Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffactorau

ffactorau

Yn ôl yr egwyddor hon, y mae'n ystyrlon i drin nwyddau traul (a hefyd, o ran hynny, nwyddau cyfalaf) fel cyfanred, os oes modd egluro'r galw cyfanredol am y nwyddau hyn heb ystyried na'r ffactorau sy'n pennu'r galw am nwyddau unigol nac ychwaith gymhellion treulwyr fel unigolion.

Ond mae yna ffactorau dyfnach hefyd sy'n deillio, yn eironig ddigon, o gyfnod yr Archentwr enwocaf oll - arwr Menem a sylfaenydd y blaid y daeth yn arweinydd arni - sef Juan Pero/ n.

Y mae'r holl broses o ddewis un iaith ar draul y llall yn ymwneud â chymaint o ffactorau cyflyrol sydd yn greiddiol i'r dewis yn eu plith y mae ymwybyddiaeth, agwedd a hyder.

Fe edrychir yn gyntaf ar nodweddion y prif ffactorau, sef hinsawdd, tirwedd, priddoedd ac amaethyddiaeth, ac yna edrychir yn fanylach ar y berthynas rhyngddynt.

Yn y lle cyntaf nid ydyw'r ffactorau sy'n pennu cyfradd y twf dichonol o angenrheidrwydd yn aros yn ddigyfnewid.

Y mae perygl o hyd y gall ffactorau allanol, na all y tîm cynhyrchu eu rheoli, ddifetha'r ffilm.

Un dechneg o'r fath yw BLUP; gall hwn gymharu ansawdd gan ystyried unrhyw ffactorau eraill sy'n berthnasol, megis lle magwyd yr anifail, ei hanes teuluol, ffactorau megis rhyw neu ddul magu yr anifail.

Gan mwyaf, gellir priodoli'r gostyngiad i nifer o ffactorau sosio-economaidd cymhleth: arwydd fod cryfder yr iaith mewn rhai ardaloedd ynghlwm wrth ddatblygu cynaladwy o fewn y gymuned ac yn ddibynnol arno.

Y ffactorau sy'n pennu agweddau oedolion at y Gymraeg.

Mae hyn yn debyg o dorri calon y rhai sydd heb lawer o amser nac arian, ac mae'n un o'r ffactorau sy'n gwahaniaethu'r agwedd broffesiynol at y pwnc oddi wrth yr agwedd mai hobi archaeolegol ydyw.

O fewn y berthynas yma mae nifer o ffactorau eraill, megis dylanwadau gwleidyddol ac economaidd hefyd yn chwarae rhan bwysig ac yn cymhlethu'r dehongliad ymhellach.

Ffactorau economaidd sy'n bennaf gyfrifol am y newid hwn.

Tasg anodd fodd bynnnag ydyw crynhoi dylanwad hinsawdd, tirwedd a phriddoedd ar amaethyddiaeth yng Nghymru gan fod llawer o wybodaeth ar gael ynglyn a'r ffactorau hyn ac oherwydd fod y berthynas rhyngddynt yn gymhleth.

Blaenoriaethau Ymchwil Y mae nifer o'r ffactorau a nodir uchod yn rhyngberthnasol ac yn gwau i'w gilydd.

Mae'r daflen grynodeb yn cynnwys crynodeb o'r graddau a roddwyd ar gyfer yr holl wersi a welwyd, a sylwadau ar safonau cyrhaeddiad, ansawdd y dysgu, ansawdd yr addysgu a ffactorau cyfrannol, a dylai gynnwys, lle bo hynny'n briodol, farn ar gyfraniad amlwg y pwnc tuag at hyrwyddo'r dimensiwn Cymreig a chyflwyniad themâu trawsgwricwlaidd.

Er gwaethaf y perfformiad da hwn, mae amrywiaeth o ffactorau allanol a all effeithio ar y gyfradd, a bydd yn cymryd cyfnod sylweddol o amser a buddsoddiad i gynnal y cyfraddau cymeradwyaeth sy'n sylweddol uwch na'r rheini a gofnodwyd ar gyfer 1999.

Yn yr Alban problem economaidd a gwleidyddol ydoedd; yng Nghymru deuai ffactorau ysbrydol i'r cyfrif.

Er bod amrywiaeth fawr yn y ffordd y ffurfiwyd y grwpiau, yn eu dulliau o weithredu ac yn eu ffyrdd o drefnu a gweinyddu'r profion a rhoi cydnabyddiaeth amdanynt, yr oedd nifer o ffactorau'n gyffredin iddynt i gyd.

Nid ydyw system amaethyddol sydd wedi datblygu tros amser o fewn cyfyngiadau'r amgylchfyd yn rhydd o effeithiau'r ffactorau wrth iddynt amrywio'n flynyddol a thymhorol.

Yn gyffredinol mae systemau amaethyddol yn datblygu o dan ddylanwadau cyson hinsawdd, tirwedd a phriddoedd ond mae'r ffactorau hyn hefyd yn dylanwadu ar batrymau amaethu o fewn blynyddoedd a thymhorau.

Mae ffactorau eraill megis faint o'r iaith lafar a ddefnyddir gan yr athrawon eu hunain a'r cywair llafar a ddefnyddir yn ymwneud ag arddulliau dysgu.

`Roedd o'r farn fod rhaid i nifer o ffactorau eraill gael eu trafod law yn llaw â'r Ffi Rheoli.

Mae nifer o ffactorau yn gyfrifol am hyn ond un dylanwad pwysig fu'r llwyddiannau nodedig sy wedi arwain at ddisgwyliadau gwahanol ac uwch gan ddysgwyr wrth iddynt gofrestru ar gyfer dosbarthiadau.

Cyfuniad o'r ffactorau penodol Almaenig hyn a digwyddiadau ehangach megis y rhyfel yn Fietnam oedd thema un o areithiau cynharaf Schneider.

Mae'r ateb, bid sicr, yn gymhleth, ond dyma geisio rhoi bys ar o leiaf rai o'r ffactorau.

Aeth Gal ati i edrych ar sut yr oedd ffactorau eraill megis dosbarth cymdeithasol, addysg, a rhyw yn effeithio ar yr iaith yr oedd unigolyn yn dewis ei siarad.

Mae yna rywbeth arwyddocaol iawn yn y ffaith fod dynion yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan ffactorau o'r tu allan yn hytrach na chan broblemau personol.

Ei ddycnwch a'i wydnwch ef a gadwodd y Blaid yn fyw yn ystod y blynyddoedd anodd hyn, a'r un dewrder a fu'n gefn iddi ac a fu'n un o'r ffactorau a'i cadwodd rhag chwalu yn ystod blynyddoedd bygythiol yr Ail Ryfel Byd Yn y cyfnod cynnar hwn yr oedd dwy ochr i waith y Blaid.

O ran y Gymraeg fel iaith gymunedol, ni all y Bwrdd osod targed ar hyn o bryd gan nad yw ef na'i bartneriaid wedi bod mewn sefyllfa i ddylanwadu'n fawr hyd yma ar y ffactorau sosio-economaidd y cyfeiriwyd atynt eisoes.

Unir aelodau'r gymundod hon gan eu hanes - sef y profiad o gydfyw am ddwy neu dair mil o flynyddoedd ar y penrhyn a alwn yn Gymru; a hefyd gan ffactorau eraill sy'n cynnwys eu traddodiadau, a'r iaith Gymraeg yn bwysicaf yn eu plith; gan batrwm diwylliannol unigryw; gan sefydliadau crefyddol, diwylliannol, cymdeithasol (yn arbennig eu tîm rygbi), ac, yn awr eto, gan rai gwleidyddol; a chan yr ymwybyddiaeth o'u Cymreictod.

Ond ceir yma hefyd gasgliadau ac argymhellion sy'n ymwneud a threfniadaeth ar lefel ysgol a ffactorau ar lefel genedlaethol a allai hwyluso a grymuso dysgu pynciol dwyieithog i'r dyfodol.

Nodweddion y prif ffactorau Mae hinsawdd, tirwedd, priddoedd ac amaethyddiaeth Cymru wedi eu disgrifio'n fanwl mewn nifer o lyfrau ac erthyglau.

Mae felly yn bwysig i sicrhau y gwneir darpariaeth i wrthbwyso ffactorau negyddol y sefyllfa hon, fel y gall y plant elwa cymaint â'r fam drwy fod mewn amgylchedd gefnogol.

Gan fod y prif reswm dros y dirywiad yn un economaidd, dylid ystyried yr holl ffactorau economaidd a sosio-economaidd a allai effeithio ar yr iaith wrth ymdrin ag atgyfnerthu'r iaith yn y gymuned.

(iv) Buddsoddiant yn cael ei bennu gan ffactorau y tu allan i'r model, h.y., yn amryweb alldardd;

(Ffactorau cymdeithasol, galwedigaethol, hanesyddol, cefndirol etc).

Mae llais ochr arall y ffôn yn ei rybuddio fwy nag unwiath taw annoeth fyddai parhau gyda'r ymchwil, ond mae styfnigrwydd, ymhlith ffactorau eraill, yn sicrhau bod Alun yn glynu'n ddygn at ei stori.

Eglurodd Cadeirydd y Cyngor bod y Pwyllgor Cynllunio yn ystyried pob cais yn ôl ei haeddiant drwy ystyried yn ddwys y gwahanol ffactorau.