Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ferf

ferf

Dywed y Ferf hithau am yr Enw (neu'r rhagenw).

Mae'r defnydd hwn o wahanol Foddau'r Ferf yn amrywio tôn gyffredinol y Llythur, sy'n gymysg o bendantrwydd y Mynegol ac oferedd y Dibynnol i amwyster y Gorchmynnol sy'n cyfuno'r diffyg amynedd efo'r dyn pengaled pwl ei oleuni a'r parch a'r anwyldeb y mae'n ei haeddu fel unigolyn rhydd a chanddo'r hawl i ddewis.

Nid yw meistrolaeth y plentyn ifanc ar gonfensiynau'r iaith lafar yn tyfu am fod rhywrai yn ei gymuned yn penderfynu rhoi hyfforddiant penodol iddo ar ddefnydd priodol o ansoddeiriau neu ffurfiau amherffaith y ferf.

b Tarddu o'r ferf 'gorchuddio' neu 'sychu ymaith' a wna kpr (a'r ffurfiau yn deillio ohono: kippêr, kophêr, kaphâr etc.) a chyfeiriai at ddefod aberthu er mwyn symud ymaith bechod: 'Offryma bob dydd fustach yn aberth dros bechod, i wneud cymod' (Ex.

A sylwer yn neilltuol ar gryfder y ferf yn llinell olaf y pennill hwn: rhaid 'rhwygo'r gwanwyn pêr' o bridd y ddaear, fel pe bai honno eisiau gorwedd yn ddiffrwyth yn nhrymder a syrthni ei gaeaf.

..' Rheolir y frawddeg nesaf gan ferf sydd yn cyfleu gweithred feddyliol - 'Penderfynodd'; yna daw dwy ferf sy'n adrodd gweithrediadau go iawn ar ei ran ef, sef 'Cyfeiriodd' ac 'adroddodd'.

Mae pwyslais ar y ferf gyflawn - 'Aeth' - ac y mae'r wybodaeth am ei deimladau wedi'i chyflwyno fel petai'n ddibynnol ar y weithred: 'Aeth .

Mae amseriad y ferf yma hefyd, sef y amser perffaith yn golygu rhywbeth sydd wedi yn ganlyniad i weithred a gyflawnwyd yn y gorffennol.

Y mae Modd y Ferf yn llawn awgrym hefyd.

Y ferf 'bod' yw'r lleiafswm o ferf.

Wedyn, ac yn olaf yn y gyfundrefn hon, yr Adferf, sy'n dibynnu naill ai ar Ferf neu ar Ansoddair.

Yn ei araith groeso ar ôl cinio ganol dydd y diwrnod cyntaf, dywedodd y Maer na wyddai'n iawn beth oedd amcanion y mudiad yr oedd yn ei groesawu, ond ei fod yn credu y byddai'r mudiad yn gwneud gwasanaeth mawr i Gymru pe gallai beri i'r byd alw Brythons arnom yn lle Welsh: cawsai ef brofiad chwerw mewn busnes am fod yr un gair Saesneg yn enw ar y Cymry ac yn ferf a oedd yn golygu twyllo.

Ar ben hyn ni ellir peidio â sylwi fod y Ferf bron yn ddieithriad yn weithredol.