Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffarm

ffarm

Mae wedi cael sawl swydd - bu'n was ffarm i Stan Bevan yn Llwynderi Fawr, bu'n borthor mewn ysbyty, bu'n ofalwr ym Mrynawelon, bu'n gweithio gyda'i ffrind gorau, Dic Deryn a bu'n borthor mewn gwesty yn Cheltenham.

Yn sicr roedd amrywiaeth o bobl o wahanol oedran yno eleni syn profi apêl yr wyl - gyda'r teuluoedd yn mwynhau gweithgareddaur dydd ar bobl ifanc yn ei rocio hi ar ffarm Morfa Mawr gyda'r nos.

Caniatáu gweithio ar waith glo brig mwyaf Ewrop ar ffarm Selar, Glyn-nedd.

Yn Llanrug roeddwn yn byw ym Mryn Tirion wrth ochor ffarm Minffordd.

Mae prinder adlodd i besgi wyn ar ambell ffarm ac mae eraill, lle bu gwrteithio am ail dyfiant, yn ceisio ennill crop ychwanegol o silwair yn yr hydref.

Fel y caent drafferth i gadw gweision a morynion, ac yn y diwedd gorfod gwerthu'r ffarm, a'r modd y bu iddynt gweryla'n chwerw, a hynny yng ngŵydd pawb, ar ddydd yr arwerthiant.

Rhoi rhestr hir o gyfarwyddiadau i Wali a'r bechgyn gan obeithio fy mod wedi dewis wythnos weddol ddidramgwydd ar y ffarm.

Doedd yno ddim ond chwarel, tair ffarm a stesion gwylwyr y glannau.

Ar hyn o bryd mae Mrs Freeman yn byw y gaeaf gyda Rita yn Trelew, ac yn ystod yr haf, ar y ffarm gyda Homer.

"Bob yn ail ddiwrnod," ebe Owen Owens, gan aros i boeri i'r tân, 'y ngwaith i oedd mynd lan ar hyd llwybr mynydd i ryw hen dŷ allan tua milltir o'r tŷ ffarm, a llanw'r rhastal â gwair o'r dowlad, a rhoi gwellt glân o dan y bustych ac edrych eu bod nhw'n iawn.

Cyn dyfodiad y peiriannau sydd â rhan mor amlwg heddiw yng ngweithgarwch y ffarm, ymweliad brysiog yn unig a wneid â'r ffair a gynhelid yn fisol.

Byddem yn gorfod mynd i godi tatws a chydweithio efo carcharorion rhyfel yn y gorchwylion hynny; ond gan mai ffarm oedd fy nghartref bu+m yn ffodus o gael gweithio gartref neu ar fferm f'ewythr ym Mach-y-Saint.

Archebodd ddwy dorth ar ffurf ysgub gan y pobydd a thwrci o ffarm y Fron.

Roedd y llall, y Massey bach a oedd ar y ffarm, cyn ei wraig, ar ben yr allt.

Daeth yn adeg anodd arnynt ac fe aeth y ffarm i arwerthiant.

Ar ddiwedd Cysgod y Cryman awgryma Harri mai ar rent gan Edward Vaughan y bydd y fferm ac erbyn Yn ôl i Leifior awgryma Marged fod gan y gweithwyr fel perchenogion 'siâr yn y ffarm ei hun' (t.

Cofiaf fel y byddem yn plastro menyn ffarm yn dew hyd-ddynt ac yna'r siwgr yn toddi'n ddi-rwgnach yn y môr melyn.

Y mae yna rai sydd wedi derbyn graddau prifysgol am lawer iawn llai nag a gyflawnwyd gan Huw Jones - bachgen o Fôn yn wreiddiol a fu am ddeng mlynedd yn was ffarm cyn troi at y weinidogaeth.

"Roedd y ffarm yma'n uchel yn y mynyddoedd ar fin llyn.

Daeth cymydog i'r drws ac meddai â'i anadl yn fyr o frysio yma, "Mae dy adwy isaf yn agored cofia ac mae'r defaid oddi yma i Pen Llyn acw ac yn y ffarm arall." Gellwch ddychmygu'r llifeiriant geiriau a ddaeth yn sgîl y sylw, "Pwy sy'n gyfrifol am hyn tybed?" Yn sydyn clywem sŵn traed yn llusgo am y t^y.

'My ydde yn well gen' i dy weld yn deiliwr nag yn was ffarm', meddai Mari Lewis wrth Rhys, ac yn wir yn brentis teiliwr y cafodd Daniel fynd, fel yr aeth Dafydd ei frawd yn brentis saer maen o'i flaen.

Ei anfon i beintio drysau a llidiardau i atal rhwd ac i harddu'r ffarm.