Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffieidd

ffieidd

Ac yr oedd dyn yn ffyrnigo a ffieiddio am fod y Philistiaid dienwaededig yn mathru'r lle sanctaidd, yn gwaredu am fod yr inffidel ddiddymwr a'i griw mor ddihidio ag a fu Antiochus Epiphanes a'i lu 'rioed, yn halogi'r cysegr a'i droi'n ffieidd-dra an~hyfaneddol yno o flaen ein llygaid:

Erlyn cwmni cyhoeddi Penguin am ffieidd-dra am gyhoeddi nofel D.H. Lawrence Lady Chatterley's Lover.

Ymadawai felly, am fis efallai, gan grwydro ar hyd a lled amryw ffermydd eraill cyn dychwelyd drachefn ato ef ac ail- ddechrau'r ffieidd-dra.

Ond mynnai cymaint o lenorion fynegi eu casineb a'u ffieidd-dod at gyflwr y byd trwy ei gystwyo'n finiog, arabus a chyrhaeddgar er mwyn codi cywilydd ar ddynion a chymdeithas trwy chwerthin am eu pennau a disgwyl y newidient eu buchedd a'u harferion, nes o'r diwedd gydnabod y modd.

Gwnaf farn â thi yng ngŵydd y cenhedloedd; oherwydd dy holl ffieidd-dra gwnaf i ti yr hyn nas gwneuthum erioed ac nis gwnaf eto.

Pam fod llysywen yn codi cymaint o arswyd a ffieidd-dra ar bobl?

meddai, â ffieidd-dra yn ei lais.