithiwr ffwrnais, y rowlwr a'r dwblwr, ac ni allai neb aros ar ganol y felin heb gael ei daro tra gweithredid y broses hon.

Ar ôl cyfnod byr o fwndelo wrth y shêr, crud y felin fel y gelwid y gwaith hwnnw, aeth Phil i ddala yn y felin.

Gafaelai mewn un pen o'r senglen gyda'r efail a cheisio'i throi ar lawr y felin.

Gallwch gofrestru eich tîm drwy ein ffonio ar 74983, neu drwy ein e-bostio i'r cyfeiriad gang@bbc.co.uk - a chofiwch y cynta i'r felin gaiff falu.

'Roedd o'n beth digon amlwg na fuasai neb yn disgwyl i'r Beibil fod yn siarad, er y byddai y bobol oedd yn hwnnw yn gorfod siarad ar bnawn Sul pan fyddai yna holi'r plant yn yr ysgol "Be ddeudodd Samiwel bach wrth Dduw 'y mhlant i?" 'Roedd pobol mewn oed yn sôn bod yna bethau digon difyr fel cerdded drwy'r mwd a chwffio efo llewod yn Nhaith y Pererin, ond 'doedd dim dichon cael hyd iddyn nhw fel y medrech chi gael hyd i Dôn y Botel neu Spargo'r Felin yn Nedw.

Yr oedd Daniel ryw ddwy genhedlaeth yn hŷn na mi, a phan euthum yn grotyn i'r gwaith tun yr oedd ef yn rowlo yn y felin fawr.

Cyfyng yw'r amrywiaeth tonyddol, ond mae yma gyfoeth o sensitifrwydd a theimlad.Yn rhannau uchaf yr awyr mae'r haenau paent yn dewach a'r llwydlas ar letraws yn awgrymu cymylau'n symud ac yn cyd-bwyso â llinellau esgyll y felin.

Tra gallai melinau eraill drafod tri dwsin o blatiau mewn twymad, gymaint ag a allai'r felin fawr eu trafod oedd rhyw ddau ddwsin o blatiau trwm ar y tro.

Pan ddeuthum i adnabod Phil gyntaf, yr oedd yn ei breim ac yn dyblu yn y Ffôr, y felin fawr.

Penodwyd pwyllgor i chwilio am gerrig a chafwyd rhai pwrpasol yn Nant y Felin a Chae yr Hendy ar dir Hafodymaidd a'r cornelau yng Nghraig Iwrchen.

a phoncia' Clegyrog a Choed Felin Nant a chaea' Llanol mor ddychrynllyd o bell i ffwrdd!

Rhennir y llun yn dair rhan: yr awyr o amgylch y felin yn llenwi hanner y canfas, yna'r caeau llafur ar oleddf, a'r creigiau yn y blaendir a lôn yn troelli rhyngddynt.

Gelwid y pentwr hwn yn wats (term morwrol yn golygu gwyliadwriaeth), pedair wats bob dydd ym mhob melin, a'r dalwr oedd yn gyfrifol am eu rhoi'n daclus yng nghefn y felin o fewn cyrraedd y bwndelwr a'r shêrwr.

Ar gyfer y felin ei hun, prin yw'r manylion.

Yna, gyda thafliad nerthol o fon ei fraich chwith, gyrrid y blaten ar draws y felin at y gweithiwr ffwrnais.

Mae mochyn y Felin A hwnnw heb ddim blew Yn bwyta bonion cabetsh Ni ddaw e' byth yn dew.

'Ro'n i'n gweld Laura Elin o'r Felin a Hywal y mab yn mynd yno bora a baich o bricia dechra tân ar gefna'r ddau." Gwelodd JR yr annibyniaeth y bu'n hiraethu cymaint amdano yn diflannu o dan ei drwyn, a hynny cyn iddo ef i gyrraedd.

Rydym yn chwilio am 16 o dimau ar cyntaf i'r felin gaiff falu.

"Os ydych chi'n gorfod teithio naw milltir a ffeindio lle i barcio - rydych chi'n dewis rhwng hynny a gwneud rhywbeth arall." Yn ôl llefarydd ar ran Swyddfa'r Eisteddfod, roedd rhybudd wedi cael ei gyhoeddi adeg Eisteddfod Llanelwedd y byddai lle yn Nghwm-nedd yn brin ac mai'r cynta' i'r felin fyddai hi.

Yn anffodus crwydrodd ei lygad i gyfeiriad bwrdd crwn a diflannodd y gwynt i gyd o'i hwyliau - roedd Laura Elin o'r Felin wedi hulio brecwast i dri.

Un prynhawn yn yr haf, pan oedd y peiriannau'n segur, daeth gwyr y felin at ei gilydd y tu allan i fynedfa'r gwaith a chael hoe a sgwrs yn yr heulwen.

'Nid yw'r felin heno'n malu', ac nid oes dân i grasu'r ŷd.

Roberts wedi bod yn doethach i anwybyddu'r cyhuddiadau yn erbyn ei gyd-genhadwr; yr oedd, hyd yn oed bryd hynny, yn siwr o fod yn sylweddoli mai dyn dichellgar oedd Badshah, yn troi pob dwr i'w felin ei hun.

Mae'n anodd dychmygu Bob Tai'r Felin yn canu Alelwia Ha-Haleliwia oedd hi bob amser iddo ef!

Gallai pethau fod yn anodd iawn yn y felin fawr gydag ambell archeb drom, a phan oedd yr hin yn boeth.

Mae'r felin foel yn cydio tir, môr ac awyr trwy linellau lletraws ei hesgyll.

Y lle mwyaf peryglus ar wyneb y ddaear oedd llawr y felin pan eid drwy'r broses o gynhyrchu'n blaten dun.

Llifa tua'r de ar draws wyneb tonnog dwyrain Môn, ond pan gyrhaedda Landegfan mae'n dilyn llwybr llawer mwy serth, ac o ganlyniad, i'r de o Felin Cadnant, mae'r afon yn dilyn llwybr dyfnant sydd ag ymylon serth iawn iddo.

Gwelwn lawer yno mewn ciltiau, a'r cof am Felin-y-Rug yn dod yn ôl o'r flwyddyn gynt.

Yn swyddogol, awr o ddiffyg peirianyddol oedd yr awr honno, ond y peth a erys yn y cof yw bod cwmni o wŷr y felin yn trafod cwestiwn creadigaeth, a Phil yn rhoi arweiniad i'r drafodaeth.

Ymhellach i ffwrdd mae'r dolydd glas a'r caeau yd ger y felin sy'n malu'r grawn yn flawd i'w fwyta.

Rhyddhaodd Alun ei hun o freichiau Nia ac meddai wrthi: "Tyrd, mi awn ni i ofyn i dy dad gei di fenthyg y car i fynd â mi i Berth y Felin." "I beth?" "I ddweud wrth Jenkins y twrne nad ydw i am werthu'r fferm." "Dwyt ti ddim ffit i fynd allan a tithau newydd godi o dy wely," meddai ei fam .

Cawsom oriau bwygilydd o bleser hefyd wrth bysgota llysywod yn afon Soch a brithyll bychain yn afon y Felin a lifai o lyn y gwaith dwr.

Yr oedd gan Rhys Thomas felin lifio hefyd yn cael ei gyrru gan ddŵr afon Aeron.

Yr unig beth negyddol a ddwedwn i am y gyfrol yw fod rhan rhy helaeth ohoni yn yr adran "Amrywiadau", gyda nifer fawr o gerddi wedi eu seilio ar y pennill "Bachgen Bach o Felin y Wig" ond wedi dweud hynny, mae unrhyw un sydd yn gallu gwneud cywydd neu awdl ar y fath bwnc, a chodi gwen ar yr un pryd, yn haeddu canmoliaeth fawr.

Ym 'Melin Adda, Amlwch' mae paent yr awyr wedi ei osod yn ffyrnig â chyllell balet nes bod y cymylau'n edrych fel petaent wedi eu cerfio, eu ffurfiau deinamig yn cau am y felin a'r beudai, yn gymheiriaid i ffurfiau'r tir.