Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffars

ffars

Os oedd y dorf yn ffyrnig, yna ffars a gafwyd yn y Cyngor ei hun wrth i'r cynghorwyr weiddi ar draws ei gilydd ac i'r offer cyfieithu anghyfarwydd gael ei ddefnyddio am y tro cyntaf fe ymddengys.

Ffars y garreg las oedd testun Y Byd ar Bedwar (HTV/S4C) yr wythnos hon.

'Roedd yr hyn ddigwyddodd wedyn fel ffars Brian Rix; nhad yn neidio o'i wely, y tŷ'n ysgwyd, drws ystafell gysgu mam a nhad yn agor a chau, drws ystafell gysgu ni yn agor, yr ystafell fel bedd, Wili a Glyn yn y gwely mawr yn cuddio o dan y blancedi a finna yn y gwely bach un lygad ar agor yn gwylio'r digwyddiadau, a gweld nhad un llaw yn dal y 'long johns' i fyny a belt yn y llaw arall yn colbio'r gwely.

Efallai fod yna gynhyrchwyr annibynnol yng Ngwynedd sy'n cofio ymadrodd Marx am hanes yn ei ailadrodd ei hun, y tro cyntaf fel trasiedi, yr eildro fel ffars.

Y ddrama orau yn y cystadlaethau canlynol: comedi neu ffârs ar gyfer cwmniau drama gwledig, drama hir, drama fer.