Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffasiynol

ffasiynol

Chwaraeodd John Lenney Junior gerddoriaeth fel sydd yn y clybiau nos mwyaf ffasiynol yn The Club.

Yn sicr doedd o ddim yn beth oedd pawb yn yr ysgol yn 'neud, felly doedd o ddim yn ffasiynol a doedd ddim yn beth oedd yn cael ei ddisgwyl ohona'i gan unrhyw aelod arall o 'nheulu.

Ac yntau'n ddi-nod ei uchelgais, nid yw o bwys iddo ef fod yn 'fodern' nac yn ffasiynol nac yn 'safonol': ychydig o fyfiaeth sydd ynddo.

Ac fe ddaeth yn ffasiynol ymysg nofelwyr hanes yn ddiweddar - fel pe baent yn euog o'u tuedd i roi pen yn nhywod y gorffennol - i bwysleisio mor gyfoes yw arwyddocad eu gwaith.

Mae'n ffasiynol iawn y dyddiau yma i gwyno bod y Nadolig yn cael ei ddathlu mewn ffordd sy'n llawer iawn rhy faterol, a bod gwir ystyr yr ŵyl wedi ei hen anghofio gan y rhan fwyaf ohonom ni.

Ni allai lai nag ymagweddu - yn y lle cyntaf, fodd bynnag - fel nofelydd Victoraidd, llenor a oedd yn drwm dan ddylanwad dulliau ffasiynol nofelydda yn yr oes honno.

Maen gyflwr hynod o ffasiynol sy'n apelio at ferched ac ymhlith y JGEs syn cael eu rhestru i brofi hynny y mae y cogydd teledu, Jamie Oliver, yr actor, Jude Law ar canwr, Robbie Williams.

Nid Iolo oedd yr unig ysgolhaig yn y cyfnod hwnnw gyda dychymyg rhamantus oherwydd roedd hi'n ffasiynol i ddisgrifio ffosiliau megis y wystrysen Gryphaea fel 'ewin bawd y Diafol'.

Uchafbwynt lluniaeth yr wythnos (sylwch ar y clefyd o'r ymadrodd ffasiynol newydd i olygu pethau ar y teledu!) wrth gwrs oedd y telynathon o'r HêndyGwyn-ar-Dâf.

Mae hyn yn gyson â'r cysyniad ffasiynol yn ninasoedd Lloegr o ysgolion mawr a grymus yn cystadlu â'i gilydd yn y 'farchnad' am ddisgyblion.

Gwn ei bod yn ffasiynol pysgota pluen - wleb a sych am lasgangen - a hyd Ddiolchgarwch caf ddileit wrth wneud hynny.

Efallai oherwydd yr union reswm hwnnw, mae'n ffasiynol i gymeradwyo'r arlunwyr hynny fu'n chic i'r fynegiaeaeth hon.

Mae'n bwnc reit ffasiynol.

Rhag ofn i chi fynd i guddio y tu ôl i'r soffa a chymryd arnoch bod yna neb adre, fe fyddai'n werth cofio eich bod chi'r un mor debygol o ganfor menyw dal, ffasiynol ei gwisg, â chrop o wallt gwyn, yn sefyll ar y rhiniog â chriw o Dystion Jehovah.

Yn ôl adroddiad mewn papur newydd mae hi'n dechrau dod yr un mor ffasiynol unwaith eto i ddadlau dros brisiau mewn siopau a marchnadoedd yng ngwledydd Prydain ag yw i ym masârs a chasbas y dwyrain.

Nid oedd ei llais ychwaith o help i'w gosod yn rhengoedd yr actoresau llwyfan ffasiynol.

Doedd dim y gallai'i wneud am y moelni chwaith ac eithrio talu crocbris yn un o salonau gorau'r brifddinas am doriad da, ffasiynol.

Ac yn y rheolau sy'n dilyn, gwaherddir torri addewid, amharchu'r Saboth, glythineb mewn bwyta ac yfed, gwisgo dillad ffasiynol sy'n meithrin balchder, anlladrwydd a gwastraff.

Dyrchafai hynny fri y teulu ymhlith bonedd eraill llai ymwthiol yng ngogledd Cymru ar y naill llaw a'r cylchoedd ffasiynol yn Lloegr ar y llaw arall.