Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffermdai

ffermdai

Ni wn am harddach tai na ffermdai unigryw yr Engadin - y pyrth mawr bwaog ar gyfer troliau, y ffenestri dyfnion ciwbig, y rhwyllwaith haearn, y patrymau a'r arfbeisiau a'r adnodau Romaneg ar wyngalch neu hufengalch y talcenni, heb son am banelau a nenfydau a meinciau pin y parlyrau gyda'u stofiau anferth addurnedig.

Dyma wlad o'r fath dlysaf - gwlad wedi bod unwaith, y mae yn amlwg dan driniaeth uchel; palasau a ffermdai mawrion ar bob llaw i mi, ond heb neb yn byw ynddynt - eu ffenestri yn yfflon, y muriau o'u cwmpas wedi syrthio, y perllanau mawrion a'r gerddi yr un ffordd â'r meysydd, a'r meysydd yn anialwch.

Roedd y bobl wedi gadael y ffermdai.

I ddifyrru'r amser, fel petai, cydiodd mewn dyrnaid o dai a ffermdai a'u gollwng yn freuddwydiol drwy ei ddwylo fel y bydd plentyn yn chwarae gyda thywod.

Ardal gwasgarog ydy Bol y Mynydd a'r ffermdai a'r tydynnod wedi eu hau yn blith draphlith dros wyneb y rhostir ac, yn ôl un hen goel, y cawr Odo sy'n gyfrifol am y blerwch Un pnawn mwll cyrcydai Odo ar ysgwydd Mynydd yr Ystum yn ddrwg ei hwyl, a hynny am fod ganddo gorn ar fawd ei droed chwith, a hwnnw'n pigo.

Gwisgai het silc ddu pan fyddai'n mynd at ei waith yn nhai a ffermdai'r ardal.

Un canlyniad oedd gweld nifer o hen ffermdai yn cael eu troi yn dai haf, datblygiad a fyddai'n ennyn protestio yn ddiweddarach.

Y rheswm pennaf efallai yw'r trefniadau amherffaith yn y ffermdai hynaf sy'n gadael y ddau ryw ormod gyda'i gilydd a hynny hyd yn oed yn y nos'.

Nid ychwanegwyd fawr ddim ers yr ail ganrif ar bymtheg i darfu ar ei eglwys foel un gofeb a'i glwstwr o ffermdai gwynion.