Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffibrilau

ffibrilau

Y ddamcaniaeth fwyaf poblogaidd yw bod curiad y silia a'r fflagela'n golygu bod y ffibrilau'n llithro dros ei gilydd yn hytrach na chyfangu fel y tybiwyd gynt.

Felly sefydlwyd bodolaeth breichiau bach wedi eu gwneud o'r protein dynein yn ymestyn allan o'r is- ffibril A yn y ffibrilau perifferol.

Yn olaf, roedd yna arwyddion bod yna wain ganolog yn amgylchynu'r ffibrilau canolog a bod yna gysylltiadau rhwng y wain hon a'r ffibrilau perifferol.

Gall fod gan y silia byr hyn yr holl gyfarpar hanfodol ar gyfer symud neu beidio, ond os yw blaenau'r ffibrilau sy'n ffurfio pob siliwm wedi'u cydio'n dynn yn ei gilydd, yna rhwystrir y ffibrilau rhag llithro dros ei gilydd.

Y syniad poblogaidd oedd bod rhai o'r ffibrilau yn gyfangol, tra bod eraill, y rhai canolog o bosibl, yn gymorth i ddargludo ergydynnau ar hyd y siliwm.

Yn ogystal ceir adenydd rheiddiol yn cysylltu is- ffibril A y ffibrilau perifferol yn cysylltu a'i gilydd trwy gyfrwng cysylltiadau nexin.

Tybir bod y llithro rhwng ffibrilau sy'n gysylltiedig a'i gilydd yn deillio o weithgaredd y breichiau dynein.