Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffawd

ffawd

Does gan y darllenwr ddim ots beth fydd eu ffawd oherwydd eu bod mor debyg i gymeriadau llachar gêm compiwtar, ond efallai mai dyna'r bwriad.

Roedd y brawd a ddwrdiai ffawd eu dadau wrth y ffenest wedi sylwi ar rywbeth go bwysig.

Y ffaith eich bod am ddilyn ffawd rhyw gymeriad truenus neu weld cyfiawnder mewn sefyllfa anghyfiawn.

Y peth trist ynglŷn ag anifeilaid meddwn i wrthyf fy hun, yw eu bod yn peri i ddyn fynd yn dduw bach sy'n pennu eu ffawd ac yn gwybod y gwaethaf cyn i hynny ddigwydd iddynt.

Wrth drafod ei ffawd canfyddir yn yr History adwaith Maredudd i chwilfrydedd ei garennydd pan symudodd i'r cwmwd anghysbell hwnnw.

Ac meddir ar glawr Cribau Eryri Rhiannon Davies Jones - sydd hithau'n ymdrin a'r drydedd ganrif ar ddeg : Mynegir ofn ac ansicrwydd gwreng a bonedd yn wyneb creulondeb yr amseroedd a mynych droeon Ffawd....Efallai y gwelir yma arwyddocad cyfoes yng nghymedroldeb meibion y Distain, yng ngweledigaeth y Mab Ystrwyth ac yn bennaf yn nelfrydiaeth yr Ymennydd Mawr.

A bwrw bod y fath ymgyrch yn llwyddiannus, beth fydd ffawd y Protestaniaid wedyn?

El Hadad oedd ef mwyach roedd ganddo ei babell ei hun a hawl i'w siâr o unrhyw ffawd dda a ddigwyddai i'r llwyth, boed yn ganlyniad ffeirio neu ergyd lwcus at gase/ l.

a gâf awgrymu ichwi y gellir amau'n gryf ddilysrwydd egwyddor tebyg i'r un yr ydych chwi sydd o blaid rhyfel amddiffynnol yn sefyll wrthi, ac na ellir ei gweithredu heb ei bod yn arwain o raid, fel canlyniad i hynny ac mor anochel â ffawd, i holl gamwedd ac erchylltra yr holl drefn ?

Ond nid rheolwr ei weithredoedd a chrewr ei ffawd ei hun oedd dyn yn awr, eithr creadur nwyd, creawdwr cyffro.

Wrth fynd heibio'r gornel, fe welodd eu car yn plymio dros y dibyn a'r fadarchen o betrol llosg yn selio ffawd y ddau am byth.

Bu profiad arall, mae'n ymddangos, yn drech nag amynedd y rhadlonaf o gystadleuwyr ac yn ddigon i'w ddarbwyllo rhag herio ffawd am y trydydd tro.

Maen rhaid ei fod yn sylweddoli mai'r un peth sydd debycaf o adfer ei ffawd wleidyddol yw lluniau teuluol o'r arweinydd Ceidwadol yn gwenun garuaidd wrth i Fabi Hague gymryd ei gamau cyntaf.

Ar waethaf y datblygiadau syfrdanol ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg, yr un yw'r natur ddynol o hyd ac mae'r gred fod anlwc a ffawd yn rheoli ein bywydau yn dal mor gryf ag erioed.

Ac yng Ngwledydd Cred, drwy'r canrifoedd hir o amser Paul hyd at o leiaf yr ail ganrif ar bymtheg, uniaethwyd mewn ffordd ryfeddol ffawd y Cristion unigol a phwrpas Duw fel yr amlygid ef drwy hanes.

Pe ai'r ddwy gneuen i wahanol gyfeiriadau ar adegau gwahanol gwahanu fyddai ffawd y cariadon.

Rhywbeth tebyg fydd ffawd Huw Ceredig (Reg Harries y Cwm (BBC)) dybiwn i.

Efallai mai'r person mwyaf diddorol oedd Twi, dyn digartref o Gaerdydd a brofodd newid dramatig yn ei ffawd ei hun yn ystod y gyfres.

Y mae dyn erioed wedi dymuno ennyn bendith y duwiau, ymatal rhag herio ffawd a rhagluniaeth ('Fe ddof yfory, os byw ac iach...' ) Mae'n awyddus i ennill lwc dda a chael bod yn ffortunus neu'n ffodus mewn bywyd (ansoddair sy'n tarddu o'r gair 'ffawd').

Efallai mair person mwyaf diddorol oedd Twi, dyn digartref o Gaerdydd a brofodd newid dramatig yn ei ffawd ei hun yn ystod y gyfres.