Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffarmio

ffarmio

I'r garej honno un diwrnod y daeth Harri Gwynn, oedd newydd symud o Lundain i Roslan i ffarmio - i gael bandiau brêc i'w gar, a chael Wil Sam yn ei wely dan y ffliw.

Mab i Mr a Mrs Glyn Williams ydyw Huw ac yn ŵyr i Mr William Williams sydd yn ffarmio yn y Bush ers rhai blynyddoedd bellach.

'Roedd Denzil yn hapus iawn ym Mhenrhewl ond bu'n rhaid iddo roi'r gorau i ffarmio ar ôl iddo gael damwain ddifrifol ac anafu ei gefn.

Mae'r actorion yn wych yn y ffordd y maent yn portreadu'r cymeriadau hynod oedd unwaith yn ffarmio'r llethrau ar hyd ddyffrynoedd Swydd Efrog.

Ni ellir dweud ei fod yn weithiwr caled, - nid trin tir, nid ffarmio oedd ei beth mawr.

Yn nyddiau bore'r byd pan oedd aroglau da ar wair yn cynaeafu, a thail yn gynnyrch porthiant o'r das, yr oedd ambell i ddiwrnod yn rhoi lle o anrhydedd i'r ferfa yng nghynllun gweinyddol economi ffarmio tyddynnod Eryri.

Trafod anawsterau ffarmio o fewn y Parc Cenedlaethol.

Efallai mai ei anhwylder â'i gorfododd i roi'r gorau i ffarmio'r Hafod er na wn i ddim i sicrwydd.

Gwneir arbrofion ar sut i ffrwyno ynni llanw ac nid yw ffarmio pysgod yn rhywbeth newydd mwyach.