Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

feth

feth

"Mae dy resymeg di'n ddi-feth, ond..." "Ond dim byd.

Ni allai ddeall, canys yr oedd popeth a ddymunai naill ai ganddo eisioes neu ara ddyfod iddo o'r pridd di-feth.

Mae'r gymhariaeth neu'r trosiad yn ddi-feth ddiriaethol gyda'r awgrym cyson nad yw'r dyn sy'n gwrthod Duw yn ddim amgen nag anifail.

mae'r cwn, wrth gwrs, yn ddi-feth.

Pan ddisgrifir Duw nid yw'r ansoddair yn cyfleu unrhyw fath o synwyrusrwydd; rhai 'haniaethol' sy'n consurio mawredd ydynt yn ddi-feth.

Am ugain mlynedd olaf ei bywyd yr oeddwn i'n un o'i chyfeillion: âi fy ngwraig a minnau i'w gweld yn aml, bu'n cysgu yn ein tŷ ni, ysgrifennai lythyron atom; yn ddi-feth bob Nadolig anfonai bunt i'n merch ni, ac os byddai Elin yn hwy nag arfer yn ysgrifennu ati i ddiolch iddi am y bunt honno, cyrhaeddai llythyr oddi wrth Kate Roberts i holi a oedd y bunt wedi cyrraedd.

Er ei fychander, mae ef yn gefnwr rhagorol ar wahân i'w gicio - deil y ciciau uchel yn ddi-feth, a rhed yn gyflym a threiddgar pan fydd yn gwrthymosod.

Y fath ystadegau yw'r prawf digamsyniol yn ôl mytholeg y Bwrdd bod oes newydd wedi gwawrio, bod Deddf yr Iaith Gymraeg 1991 yn ddi-fai a di-feth a bod pobl fel Cymdeithas yr Iaith yn 'filitants' drwg a pheryglus sy'n siwr o sbwylio'r sioe i gyd wrth fynnu parhad i ymgyrchu tor-cyfraith a gwrthod ymddiried yn naioni a doethineb y Bwrdd a Llywodraeth haelionus (Dorïaidd) y dydd.

Mae Maes yr Arian yn ddi-feth yn eu cefnogaeth i'r Arwydd a gwerthfawrogwn hynny a'r ymlyniad teyrngar wrth Fro Goronwy.