Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffermio

ffermio

Rwyt ti wedi penderfynu ffermio felly?" "Do Mam." "Rydw innau wedi penderfynu hefyd." "O?

Ond os yw am fod yn awdurdod ar ffermio rhaid cydnabod mai anfantais dybryd fyddai hynny.

Dosbarth Carnedd: Mwynhaodd y dosbarth sgwrs ddifyr gan Mr Goronwy Evans, Llwyn Onn, am ddigwyddiadau ffermio mewn cyfnod o flwyddyn.

Wedyn fe gei di ffermio.

Rwyt ti'n mynd i ffermio!" Rhuthrodd ato a lapio'i breichiau am ei wddf.

O grafur ddaear â ffyn ac esgyrn i ffermio diwydiannol technolegol a bwydydd GM, bur rhaglen hyddysg, llawn gwybodaeth Fruitful Earth, yn olrhain sut y lluniwyd ein hynysoedd gan yr angen i fwyta.

Ffermwr i bob golwg ydoedd bellach ond nid oedd ffermio ond esgus dros guddio ei fusnes arall sef smyglo unrhyw beth y gallai roi ei ddwylo arno.

Mae hyn yn golygu mai dim ond dulliau ffermio isel eu gwerth y gellir eu defnyddio, megis bridio stoc, gwartheg stor, defaid a gwlân.

Ffermwyr defaid oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw, ffermio cymysg oedd yn Manafon, pobl oedd yn gweithio'n galed trwy'r flwyddyn, ond fel da chi'n gwybod mae bywyd y ffermwr defaid yn wahanol, mae o'n brysur ar adegau ond mae 'na adegau pan nad ydio'n rhyw brysur iawn, ac mae ganddo ddiddordeb mewn eisteddfodau a llunio englynion a phethe felly.

Er enghraifft, y gyfran o le a ddefnyddir ar gyfer ffermio, coedwigaeth, trefi a defnydd arall.

Mae Saddam, hefyd, wedi gwahardd ffermio mewn rhai ardaloedd...

"Ffermio?" "Ie, ffermio Maes y Carneddau." "O Alun," meddai Nia.

Mae amaethyddiaeth, er nad yw'n cyflogi gymaint ag yn y gorffennol o bell ffordd, yn dal i chwarae rhan bwysig yn yr economi, ond oherwydd y newidiadau mewn dulliau ffermio ac yn y Polisi Amaethyddol Cyffredin, mae'n debyg y gwelir gostyngiad pellach sylweddol yn y nifer a gyflogir yn ystod y deng mlynedd nesaf.

pysgota, mwyngloddio, ffermio, coedwigaeth.

Gwelwyd ar yr un pryd chwyldro ym myd ffermio.

Ag yntau yn hogyn fferm roedd ganddo nifer o gelfi ffermio cynnar i ennyn diddordeb y plant a bu'r plant yn ddiwyd yn creu rhaff wair.

Teulu o Drecastell ydynt yn wreiddiol, ac yno bu Tom Davies yn ffermio nes iddo ymddeol.

Ninnau'n y fedel yn medi plant, medi egin a blagur a dail heb lydanedd, ystod a seldrem ac ysgub a stacan o egin ir a'n llwydrew'n y fedel yn medi gwanwyn y gwyn-fan-draw y plant sydd i ffermio'r dyfodol.

Chwarelwr oedd 'Nhad yn ffermio ben bore, min nos a thros y Sul.

Nid hawdd yw gwybod pa gwrs i'w gymeradwyo i'r sawl a gais ffermio, gan fod i'r naill ffordd a'r llall ei manteision a'i hanfanteision.

Diflannodd ffermio cymysg traddodiadol a ganed 'agri-business' - o leiaf mewn rhannau helaeth o Brydain, y Cyfandir a'r Amerig.

YMHLITH YR ANIFEILIAID: Raymond B.Davies yn pori ymhlith cyhoeddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid: Amaethyddiaeth fu diwydiant pwysicaf Cymru erioed ac yn ystod canrifoedd o ffermio'r tir datblygodd ein hamaethwyr nifer o fridiau a ystyrir heddiw yn nodweddiadol Gymreig.

O grafu'r ddaear â ffyn ac esgyrn i ffermio diwydiannol technolegol a bwydydd GM, bu'r rhaglen hyddysg, llawn gwybodaeth Fruitful Earth, yn olrhain sut y lluniwyd ein hynysoedd gan yr angen i fwyta.

Dyna ydi cân pawb, dyna ydi'r allwedd i bopeth, lefel A!" "A beth wyt ti'n fwriadu ei wneud tybed?" "Ffermio Mam.

At hynny, am bob Sais a edy ei swyddfa i ddod i ffermio yng Nghymru, y mae'n bosibl y gall Cymro gael y stôl a adawodd yn wag yn Lloegr.

Byddai rhaglenni tri, pedwar a phump yn manylu ar y themâu hyn, gan ymdrin â ffermio, cludiad a datblygu diwydiannol.

Wedi rhoi'r gorau i ffermio a mynd yn drethwr, bu fyw yn llawer mwy hapus ac yn eithaf cefnog ei fyd, ac roedd ei swydd yn caniata/ u iddo gryn hamdden gyda'i lyfrau; ac ni fu neb yn caru llyfrau fwy.

Canlyniadau'r datblygiadau mewn dulliau ffermio a pholisiau cynllunio cibddall Llywodraeth Lloegr oedd y ddau amlycaf o nifer o resymau dros y diweithdra a'r diboblogi.