Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fentra

fentra

'Dwi'n saff i ddweud 'dwi'n meddwl, mai o blith y gwþr sydd â'u gwreiddiau yn nhir Llanfechell ar Ynys Môn y mae'r un a gafodd y dylanwad mwyaf ar gwrs y byd llynedd - Mr Tristan Garel-Jones (mi fentra i y daw llythyr gyda throad y post yn cynnig ymgeisydd mwy teilwng - oedd hen nain Boutros Bourtos Ghali yn dod o Fynydd Mechell tybed?).

Mi fentra i ddeud wrthat ti na chaiff 'nacw 'r un gronyn o gysur yn y nefoedd os na fydd yno vacuum-cleaner a dystar at 'i llaw hi.

Dim ond un ateb a wnâi'r tro i gleient a chwiliai am sicrwydd - 'Mi fentra i bopeth sy gen i ar hynny'.

Fuaswn i ddim yn meiddio awgrymu ei fod yn greadur ymffrostgar, ond mi fentra' i ddweud ei fod wrth ei fodd yn clywed ei lais ei hun.