Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffiaidd

ffiaidd

Felly, cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, am i ti halogi fy nghysegr gyda'th holl bethau atgas a ffiaidd, byddaf finnau yn eillio, ac ni fyddaf yn tosturio; ni fyddaf fi yn trugarhau.

Roedd 'i ysgwydde'n gwingo a gwayw ffiaidd dan asgwrn 'i frest.

Yr oedd yn rhy ffiaidd ganddo ofyn am glwt iddo wedyn, ond fe ofalodd adael i bawb yn y chwarel wybod.

Llenwai'r planhigion y lle; roedd fforest ohonynt, gyda dail ffiaidd, cnawdol a choesau fel bysedd dynion marw newydd gael eu 'molchi.

Effaith colli'r ymwybod o bechod yw Moderniaeth Cristnogol, ac oblegid hynny y mae'n ffiaidd gen i.

"Mae nhw'n bethau ffiaidd.

Clywais y straeon mwyaf ffiaidd am y modd gwrthun a bwystfilaidd y ceir cyfathrach rywiol ar y prydiau hyn.